Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd
Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd
Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent, fel israddedigion yn 2014/15, yn derbyn un o'r canlynol neu'n ddi-waith cyn mynd i'r brifysgol:
- Grant Dysgu Llywodraeth Cymru / Grant Cynhaliaeth
- Bwrsariaeth Cyfle
- Bwrsariaeth Foyer
- Bwrsariaeth i Bobl sy'n Gadael Gofal
- Lwfans ceisio gwaith / Cymhorthdal Incwm
Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.
Dyfernir bwrsariaeth o hyd at £500 i fyfyriwr a oedd yn derbyn y grant mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion neu roeddent yn ddi-waith.
Dyfernir £250 os oeddent yn derbyn grant rhannol pan oeddent yn israddedigion.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2015