Gweithdai Sgiliau Ysgrifennu ac Ymchwil a mwy
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o un ar bymtheg gweithdy rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i ysgrifennu yn y brifysgol ac i’r broses ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer eich traethodau hir. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu.
Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen weithdai gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Bydd lleoliad y gweithdai yn cael eu datgelu unwaith fyddwch chi wedi archebu eich lle. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen.
Rydym wedi datblygu adnodd rhyngweithiol a gynlluniwyd yn ddiweddar i helpu myfyrwyr i osgoi llên-ladrata, a gellir gweld yr adnodd hwn ynghyd ag adnoddau eraill ar ein gwefan. Mae ein cefnogaeth un-i-un, trwy ein apwyntiadau ysgrifennu unigol a gwasanaeth apwyntiadau a galw heibio Mathemateg ac Ystadegau ar gael i’ch galluogi i leddfu eich pryderon am eich aseiniad a’ch pryderon astudio. Hefyd, os ydych chi’n fyfyriwr ymchwil sy’n awyddus i drafod eich pwnc a’ch gwaith ysgrifenedig gydag eraill rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer ein grwpiau ysgrifennu PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019