Cwestiwn 1: Sut gall cefnogaeth sgiliau a strategaethau astudio a strategaeth arbenigol fy helpu?
- Mae sgiliau a strategaethau astudio arbenigol yn cynnig cyfle i chi weithio un i un gyda thiwtor sgiliau astudio i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i astudio’n effeithiol
- Mae gennym diwtoriaid sgiliau astudio penodol sy'n arbenigo mewn cynnig cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Gall eich tiwtor sgiliau astudio eich helpu i werthuso eich cryfderau a'ch dulliau astudio presennol a'ch cefnogi mewn meysydd a all fod yn fwy heriol i chi. Byddant yn cyflwyno amrywiaeth o strategaethau fydd yn gwella eich dysgu, megis:
- Sgiliau rheoli amser a threfnu.
- Sgiliau Darllen Academaidd ac Ymchwil:
- Technegau darllen yn effeithlon.
- Strategaethau ar gyfer dewis gwybodaeth.
- Technegau crynhoi, gwneud nodiadau a chymryd nodiadau.
- Defnyddio'r llyfrgell yn effeithiol.
- Sgiliau ysgrifennu:
- Trefnu a saernïo eich syniadau.
- Saernïo dadleuon a mynegi syniadau.
- Sgiliau sillafu, gramadeg ac atalnodi.
- Saernïo brawddegau a pharagraffau, aralleirio.
- Sgiliau golygu a phrawf-ddarllen.
- Sgiliau cyflwyno.
- Strategaethau adolygu:
- Strategaethau dysgu ar gof.
- Technegau arholiadau.
- Yn ystod y sesiwn gyntaf, bydd eich tiwtor sgiliau astudio'n gallu trafod gyda chi ganfyddiadau'r adroddiad diagnostig a'r adroddiad asesu anghenion astudio (neu eich cynghori ynghylch trefnu'r rhain) i'ch helpu i adnabod eich blaenoriaethau dysgu a'ch nodau yn y dyfodol.
- Byddwch chi a'ch tiwtor sgiliau astudio'n llunio cynllun dysgu unigol dechreuol fydd yn amlinellu eich nodau tymor byr a thymor hirach i gyflawni eich anghenion astudio penodol.
- Bydd y cynllun dysgu unigol hwn yn ddogfen hyblyg fydd yn sail i sesiynau sgiliau astudio a strategaethau arbenigol yn y dyfodol ac yn newid wrth i'r sesiynau fynd rhagddynt.
- Ar y cyd â'ch tiwtor sgiliau astudio byddwch yn gallu canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau astudio, gan werthuso'r technegau yr ydych wedi eu rhoi ar waith, a monitro'r cynnydd yr ydych yn ei wneud.