Llwyddo gyda'ch astudiaethau
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn anelu at gynorthwyo myfyrwyr yn ystod y broses o bontio i brifysgol a symud ymlaen trwyddi, gan godi ymwybyddiaeth ynglŷn â disgwyliadau academaidd a chan helpu myfyrwyr i ddatblygu’r strategaethau a’r prosesau a fydd yn gymorth iddynt fanteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau.
Dyma ganllaw i’ch tywys chi o amgylch y gefnogaeth sgiliau sydd ar gael i chi, p'un a ydych yn astudio ym Mangor, ar gampws Wrecsam, neu'n dysgu o bell. Dyma amlinelliad o’r cynnwys:
- Apwyntiadau unigol, lle cewch drafod eich gwaith ysgrifennu, eich dulliau astudio, a’ch problemau mathemateg ac ystadegau;
- Gweithdai sgiliau astudio ar brynhawniau Mercher, sy'n agored i bob myfyriwr ar draws pob disgyblaeth a lefel astudio;
- Adnoddau astudio ar-lein, lle cewch archwilio agweddau allweddol ar astudio academaidd yn eich amser eich hun.
Rydym wedi datblygu adnodd rhyngweithiol a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i osgoi llên-ladrata, a gellir gweld yr adnodd hwn, ynghyd ag adnoddau eraill, ar ein gwefan. Mae ein gwasanaeth apwyntiadau mathemateg ac ystadegau yn ailddechrau’n llawn ar Fedi 29ain.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2020