Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol - Gweithio mewn amgylchedd rhyngwladol
Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021
3-4yp
Mae mwy a mwy o swyddi yn cynnwys gweithio gyda phobl mewn gwahanol wledydd a gwahanol ddiwylliannau. Mae hynny'n cynnig cyfleoedd enfawr, ond mae hefyd yn creu ei broblemau arbennig ei hun: mae gan bobl mewn diwylliannau eraill ffyrdd gwahanol o weithio a gwneud busnes. Efallai eu bod nhw'n meddwl, yn cyfathrebu neu yn gweld y byd mewn ffordd wahanol i chi.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei arwain gan Dr Marcel Clusa, Swyddog Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, ac yn edrych ar feysydd amrywiaeth, rhyngwladoli a ffyrdd o sicrhau gwell dealltwriaeth ar draws gwahanol ddiwylliannau mewn mannau gwaith. Archebwch eich lle fan hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2021