Swyddfa Tai Myfyrwyr
Chwilio am dŷ?
Chwilio am dŷ? Peidiwch â chwilio ymhellach!
Studentpad
Mae’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn ymdrin â llety preifat ar rent i fyfyrwyr yn bennaf. Ewch i wefan Studentpad lle gellwch chwilio drwy ein cronfa ddata am yr eiddo delfrydol i’w rentu - eiddo newydd yn cael eu hychwanegu bob dydd!
Cewch gyngor ynglŷn â thai hefyd a chysylltiadau defnyddiol ar y wefan, sy'n cynnwys llawer o wybodaeth a fydd o gymorth.
Tai ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf
Bydd Swyddfa Tai Myfyrwyr y Brifysgol yn gweithio ar yr ymgyrch dai flynyddol ym mis Hydref/Tachwedd i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i chwilio am dŷ. Felly cadwch lygad amdanom!
Paratowch i rentu - Eich canllawiau chwilio am dŷ
Rhannu Llety gyda Myfyrwyr
Ysgrifennwyd y canllawiau yma gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr a’r Tîm Gwaith Achosion Myfyrwyr, i roi gwybodaeth a chyngor hwylus i fyfyrwyr sy’n penderfynu byw gydag eraill tra byddant yn y brifysgol. Maent yn ymdrin â materion megis dewis gyda phwy rydych am fyw, a beth i'w wneud os aiff pethau o chwith. Yn ddelfrydol, dylai pawb sy'n mynd i rannu llety neu sy'n bwriadu mynd i rannu llety eu darllen.
Cwestiynau Cyffredin am dai ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Canllawiau tai i fyfyrwyr rhyngwladol: www.bangorstudentpad.co.uk/help
Gwobrau Landlordiaid
Dewch i wybod am Wobrau Landlordiaid Undeb y Myfyrwyr yma:
Myfyrwyr gyda theuluoedd
Mae gwybodaeth i fyfyrwyr â theuluoedd ar gael yma:
www.bangor.ac.uk/cy/myfyrwyr-gyda-theuluoedd
www.bangor.ac.uk/international/support/families (Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol)
Rhannu Cartref (Homeshare)
Mae Rhannu Cartref yn galluogi dau unigolyn i gyd-fyw er budd y ddau sydd ynghlwm â’r prosiect. Gan amlaf, golygai hyn berson hŷn sydd gyda ystafell sbâr yn eu cartref yn cael eu paru mewn modd diogel gyda rhywun iau a all gynnig cefnogaeth o amgylch y cartref.
I ddysgu am y project ei hun ewch i: Rhannu Cartref Gwynedd .
I ddysgu am Rhannu Cartref Gwynedd (Gwynedd Homeshare) cysylltwch â Richard, y cydlynydd, drwy e-bostio: homeshare@gwynedd.llyw.cymru
Dylai myfyrwyr rhyngwladol geisio cyngor ynghylch eu fisa gan y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol cyn ystyried cymryd rhan.
Myfyrwyr tu allan i Fangor
- Os hoffech gysylltu â Swyddfa Tai Myfyrwyr Bangor, efallai y bydd yn haws i chi gysylltu â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy Microsoft Teams.
- Gallwch hefyd ddod o hyd i Gyngor ynglŷn â Thai a Dolenni Defnyddiol ar y wefan, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth a fydd o gymorth.
- Os ydych yn chwilio am lety y tu allan i ardal Bangor, gallwch gysylltu ag asiantaethau gosod tai yn yr ardaloedd perthnasol i ddod o hyd i restrau o'r llety sydd ar gael. Mae gan wefan Shelter rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i ddod o hyd i rywle i’w rentu’n breifat a beth i’w ystyried wrth feddwl am ble i rentu:
- Cymru: https://sheltercymru.org.uk/cy/housing-advice/finding-a-place-to-live/renting-privately/how-to-find-a-place-to-rent-privately/
- Lloegr: https://england.shelter.org.uk/housing_advice/private_renting/how_to_rent_from_a_private_landlord_or_letting_agent/where_to_look_for_properties
- Ardaloedd lleol y tu allan i Fangor
- Mae manylion amserlenni bysiau ar gyfer Bangor ac ardaloedd lleol eraill (e.e. Y Felinheli, Caernarfon, Bethesda, Ynys Môn (megis Porthaethwy a Biwmares), Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy, Llandudno) i’w gweld yma:
- Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Parcio-ffyrdd-a-theithio/Amserlenni-bws/Amserlenni-bws.aspx
- Cyngor Sir Ynys Môn www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Parcio-lonydd-a-theithio/Teithio/Amserlenni-bws.aspx
- Gallwch gynllunio eich siwrnai neu weld pa opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i chi ar y wefan ganlynol: Traveline Cymru - Cynllunio Taith yng Cymru
- Wrecsam
- Mae Prifysgol Glyndŵr wedi cytuno’n garedig y gall myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam edrych ar restrau llety preifat Prifysgol Glyndŵr, sydd i’w gweld yma.
- Cyngor i denantiaid preifat gan Gyngor Wrecsam, yn cynnwys gwybodaeth am ddod o hyd i le i’w rentu: www.wrecsam.gov.uk/service/tai-preifat/gwybodaeth-i-denantiaid-preifat
- Caer
- Mae trenau fel arfer yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Bangor a Chaer. Gellir cynllunio taith ar drên a dod o hyd i wybodaeth am amseroedd trenau yma: https://trc.cymru/cynllunio-taith
- Gallwch ddod o hyd i gyngor i denantiaid ar wefan Cheshire West and Chester Council yma: www.cheshirewestandchester.gov.uk/residents/housing/private-rented-sector
- Sylwch y bydd deddfwriaeth tai yn amrywio'n fawr rhwng Cymru a Lloegr. Mae cyngor ar rentu tai preifat i’w weld yn: www.gov.uk/private-renting
Ble i ddod o hyd i’r Swyddfa Tai Myfyrwyr
Cewch hyd i’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF.
Rydym ar agor rhwng 9am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn | E-bost |
---|---|
01248 382034 | taimyfyrwyr@bangor.ac.uk |
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o’r canlynol:
Enw | Swydd |
---|---|
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Danielle Barnard | Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |