Arholiadau – Gwybodaeth Bwysig
Mae amserlen arholiadau mis Ionawr bellach ar gael ar-lein i fyfyrwyr (https://www.bangor.ac.uk/ar/main/assessment/amserlen-arholiadau/)
Mae’n rhaid i fyfyrwyr gyda Chynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP) archebu'r addasiadau rydych eu hangen cyn POB cyfres o arholiadau diwedd semester ar unwaith ar ôl i'r amserlen arholiadau gael ei chyhoeddi.
E-bostiwch arholiadau@bangor.ac.uk cyn gynted ag y bo modd a erbyn dydd Gwener, 8 Rhagfyr gyda'r manylion canlynol:
- Eich enw a'ch rhif myfyriwr.
- Eich blwyddyn astudio ac enw eich rhaglen radd.
- Cod modiwl yr arholiad(au) rydych yn eu sefyll, ynghyd â'r dyddiad y byddwch yn eu sefyll.
- PA RAI o'r addasiadau o'ch PLSP rydych eu hangen ym mhob un o'r arholiadau y byddwch yn eu sefyll.
Unwaith y derbynnir y wybodaeth hon, llenwir Ffurflen Addasu Arholiad a chaiff ei e-bostio atoch fel cadarnhad bod eich addasiadau wedi cael eu gwneud.
Fodd bynnag, os hoffech drafod eich trefniadau gydag aelod staff o'r Swyddfa Arholiadau, a fyddech cystal â nodi hynny yn eich e-bost ac fe drefnir apwyntiad i chi.
PWYSIG:
- A fyddech cystal ag archebu'ch trefniadau cyn gynted ag y bo modd. Os byddwch yn methu'r dyddiad (Dydd Gwener 8 Rhagfyr), ni allwn sicrhau y gallwn wneud yr addasiadau i chi. Gweler: http://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/exams.php.cy
- Myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd: cysylltwch â’ch Ysgol ynghylch addasiadau i arholiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017