Llwyddo gyda'ch Astudiaethau
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o un ar ddeg gweithdy rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu.
Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen weithdai gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu eich lle ar-lein. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen.
Rydym wedi datblygu adnodd rhyngweithiol a gynlluniwyd yn ddiweddar i helpu myfyrwyr i osgoi llên-ladrata, a gellir gweld yr adnodd hwn, ynghyd ag adnoddau eraill, ar ein gwefan. Mae ein gwasanaeth apwyntiadau a galw heibio mathemateg ac ystadegau yn ailddechrau’n llawn ar 2il o Hydref, ac ar hyn o bryd rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer ein grwpiau ysgrifennu PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018