Cyngor Arholiad
Er mwyn eich helpu i baratoi at yr arholiadau sydd ar ddod, mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi paratoi dau adnodd ar-lein newydd. Gallwch ddefnyddio’r adnodd ‘31 Successful Exam Revision Strategies’ i ddysgu am amrywiaeth eang o dechnegau adolygu. Neu gallwch ddefnyddio'r adnodd 'Great Exam Revision Timetable' i ddysgu sut i reoli eich amser yn effeithlon a gwneud y mwyaf posib o’ch amser wrth adolygu at arholiadau.
Mae nodweddion rhyngweithiol yr adnoddau yn golygu y gallwch gadw nodiadau personol am sut i ddefnyddio'r cyngor a roddir i'ch astudiaethau eich hun. Cofiwch y gallwch hefyd archebu apwyntiad un-i-un i drafod eich adolygu ar gyfer arholiadau, cwestiynau arholiad blaenorol a straen arholiadau gydag un o'n Cynghorwyr Sgiliau Astudio.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2021