Newyddion Diweddaraf
- NEWYDD! Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
- Coronafeirws – Gwybodaeth Bwysig i Fyfyrwyr
- Trefniadau Arholiadau - Mai 2021
- Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol
- Sesiwn Galw Heibio ar-lein Cynghorwyr Anabledd
- Sesiynau Galw Heibio Iechyd Meddwl ar-lein
- Gwybodaeth ddefnyddiol
- TextHelp Read & Write
- Colli cyfarfodydd gyda'ch Mentor
- Gwasanaeth Anableddau wedi ennill statws 'Epilepsy- Gyfeillgar'
NEWYDD! Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Ydych chi ar fin graddio, ond nid ydych chi'n siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd, neu efallai yr hoffech chi gael mwy o gefnogaeth i fynd i mewn i fyd gwaith?
Mae ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion newydd yn cefnogi graddedigion o 2019, 2020 a 2021 sydd wedi'i chael hi'n heriol dod o hyd i waith o ganlyniad i'r pandemig.
Bydd y rhaglen yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar raddedigion (gan gynnwys ôl-raddedigion) i ddod o hyd i gyflogaeth. Bydd y gefnogaeth yn cynnwys cyfres oddigwyddiadau cyflogadwyedd wythnosol, cefnogaeth 1:1, rhaglen strwythuredig o ddysgu ynghyd â lleoliadau a chyfleoedd gwaith.
Manylion llawn a sut i gofrestru trwy'r wefan:Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor
Neu e-bostiwch: graduatesupport@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth
Coronafeirws – Gwybodaeth Bwysig i Fyfyrwyr
Gwybodaeth am Coronafeirws (Covid-19)Llyfryn Gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ewch i Gofod Myfyrwyr i gael help i'ch cefnogi trwy'r pandemig coronafirws.
Trefniadau Arholiadau - Mai 2021
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Trefniadau Arholiadau.
Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol
Mae'r Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol (ATRs) yn fannau mynediad cyfyngedig, i'w defnyddio gan fyfyrwyr â'r addasiad hwn yn eu Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP). Er mwyn sicrhau pellter cymdeithasol, dim ond un person ar y tro all ddefnyddio'r ystafelloedd bach hyn. I drefnu amser i ddefnyddio'r YTG/ATR ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, e-bostiwch iss808@bangor.ac.uk. Gellir dal i ddefnyddio'r YTG/ATR yn Llyfrgell Deiniol ar sail galw heibio, cyn belled nad oes unrhyw un arall eisoes yn defnyddio'r ystafell.
Sesiwn Galw Heibio ar-lein Cynghorwyr Anabledd
Mae Cynghorwyr Anabledd ar gael ar gyfer slot galw heibio bob dydd Mawrth 12-1 yn ystod y tymor.
Mae Sesiynau Galw Heibio Iechyd Meddwl ar-lein
Brynhawn Mercher rhwng 2pm a 3.30pm
Yn wyneb y sefyllfa bresennol mae Cheryl, Fiona a Sioned yn cymryd ein sesiwn galw heibio wythnosol ar-lein. Bydd yn rhaid i ni ei weithio ychydig yn wahanol fel y gallwn reoli ac ymateb yn deg i fyfyrywr sydd angen siarad â ni.
E-bostiwch cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk gan nodi amlinelliad eich sefyllfa a sut mae`n well gennych i ni gysylltu â chi (galwad fideo / sain 'Microsoft Teams', galwad ffôn neu e-bost). Yna bydd Cynghorydd Iechyd Meddwl yn cysylltu â chi.
Neu
fe allech chi ymuno â ni yn ein trafodaeth grŵp, a gynhelir trwy ‘Microsoft Teams’ ymlaen llaw, 1pm - 1:30pm, gweithio ochr yn ochr â Connect@Bangor - svbconnect@undebbangor.com i siarad am bob agwedd ar lesiant. Nid ydych o dan unrhyw bwysau i siarad; gallwch wrando, ac anfon neges breifat at un o'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl i ofyn am apwyntiad yn y sesiwn galw heibio sy'n dilyn.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Rheoli pryder
Mae'r elusen iechyd meddwl, MIND, yn darparu rhai cysylltiadau rhagorol yn ymwneud â coronafirws a lles. Mae cyswllt i awgrymiadau ymarferol ynglŷn â gofalu am eich lles wedi'i chynnwys ar waelod y dudalen hon.
