Sesiynau galw heibio ar fathemateg ac ystadegau
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio’n gweithio gyda myfyrwyr ar bob lefel astudio israddedig ac ôl-radd gan gynnig apwyntiadau i fyfyrwyr sydd eisiau trafod eu sgiliau ysgrifennu a'u ffordd o ymdrin ag astudio academaidd, a hefyd sesiynau galw heibio i rai'n dymuno datblygu eu sgiliau mewn mathemateg ac ymdrin ag ystadegau.
Apwyntiadau ysgrifennu unigol
Gellwch wneud trefniadau i weld ein tîm o gynghorwyr astudio a mentoriaid ysgrifennu i gyfoedion i drafod sut y gellwch ddod yn eich blaen fel ysgrifennwr academaidd. Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr drwy holl gamau'r broses ysgrifennu, o ddadansoddi gofynion tasg a datblygu drafft, i ddiwygio a chaboli'r gwaith terfynol. Os ydych yn cael trafferth i ddechrau ar aseiniadau, neu'n teimlo eich bod angen gweithio ar saernïo eich ysgrifennu neu wneud i'ch geiriau lifo, yna rydym ni yma i'ch helpu.
Mae ein cynghorwyr astudio ar gael hefyd i drafod materion cyffredinol megis rheoli amser, paratoi at arholiadau, rhoi cyflwyniadau a strategaethau darllen ac ymchwil.
Archebwch le ar-lein yn http://studyskills.bangor.ac.uk/individual-appointment.php.en neu drwy ffonio 01248 382689.
Sesiynau galw heibio ar fathemateg ac ystadegau
Cynhelir ein sesiynau galw heibio ar fathemateg ac ystadegau ddydd Mawrth (1:30 - 4:30) a dydd Mercher (10:30 - 4:30) yn ystod y tymor yn Llyfrgell Deiniol.
Mae'r gwasanaeth galw heibio hwn yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw anawsterau rydych yn eu cael gyda mathemateg ac ystadegau a gofyn y math o gwestiynau na fyddech, o bosib, eisiau eu gofyn i'ch tiwtor cwrs. Gellir rhoi cefnogaeth gydag ymarferion, taflenni tiwtorial neu hen bapurau arholiad, a chyda defnyddio pecynnau ystadegol (Excel a SPSS). Os ydych yn cael trafferth deall y fathemateg, llunio damcaniaeth, dewis y prawf ystadegol cywir, neu sut i ddehongli canlyniadau allbwn a gynhyrchwyd ar gyfrifiadur, galwch draw i'n gweld.
I gael mwy o wybodaeth sut y gall y Ganolfan Sgiliau Astudio eich helpu, ewch i’n gwefan yn http://studyskills.bangor.ac.uk/
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2016