Cymorth Anfeddygol - Cynllun Gweithwyr Cefnogi
Gwybodaeth am y cymorth a ddaparwn ar gyfer myfyrwyr ag anableddau, Gweithwyr Cymorth a Darparwyr NMH Allanol.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch Cymorth Anfeddygol, anfonwch e-bost at gwaithcefnogi@bangor.ac.uk.
Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Cliciwch yma i gael Canllawiau'r Cynllun Gweithwyr Cymorth
Cliciwch yma i gael y Wybodaeth i Fyfyrwyr sy'n Derbyn Cymorth Nodiadau
Cliciwch yma i gael Polisi Cwynion - NMH
Gwybodaeth i Weithiwr Cefnogi
Cliciwch yma i gael yr Cod Ymarfer y disgwylir i chi lynu, ei ddarllen a gweithio o fewn ei ganllawiau.
Cliciwch yma i gael at ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml - mae’r cwestiynau hyn yn ymwneud â llawer o’r materion o ddydd i ddydd a all godi yn ystod y cwrs.
Dyddiadau Fforwm Mentora
Dydd Mercher 13fed Tachwedd 2024 - 14:00-16:00
Dydd Mercher 12fed Mawrth 2025 - 14:00-16:00
Cymorth mewn Arholiadau
Bydd ar rai myfyrwyr angen cymorth mewn arholiadau. Mae hyn fel rheol ar ffurf rhywun i ddarllen y papur arholiad i’r myfyriwr, ysgrifennydd, neu’r ddau (a elwir yn Amanuensis yn aml). Ni ddylai’r cymorth hwn roi unrhyw fantais annheg nac anfantais chwaith i'r myfyriwr. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cymorth yn ystod arholiadau, cysylltwch â Chydlynydd y Gweithwyr Cefnogi o leiaf bythefnos cyn dyddiad dechrau’r arholiadau.
Darllenwr Papurau Arholiad: Rhoi cymorth i fyfyriwr drwy ddarllen y papur arholiad. Yn ogystal, ar gyfer myfyrwyr gyda nam ar eu golwg, rhoi gwybodaeth o’r llenyddiaeth brintiedig sydd ar gael i ymgeiswyr sy’n gweld.
Ysgrifennwr mewn Arholiad: Ysgrifennu neu deipio ar brosesydd geiriau atebion y myfyriwr i gwestiynau. Bydd angen i chi ddarllen atebion y myfyriwr yn ôl iddo/iddi, yn ogystal â diwygio diagramau, graffiau a chymhorthion gweledol eraill yn ôl cyfarwyddiadau’r myfyriwr.
Mae’n fanteisiol i fyfyrwyr gael sesiwn ymarfer gyda'u gweithiwr cefnogi cyn yr arholiad.
Gwasanaethau Anabledd, Gwasanaethau Myfyrwyr: Canllawiau i Ddarparwyr Cymorth Anfeddygol Allanol
Cliciwch yma Canllawiau i ddarparwyr cymorth anfeddygol allanol
Diweddarwyd Mis Awst 2024