Gwybodaeth i Weithwyr Cefnogi
Gwybodaeth Bwysig
Mae’r Cod Ymarfer y disgwylir i chi gadw ato i’w gael yma
Disgwylir i chi ddarllen y Cod Ymarfer a gweithio o fewn ei ganllawiau.
Gellir mynd at y canllawiau a luniwyd ar gyfer y myfyrwyr sy’n defnyddio’r Cynllun Gweithwyr Cefnogi yma.
Mae Cwestiynau a Ofynnir yn Aml i’w gael yma.
Mae’r cwestiynau hyn yn ymwneud â llawer o’r materion o ddydd i ddydd a all godi yn ystod y cwrs.
Os dymunwch gysylltu ag aelod o’r Tîm Anabledd, anfonwch e-bost at gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk.
Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â chymryd nodiadau, anfonwch e-bost at gwaithcefnogi@bangor.ac.uk.
Dyddiadau Fforwm Mentora
Dydd Llun 18fed Tachwedd 2019, 2yp-4yp Ystafell Cledwyn 3
Dydd Gwener 13fed Mawrth 2020, 2yp-4yp Ystafell Cledwyn 3
Cymorth mewn Arholiadau
Bydd ar rai myfyrwyr angen cymorth mewn arholiadau. Mae hyn fel rheol ar ffurf rhywun i ddarllen y papur arholiad i’r myfyriwr, ysgrifennydd, neu’r ddau (a elwir yn Amanuensis yn aml). Ni ddylai’r cymorth hwn roi unrhyw fantais annheg nac anfantais chwaith i'r myfyriwr. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi cymorth yn ystod arholiadau, cysylltwch â Chydlynydd y Gweithwyr Cefnogi o leiaf bythefnos cyn dyddiad dechrau’r arholiadau.
Darllenwr Papurau Arholiad: Rhoi cymorth i fyfyriwr drwy ddarllen y papur arholiad. Yn ogystal, ar gyfer myfyrwyr gyda nam ar eu golwg, rhoi gwybodaeth o’r llenyddiaeth brintiedig sydd ar gael i ymgeiswyr sy’n gweld.
Ysgrifennwr mewn Arholiad: Ysgrifennu neu deipio ar brosesydd geiriau atebion y myfyriwr i gwestiynau. Bydd angen i chi ddarllen atebion y myfyriwr yn ôl iddo/iddi, yn ogystal â diwygio diagramau, graffiau a chymhorthion gweledol eraill yn ôl cyfarwyddiadau’r myfyriwr.
Mae’n fanteisiol i fyfyrwyr gael sesiwn ymarfer gyda'u gweithiwr cefnogi cyn yr arholiad.