Adnoddau Iechyd Meddwl Ar-lein
Coronafirws (Covid-19)
Os ydych yn ansicr â phwy i gysylltu, e-bostiwch gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk . Sylwer y bydd staff yn gweithio eu horiau swyddfa arferol ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallant.
TextHelp Read & Write
Mae gan Brifysgol Bangor drwydded safle ar gyfer TextHelp Read & Write - meddalwedd testun-i-leferydd sy'n galluogi myfyrwyr i wrando ar unrhyw ddogfen, gan gynnwys Word, PDFs a thudalennau gwe. Oherwydd bod campws y brifysgol wedi cau, mae bellach yn bosibl cael y feddalwedd dros dro ar gyfer eich cyfrifiadur cartref eich hun, i'ch galluogi i barhau i ddefnyddio Read&Write tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gosod y feddalwedd i'w defnyddio gartref, gwiriwch eich e-bost at canolfan_access@bangor.ac.uk am gyfarwyddiadau.
Colli cyfarfodydd gyda'ch Mentor
Newidiadau i'r Lwfans Myfyrwyr Anabl
Bellach mae rheolau llym iawn ynglŷn â cholli sesiynau a rhaid inni fonitro presenoldeb myfyrwyr yn fanwl. Telir am uchafswm o ddwy sesiwn sydd wedi'u colli bob semester, ac ar ôl hynny efallai y
bydd cymorth yn cael ei atal.
Rydym yn deall nad yw bob amser yn bosib rhoi mwy na 24 awr o rybudd, ond mae'r newid i'r rheolau cyllido yn gaeth iawn, felly rydym yn monitro presenoldeb yn fanwl, ac yn gobeithio lleihau'r nifer o
sesiynau sy'n cael eu colli.
Os oes angen ichi golli sesiwn
Rhowch wybod i'ch mentor cyn gynted â phosib. Os byddwch yn rhoi gwybod iddynt fwy na 24 awr ymlaen llaw, ni fydd y sesiwn yn cael ei hystyried fel sesiwn sydd "wedi'i cholli".
Os rhoddwch lai na 24 awr o rybudd, neu os na fyddwch yn bresennol yn y sesiwn, rhaid iddi gael ei chofnodi fel sesiwn sydd "wedi'i cholli". Ni fydd mwy na dwy sesiwn sydd wedi'u colli'n cael eu cyllido drwy eich Lwfans Myfyrwyr Anabl a bydd angen i Ymgynghorydd siarad â chi cyn y gellir trefnu mwy o gefnogaeth fentora. Os byddwch yn colli sesiynau'n gyson, mae'n bosib y bydd eich arian ar gyfer cefnogaeth fentora'n cael ei dynnu'n ôl yn gyfan gwbl.
Methu mynd i'ch sesiwn fentora?
Peidiwch â phoeni! Gallwch newid ffurf eich sesiwn fentora ar y funud olaf, er enghraifft, i sesiwn dros e-bost neu ar y ffôn. Cyn belled a'ch bod mewn cysylltiad gyda'ch Mentor yn ystod yr amser a drefnwyd, nid ydych yw'r sesiwn wedi ei "cholli". Os ydych yn credu y byddai cael yr opsiwn hwn yn ddefnyddiol yn eich sefyllfa chi, gadewch i'r Ymgynghorwyr wybod a thrafodwch y peth gyda'ch Mentor.
Y prif beth yw cadw mewn cysylltiad!
Gwasanaeth Anableddau wedi ennill statws 'Epilepsi-Gyfeillgar'
Mae'r Gwasanaethau Anabledd ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â'r sefydliad 'Young Epilepsy' ac yn gymwys i gael statws 'Epilepsi-Gyfeillgar’. Ruth Coppell (Cynghorydd Anabledd) yw ein cynrychiolydd. Bwriad y nod Epilepsi-Gyfeillgar yw cydnabod y sefydliadau addysg uwch sy'n mynd gam ymhellach i wella eu dealltwriaeth o epilepsi a chefnogi eu myfyrwyr yn well.
Mae epilepsi yn aml yn cael ei gamddeall ac felly ceir dryswch wrth ddarparu cefnogaeth. Mae'r nod Epilepsi-Gyfeillgar yn rhoi'r sicrwydd bod sefydliad yn gweithio i wella ei ddealltwriaeth am epilepsi a'r gefnogaeth y gallant ei darparu.
Mae gan Young Epilepsy adran ar eu gwefan yn arbennig ar gyfer pobl ifanc mewn addysg uwch sydd ag epilepsi. youngepilepsy.org.uk/students
15.06.2021