Fforwm Tenantiaid Myfyrwyr Bangor
A oes gennych chi unrhyw syniadau ynglŷn â thai myfyrwyr? Dewch i Fforwm Tenantiaid Myfyrwyr Bangor, y cyntaf erioed, nos Fawrth 27 Ionawr yn Narlithfa 4 am 18:00 gyda the, coffi a chacen ar gael + Pizza am ddim!
Dyma'r cyfle i leisio eich barn fel myfyrwyr! Bydd y llwyfan yma'n rhoi'r cyfle i ni gyflwyno eich pwyntiau i'r cyngor lleol, landlordiaid a'r Brifysgol i wneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau posib o lety!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch Lydia.richardson@myfyrwyrbangor.com
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2015