Ymddiriedolaethau elusennol a chyllid arall
Dyma restr o elusennau ac ymddiriedolaethau addysgol sydd wedi cysylltu’n uniongyrchol â’r Uned Cymorth Ariannol i hysbysebu eu grantiau.
Cronfa Addysgol Elizabeth Nuffield (£ yn amrywio)
Cymhwyster: Mae’r Gronfa yn dyfarnu grantiau tuag at gost gofal
plant i ferched rhwng 21 a 50 oed sy’n fyfyrwyr cartref yn astudio
am eu gradd israddedig cyntaf. Nid yw myfyrwyr sy’n gymwys am grant
gofal plant gan eu Hawdurdod Addysg Lleol/ Cwmni Benthyciad Myfyrwyr yn
gymwys i wneud cais amdanynt. Nid ydych yn gymwys ychwaith os yw incwm
eich cartref yn uwch na £16,500.
Sut i wneud cais: Ewch i’w wefan i gael mwy o fanylion a ffurflen
gais.
Ysgoloriaethau Tirol Ymddiriedolaeth Studley College Trust (£ yn amrywio)
Cymhwyster: Mae’r Ymddiriedolaeth yn ceisio annog, helpu a datblygu addysg, hyfforddiant ac ymchwil mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth drwy roi help ariannol i bobl ifanc sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes, ac sydd â chyfyngiadau ariannol yn eu herbyn. Rhaid i ymgeiswyr fod dan 30 oed, yn Genedlaetholwyr Prydeinig ac wedi cael o leiaf 12 mis o brofiad gwaith cyflogedig ymarferol mewn gwaith tirol.
Sut i wneud cais: Ewch i’r wefan i gael mwy o fanylion a ffurflen gais. Dylid gwneud ceisiadau erbyn 1 Ebrill, 1 Mehefin neu 1 Awst a bydd dyfarniadau ar yr addysgedau’n cael eu gwneud yng nghyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr ym misoedd Mai, Gorffennaf a Medi.
Ymddiriedolaeth Elusennau Masnach Leverhulme (£3,000)
Cymhwyster: Myfyriwr sy’n byw fel rheol yn y DU ac yn fab, yn ferch
neu’n briod i drafeiliwr masnachol, fferyllydd neu groser.
Sut i wneud cais: Ewch i’r wefan i gael mwy o fanylion.