Cadwch yr awen i lifo
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o ugain gweithdy rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu. Mae’r gyfres yn cynnwys y themâu canlynol:
- Ymdrin ag Astudio Academaidd
- Rheoli Eich Amser
- Beth Mae Fy Narlithwyr yn ei Ddisgwyl Ohonof i?
- Gwneud Nodiadau Darlith a Seminar
- Ysgrifennu Academaidd: Dechrau Arni
- Dadansoddi Cwestiynau Traethawd
- Beth Ddylwn i Ei Ddarllen?
- Gwneud Synnwyr o’r Gwaith Darllen
- Gwneud y Mwyaf o’ch Gwaith Darllen
- Cynllunio Traethawd
- Ysgrifennu Beirniadol
- Cymryd Safbwynt Beirniadol
- Gwella’ch Graddau
- Osgoi Llên-ladrad
- Aralleirio Eich Ffynonellau
- Rhagarweiniad a Diweddglo
- Gwneud i’ch Ysgrifennu Lifo
- Paragraffau Da
- Prawfddarllen
- Arbenigo mewn Arholiadau
Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen gyfan o weithdai, neu ddewis y gweithdai hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim, a gallwch archebu eich lle ar-lein. Bydd yr holl weithdai yn cael eu cynnal yn ddigidol drwy’r Saesneg ar Blackboard Collaborate. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch astudiaethau. Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth o gefnogaeth astudio sydd ar gael i chi. Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth o gefnogaeth astudio sydd ar gael i chi.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2020