Mae’r GCB wedi cael Gweddnewidiad!
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi newid, ac mae cwblhau’r Wobr nawr yn haws i fyfyrwyr gymryd rhan ynddi a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr fydd wir yn eich helpu i ddarparu ar gyfer bywyd ar ôl Prifysgol, boed hynny yn eich helpu i weithio allan beth yw eich trywydd gyrfa, neu cael yn barod at broses recriwtio cyflogwyr!
Mae’r GCB nawr yn gyfres o dasgau, gweithdai ac ymarferion adfyfyriol y gallwch weithio drwy yn eich amser eich hun ac wedi ei dylunio i'ch helpu i ddeall a datblygu eich cyflogadwyedd, tra’n adfyfyrio ar eich gweithgareddau allgyrsiol. Bydd cwblhau pob un o ofynion y Wobr yn golygu eich bod yn derbyn tystysgrif ychwanegol wrth raddio, a cydnabyddiaeth ar eich HEAR. Mae gennym hefyd logo newydd – gobeithio eich bod yn hoff ohono!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae’r GCB wedi newid o’r fformat blaenorol, cyfeiriwch at ein tudalen gymorth neu cysylltwch gyda ni ar cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2021