Ymarferydd Iechyd Meddwl
Mae ein Hymarferwyr Iechyd Meddwl yn rhan o Dîm Lles Myfyrwyr y Brifysgol ac maent yn cynghori ar faterion iechyd meddwl ac chynnig arweiniad ynglyn ag asesu a thrin cyflyrau iechyd meddwl. Gallant asesu myfyrwyr sy’n cyflwyno symptomau posibl o salwch meddwl, neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl, ac aros yn wyliadwrus neu’u cyfeirio i’r GIG yn ol yr angen.
Dylid cyfeirio pob ymholiad ac archeb at gwasanaethaulles@bangor.ac.uk
Os ydych chi’n...
- pryderu am iechyd meddwl myfyriwr
- dioddef o straen neu ofid sy’n effeithio ar eich astudiaethau
- pryderu am newid na ellir ei egluro yn ymddygiad, hwyliau neu ymddangosiad rhywun?
- (neu fyfyriwr rydych yn ei adnabod), yn cael trafferth i ymdopi â gweithgareddau o ddydd i ddydd?
Efallai y gall Cynghorwr Iechyd Meddwl helpu.
Beth rydyn ni’n ei wneud...
- Helpu nodi’r risgiau iechyd meddwl cyfredol a ffactorau i amddiffyn myfyrwyr unigol.
- Darparu ymyrraeth neu fonitro byr, pan fo angen, i atal dirywiad mewn iechyd meddwl.
- Eu hannog i droi at asiantaethau eraill, neu ymyriadau clinigol, pan fo anen hynny.
- Annog strategaethau hunangymorth diogel, effeithiol, a lefelau priodol o gefnogaeth anffurfiol, i gynyddu iechyd ac annibyniaeth gadarnhaol.
- Trafodwch strategaethau, neu ffynonellau cymorth, os yw astudio’n effeithio ar iechyd meddwl, a rhoi addasiadau rhesymol ar waith i gael gwared ar rwystrau a rheoli effaith cyflyrau iechyd meddwl ar brodfiad y myfyriwr o’r Brifysgol.
- Cysylltu a’r staff academaidd a staff eraill y Brifysgol, cynrychiolwyr y myfyrwyr a gwirfoddolwyr, ac asiantaethau allanol, i hyrwyddo iechyd meddwl a lles myfyrwyr.
- Gweithio mewn ffordd amlddisgyblaethol er lles myfyrwyr unigol.
- Cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl/cymorth cyntaf i staff, a rhoi cefnogaeth i staff sy’n poeni am iechyd meddwl eu myfyrwyr.
- Cynghori ar ddarpariaeth gynhwysol o ran addysgu, dysgu a chegnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr yn y Brifysgol.
Pwy ydyn ni?
Mae’r Ymarferydd Iechyd Meddwl wedi’u cofrestru gyda corff profesiynol. Maent hefyd yn gyfranwyr gweithredol i Rhwydwaith Chynghorwyr Iechyd Meddwl Brifysgol sydd ar nod o rannu arferion da a dylanwadu ar ddatblygiadau ar draws y sector.