Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mehefin 2020
Defnyddio Instagram i brofi gwybodaeth y daearyddwyr
Mae darlithwyr o Brifysgol Bangor yn defnyddio Instagram i gynnal cyfres o gwisiau cyhoeddus ynghylch Daearyddiaeth. Nawr mae'r grŵp yn agor eu sesiwn cwis Daearyddiaeth reolaidd i ddarpar fyfyrwyr a'r cyhoedd, oherwydd y diddordeb cynyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2020
Peidiwch â tharfu ar y piod y môr wrth eu cwsg!
Mae sŵolegwyr o Brifysgol Bangor wedi dangos sut all gweithgareddau dynol fod yn tarfu ar biod môr, aderyn Prydeinig sydd yn agos i fod at fygythiad. Bu’r ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y Journal of Zoology yn astudio i ba raddau y mae cwsg yr adar yn cael ei aflonyddu gan gerddwyr a phobol yn cerdded eu cŵn, a gan gychod ar y môr yn y pellter, a pha effaith gall y rhain gael ar eu hangen am gwsg a’u bywiogrwydd i unrhyw fygythiad.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2020
Sut mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ein defnydd o lecynnau gwyrdd?
Rydym yn gwybod bod cael mynediad at lecynnau gwyrdd a natur yn effeithio ar ein hwyliau a hyd yn oed ar ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae'r cyfyngiadau symud wedi newid ein mynediad at y llecynnau hyn. Pa effaith caiff hyn ar ein lles? A beth all hyn ddweud wrthym am bwysigrwydd mannau o'r fath a phrofiadau gwahanol grwpiau economaidd yn ein cymdeithas? Mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill grant gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU i ateb rhai o’r cwestiynau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2020
Noisy humans make birds sleep with one eye open – but lockdown offered a reprieve
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Graeme Shannon o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2020
Mae awyr artiffisial y nos yn fygythiad mawr i rywogaethau'r arfordir
Mae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib bod goleuadau artiffisial arfordiroedd y byd yn effeithio'n ddirfawr ar y rhywogaethau sy'n dibynnu ar y lleuad a'r sêr i chwilota am fwyd. Mae creaduriaid fel y chwannen draeth (Talitrus saltator) yn defnyddio safle'r lleuad a disgleirdeb awyr naturiol y nos i lywio eu symudiadau yn y nos.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2020
Rhaglen beilot i fesur lefelau coronafeirws mewn gwaith trin dŵr gwastraff
Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau bod bron i hanner miliwn o bunnau wedi’i roi i raglen beilot a fydd yn tynnu sylw at arwyddion cynnar o’r coronafeirws yng Nghymunedau Cymru drwy fonitro’r systemau carthffosiaeth. Gall monitro lefelau coronafeirws yn rheolaidd mewn gwaith trin dŵr gwastraff roi awgrym o’r gyfradd heintio yn y gymuned a rhoi arwydd cynnar bod coronafeirws yn bresennol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2020
Meistr mewn Addysg yn Singapor
Mewn cydweithrediad newydd, mae Sefydliad Datblygu Rheolaeth yn Singapor (MDIS) ac Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi creu rhaglen newydd, Meistr mewn Addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2020
Gwella gallu gofodol er mwyn helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM
Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd at broject Ewropeaidd newydd i wella galluoedd gofodol plant, gyda'r nod o helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg technoleg a mathemateg (STEM). Mae disgyblion â lefelau uchel o allu gofodol yn llawer mwy tebygol o lwyddo mewn pynciau STEM, o fwynhau eu gwneud ac o'u dewis i'w hastudio ymhellach ac fel gyrfa o gymharu â disgyblion â gallu gofodol isel.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020
Menter trwy Ddylunio yn mynd yn ddigidol ac yn ffynnu yn ystod cyfnod anodd
Roedd rhaglen amlddisgyblaethol Menter trwy Ddylunio Prifysgol Bangor yn edrych ychydig yn wahanol eleni. Mae'r her yn dod â myfyrwyr ynghyd o saith Ysgol a meysydd pwnc o fewn y Brifysgol i weithio gyda'i gilydd mewn timau dros gyfnod o 10 wythnos. Bu timau eleni yn ymateb i friffiau yn y byd go iawn a osodir gan fusnesau sy'n bartneriaid, sef y cwmni halen môr o Ynys Môn, Halen Môn, a'r gwneuthurwr offer dringo DMM yn Llanberis.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020
Ail-ddarllediad America Gaeth a'r Cymry
Nos yfory ( 22.00 Iau 18 Mehefin) mae S4C yn ail-ddangos America Gaeth a’r Cymru i gyd-fynd â digwyddiadau cyfredol symudiad Black Lives Matter . Yr Athro Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd sy'n ymchwilio hanes Cymry â chaethwasiaeth yn UDA yn y gyfres tair rhan.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2020
Ysgoloriaeth gwerth £1,500 ar gael i bawb fydd yn astudio rhywfaint o’u cwrs prifysgol yn Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd pob myfyriwr fydd yn dechrau yn y Brifysgol fis Medi, ac yn astudio o leiaf 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg, yn derbyn ysgoloriaeth o £1,500 dros dair blynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2020
Ymchwil israddedig wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol
Mae James Edwards wedi gweld ei waith traethawd hir blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei gyhoeddi yn Acupuncture in Medicine . Fe wnaeth James, sydd bellach yn 23 ac yn astudio deintyddiaeth, ymchwilio i effeithiolrwydd aciwbigo ar gyfer poen nerfol yn y wyneb. Cymharodd ganlyniadau triniaeth ar gyfer aciwbigo gyda therapi cyffuriau a llawfeddygaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2020
