Diogelu eich tŷ
Cymerwch olwg ar y poster cysylltiedig gan Heddlu Gogledd Cymru!
Hefyd, gwnewch yn siŵr bod y gwres wedi ei osod i ddod ymlaen yn rheolaidd. Cofiwch fod gwres isel cyson yn well na chyfnodau byr o wres uchel, ac wrth gwrs gofalwch fod digon o gredyd yn y mesurydd os oes gennych un. Rhowch wybod i'ch landlord pryd y byddwch yn gadael a beth yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda'r system wresogi.
Peidiwch ag anghofio gwaredu'ch sbwriel ac ailgylchu'n gyfrifol - am fanylion, ewch i: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Biniau-ac-ailgylchu/Biniau-ac-ailgylchu.aspx
Mwynhewch y gwyliau ac fe'ch gwelwn yn y flwyddyn newydd!
Swyddfa Tai Myfyrwyr / Student Housing Office
www.bangorstudentpad.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2019