Adnabod y broblem
Yn gyntaf, ceisiwch fynd i wraidd y broblem. Ystyriwch a yw'n cynnwys un neu ragor o'r canlynol:
- cynnwys academaidd / arddull y cwrs
- y brifysgol yn ehangach
- profiad cyffredinol y myfyrwyr
- problemau personol megis:
- o iechyd
- o amgylchiadau teuluol
- o materion ariannol
Gan ddibynnu ar natur y pryderon, mae'n bosib y byddai modd eu datrys trwy siarad ag aelod o'r staff.
Byddai'n syniad da i chi siarad â'ch Tiwtor Personol yn syth os oes gennych chi unrhyw bryderon ac os yw'n briodol, mi wnân nhw eich cyfeirio chi at y Tîm Cefnogi Myfyrwyr yng Ngwasanaethau'r Myfyrwyr. Fel arall, os yw hynny'n well gennych, gallwch gysylltu â'r Tîm Cefnogi Myfyrwyr yn uniongyrchol. Pwy bynnag y siaradwch chi â nhw, mi wnân nhw wrando ar eich pryderon chi a rhoi gwybodaeth i chi a allai eich helpu chi oresgyn y problemau.
Fodd bynnag, os wnaiff hynny ddatrys pethau a'ch bod chi'n dal i ystyried rhoi'r gorau i astudio, efallai y bydd angen i chi roi rhagor o ystyriaeth i'r sefyllfa ac ystyried a ddylech:
- newid cwrs ym Mangor
- cymryd seibiant o astudio
- trosglwyddo i Brifysgol wahanol
- ymadael ag Addysg Uwch yn gyfan gwbl