Toes dim angen poeni 🍩 - Mae'r adran Cefnogi Myfyrwyr yma i helpu
Ydych chi’n poeni ynghylch rhywbeth? Ydy arian, tai preifat, neu sut mae'r brifysgol yn ymateb i'ch adborth yn peri dryswch i chi?
Toes dim angen bod! Bydd staff yr adran Cefnogi Myfyrwyr i’w gweld ar draws y campws rhwng 21 Mawrth a 1 Ebrill gan gynnig gweithgareddau hwyliog, gwybodaeth, cefnogaeth, ac ie - hyd yn oed doesenni am ddim 🍩 (ac ambell i syrpreis arall hefyd đź‘€!). Bydd gemau a chystadlaethau hefyd - a fyddwch chi'n ddigon lwcus i ennill gwobr?
Dyma flas o'r hyn fydd yn digwydd:
- Cefnogaeth Ariannol – dyfalwch werth cynnwys y fasged, profion blasu, a gwneud cyllideb ar gyfer Apocalyps y Sombis
- Tai – cymorth a chyngor ar dai preifat, a diogelu eich blaendal
- Ennyn Diddordeb Myfyrwyr – pam fod eich adborth yn bwysig (ynghyd ag ambell syrpreis am ddim!)
- Arweinwyr Cyfoed – sesiynau galw heibio 'Holi’r Arweinwyr Cyfoed'
Methu bod ar y campws? Toes dim angen poeni – bydd gennym hefyd ddigonedd o weithgareddau ar-lein i chi gymryd rhan ynddynt!
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2022