Myfyrwyr sy’n byw gartref
Un o’r stereoteipiau niferus am fyfyrwyr yw eu bod i gyd yn byw yn neuaddau preswyl y brifysgol neu mewn ystafell wedi ei rhentu. Ond stereoteipiau ydy’r rhain ac nid ydynt yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa.
Felly os ydych yn un o’r llu myfyrwyr sy’n byw gartref gyda’ch teulu yn hytrach na’n byw mewn llety myfyrwyr ym Mangor, peidiwch â phoeni. Peidiwch â meddwl am funud nad ydych yn fyfyriwr go iawn neu eich bod yn rhywun o’r tu allan.
Mae bob myfyriwr yn cael profiad myfyriwr gwahanol – wedi’r cyfan, rydym i gyd yn unigolion a byddwn yn cymryd y rhannau hynny o fywyd myfyrwyr sy’n gweddu i ni. Mae tua 11,000 o fyfyrwyr ym Mangor ac mae hynny’n golygu 11,000 o wahanol brofiadau myfyrwyr.
Mae penderfynu peidio byw mewn llety myfyrwyr yn un o’r dewisiadau sy’n creu profiad unigol i chi fel myfyriwr yn union fel mae’r penderfyniadau rydych yn eu gwneud wrth ddewis modiwlau, ac wrth ddewis pa glybiau a chymdeithasau i ymuno â hwy a pha brojectau gwirfoddoli i gymryd rhan ynddynt. A chyda phob dewis byddwch yn ymwneud ag agwedd wahanol ar y brifysgol ac yn cwrdd â llawer o wahanol bobl.
Mwynhewch eich amser yma: gwnewch yn fawr o bob cyfle a phrofiad sydd ar gael i chi a chofiwch y manteision sydd gennych o fyw gartref. I lawer ohonoch mae’n ddewis da yn ariannol, ac yn golygu benthyciadau myfyrwyr is a gallu aros mewn swydd ran-amser a oedd gennych cyn dod i’r brifysgol. I rai ohonoch, mae aros gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yn bwysig iawn ac mae’n rhywbeth sy’n aml yn anodd i bobl sy’n byw oddi cartref.
Fel y dywedodd un myfyriwr ychydig o flynyddoedd yn ôl:
“Rydych yn lwcus o gael eich teulu i fynd adref atynt bob diwrnod.”
Mae adegau pan fydd angen gwybodaeth neu gyngor ychwanegol ar fyfyrwyr bob amser, boed hynny’n ymwneud ag astudio, arian neu faterion unigol ac mae cyngor cyffredinol ar gael trwy ddilyn y cysylltiadau isod:
Ond os fyddai’n well gennych siarad â rhywun yn bersonol, yn enwedig am faterion sy’n ymwneud â bod yn ‘fyfyriwr cartref’, dylech gysylltu â:
Gwasanaethau Myfyrwyr | Undeb Bangor |
---|---|
Huw Jones | Ymholiadau Cyffredinol |
studentsupport@bangor.ac.uk | undeb@undebbangor.com |