Eisiau cwblhau’r GCB eleni?
Mae’r dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n cwblhau y GCB eleni ar Mai 11eg, 2022. Os ydych eisoes wedi cwblhau’r wobr, neu’n bwriadu gwneud hynny, cwblhewch y ffurflen cwblhau GCB os gwelwch yn dda.
Fel a gyhoeddwyd yn semester 1, mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi newid, ac mae cwblhau’r Wobr nawr yn haws i fyfyrwyr gymryd rhan ynddi a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr fydd wir yn eich helpu i ddarparu ar gyfer bywyd ar ôl Prifysgol, boed hynny yn eich helpu i weithio allan beth yw eich trywydd gyrfa, neu cael yn barod at broses recriwtio cyflogwyr!
Mae’r GCB yn gyfres o dasgau, gweithdai ac ymarferion adfyfyriol y gallwch weithio drwy yn eich amser eich hun ac wedi ei dylunio i'ch helpu i ddeall a datblygu eich cyflogadwyedd, tra’n adfyfyrio ar eich gweithgareddau allgyrsiol. Bydd cwblhau pob un o ofynion y Wobr yn golygu eich bod yn derbyn tystysgrif ychwanegol wrth raddio, a cydnabyddiaeth ar eich HEAR.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae’r GCB wedi newid o’r fformat blaenorol, cyfeiriwch at ein tudalen gymorth, ac ar gyfer unrhyw ymholiadau am gwblhau’r Wobr cysylltwch gyda ni ar cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2022