Coronavirus: wastewater can tell us where the next outbreak will be
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2020
Arbenigwyr o Brifysgol Bangor ar genhadaeth i ddarparu rhyddhad rhag clefyd y gwair i filiynau o bobl
Mae ymchwilwyr o ogledd Cymru yn astudio DNA paill er mwyn rhoi gobaith newydd i filiynau o bobl sy'n dioddef o glefyd y gwair ledled y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2020
Coming of age in 2020 – the summer without exams or school proms
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw a Gwyndaf Roberts o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020
Lansio Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf Rhithwir i helpu myfyrwyr i ddod yn entrepreneuriaid yn y byd go iawn
Enillodd 58 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd ag uchelgeisiau entrepreneuraidd cyfle am ddim i gymryd rhan mewn wythnos Cychwyn Busnes yr Haf ar-lein , i helpu i roi cychwyn i’w syniadau busnes. Mae’r Wythnos unigryw yn cychwyn ddydd Llun 8 Mehefin am bum diwrnod o ysbrydoliaeth, dysgu a rhwydweithio a fydd yn troi syniadau yn fusnesau, mentrau cymdeithasol a gyrfaoedd llawrydd. Roedd yn agored i bron i 500 o fyfyriwr cyfredol neu sydd wedi astudio mewn sefydliad Cymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020
Brexit yn datgelu canfyddiadau newydd ynglŷn â lleiafrifoedd ac iechyd meddwl
Gallai perthyn i grŵp lleiafrifol, y mae ei hunaniaeth yn bwysig i chi, effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl. Dyna gasgliad darn o ymchwil a wnaed yn sgil refferendwm Brexit ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Social Science and Medicine . ( Mental health consequences of minority political positions: The case of Brexit )
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2020
Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer mis Medi
Ar hyn o bryd, mae staff Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n bodoli oherwydd y pandemig Covid-19. Mae'r Brifysgol bellach wedi cadarnhau i'w holl fyfyrwyr, rhai newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, ei bod yn paratoi ar gyfer agor y campws fis Medi. Oherwydd y tebygolrwydd y bydd angen rhoi mesuriadau ymbellhau cymdeithasol mewn lle, bwriad y Brifysgol ar hyn o bryd yw cyfuno addysgu wyneb-yn-wyneb ar y campws gydag addysgu ar-lein. Bydd llety myfyrwyr y Brifysgol ar agor hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020
Y dewis gwyrdd
Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn awyddus i leihau eu hôl troed amgylcheddol, a gall y fyfyrwyr hynny sy’n chwilio am brifysgol werdd fod yn sicr eu bod yn astudio mewn prifysgol sydd ar y brig yn fyd eang yn ei hymrwymiad i ailgylchu a chynaladwyedd , drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae Prifysgol Bangor yn seithfed yn y byd am ailgylchu a chynaliadwyedd, yn ôl llinyn mesur Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae’r coleg ar y bryn yn 10fed yn fyd eang am ei gwaith yn ôl y Green Metric World University Rankings .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020
Neges gan y Brifysgol
Mae pob un ohonom ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ein syfrdanu a'n tristáu gan y digwyddiad erchyll a arweiniodd at farwolaeth George Floyd, a'r digwyddiadau pryderus iawn a ddilynodd. Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, cynhwysiant a pharch i gyd yn werthoedd y mae Prifysgol Bangor yn rhoi bri arnynt. Rydym yn falch o fod yn gymuned sy'n croesawu pobl o bob cefndir ac argyhoeddiad, ac ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi datblygu agwedd o beidio goddef unrhyw hiliaeth, trosedd casineb nac aflonyddwch.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020
Canolfan ymchwil newydd i astudio problem gynyddol gwastraff plastig
Mae Canolfan ymchwil newydd wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bangor i astudio problem gynyddol gwastraff plastig. Canolfan Ymchwil Plastig Cymru (PRC Cymru) yw'r cyntaf o'i bath yn y wlad ac mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o academyddion, myfyrwyr, sefydliadau a diwydiannau. Daeth Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith Prifysgol Bangor, yr Athro David Thomas, â’r grŵp ynghyd ar ôl sylweddoli bod llawer o wyddonwyr
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2020
Gwybodaeth newydd am ymwrthedd i gyffuriau canser
Cyhoeddwyd ymchwil o labordy Dr Edgar Hartsuiker yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin , yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Bangor, yn rhifyn diweddaraf (29 Mai) y cyfnodolyn uchel ei barch Science Advances. Mae llawer o gyffuriau canser yn lladd celloedd canser trwy rwystro dyblygiad eu deunydd genetig, sef y DNA. Un o'r cyffuriau hyn yw Gemcitabine, a ddefnyddir i drin canser y pancreas, y bledren a'r ysgyfaint, ymhlith eraill. Mae Gemcitabine yn dynwared un o flociau adeiladu DNA, diocsisytidin niwcleosid, ac yn cystadlu ag ef i integreiddio i DNA celloedd canser. Ar ôl iddo integreiddio, mae'n rhwystro'r DNA rhag dyblygu ac mae hynny'n rhwystro'r gell ganser rhag rhannu.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2020