Gwneud y gorau o'ch darlithoedd a'ch nodiadau
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio eich nodiadau darlith ar gyfer ysgrifennu ac adolygu, rhowch gynnig ar rai o’r dulliau a welir yn y canllaw ar-lein Gwneud y Gorau o’ch Darlithoedd. Mae’r canllaw yn archwilio ffyrdd o gymryd nodiadau ystyrlon yn ystod darlithoedd, ac yn awgrymu technegau i roi trefn ar eich syniadau wrth i chi gynllunio a strwythuro eich aseiniadau. Mae cyngor ar wneud nodiadau o ddeunydd darllen i’w weld yn ein canllaw ar-lein Ysgrifennu Nodiadau.
Os hoffech chi drafod eich dulliau adolygu a chymryd nodiadau gydag un o'n tîm proffesiynol a chyfeillgar, trefnwch apwyntiad unigol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2021