Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Darpariaeth Ffydd Lleol
- Adnoddau Caplaniaeth (a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol)
- Tîm y Gaplaniaeth
- Cwrdd â tîm y Gaplaniaeth
- Gweddïau Fwslimaidd
- Newyddion a Digwyddiadau
- Myfyrdod y Mis
- Profedigaeth
- Cymdeithas Staff Cristnogol Prifysgol Bangor
Gweddïau Fwslimaidd
Mae’r Ystafell Gyfarfod yn Anecs Rathbone ar gael ar gyfer Gweddïau Mwslimaidd rhwng 12.30–3.30 dydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r ystafell wedi’i rhannu’n ddwy â llen er mwyn rhoi man gweddïo ar wahân i ddynion a merched gyda mynedfeydd ar wahân. Mae cyfleusterau ymolchi ar gael yn y toiledau i ddynion, merched a’r anabl.
Oherwydd bod yr Ystafell Gyfarfod yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau ffydd eraill, ni ddylid gadael unrhyw eitemau personol yn yr ystafell.
Ar rai achlysuron, gall yr Ystafell Gyfarfod fod wedi’i harchebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau eraill yn ymwneud â ffydd. Rhoddir o leiaf bythefnos o rybudd am unrhyw ddyddiau pan nad yw’r ystafell ar gael i ddibenion Gweddïo Mwslimaidd.
Mae’r ‘Ystafell Dawel’ lai yn agored drwy’r dydd i fyfyrwyr unigol o unrhyw ffydd – neu heb ffydd – sydd eisiau lle i weddïo’n dawel neu fyfyrio.
Gofynnir i chi anfon unrhyw ymholiadau at ffydd@bangor.ac.uk