Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ionawr 2020
Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol Bangor
Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd. Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Arddangosfa Caffael Cyhoeddus
Cynhelir arddangosfa'n trafod Caffael Cyhoeddus a Nodau Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ddydd Mawrth 4 Chwefror. Yno, bydd swyddogion caffael o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, academyddion ac arweinwyr eraill ym maes caffael cyhoeddus, yn rhoi sylw i sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio bwyd lleol, a gynhyrchir mewn modd mwy cynaliadwy, a chwrdd â'r nodau llesiant.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored
Disgrifiwyd y gogledd fel 'Prifddinas Antur Ewrop' ac mae eleni'n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu'r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi'r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw'n bosib cynyddu'r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy'n wynebu heriau tebyg, neu 'gymheiriaid'.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl hŷn yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol
Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru g an Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020
Could willow be the answer to better lamb growth?
Datganiad Saesneg gan gorff allanol, felly nid oes cyfieithiad Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020
A&E waiting times worst on record – but using AI to unblock beds could be part of the solution
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Christian Subbe o’r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020
Lansio oes gyflymach yn M-SParc
Heddiw (23.1.20) bydd canolfan ymchwil 5G, a allai wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg a newid sut mae'r rhyngrwyd yn gweithio, yn cael ei lansio'n swyddogol yn M-SParc , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae'r Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yn cael ei rhedeg gan academyddion o Brifysgol Bangor, sy'n gweithio ar gyflymu band eang, ac yn chwarae rhan hanfodol mewn galluogi 5G. Gyda phartneriaid gan gynnwys Huawei a BT, mae hwn yn waith byd-eang a allai newid y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020
Wynebu'r dyfodol - Prifysgol Bangor yn derbyn grant sylweddol i ymchwilio i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol yn ein dinasoedd
Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol (AI) ddechrau cael ei gyflwyno mewn dinasoedd clyfar, mae tîm o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol i astudio ffyrdd y gall dinasyddion fyw'n gytûn â thechnolegau sy'n synhwyro, dysgu a rhyngweithio â'u hemosiynau, eu hwyliau a'u bwriadau. Mae 'Emotional AI in Cities: Cross Cultural Lessons from UK and Japan on Designing for An Ethical Life' yn broject 3 blynedd a gyllidir ar y cyd gan gynghorau ymchwil o Brydain a Japan ac fe'i harweinir gan Andrew McStay, Athro Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020
Seicoleg gadarnhaol: Dull Newydd o Hyrwyddo Ymddygiad Iach
Rydym yn gwybod ers peth amser bod anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn. Mae'r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd a hyd bywyd yn sylweddol i bobl ledled y byd. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig datblygu strategaethau newydd a all fynd i'r afael ag un o faterion iechyd cyhoeddus pwysicaf ein hoes. Mae ffordd newydd a chyffrous o ymdrin â'r mater hwn wedi dod i ychydig o gasgliadau diddorol. Fel rhan o gydweithrediad rhwng Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, daeth project ymchwil PhD i'r casgliad bod seicoleg gadarnhaol - astudio cryfderau a rhinweddau sy'n helpu pobl i deimlo'n dda yn feddyliol - yn gallu hyrwyddo ymddygiad iach hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2020
Gwyddonwyr Bangor yn cryfhau cysylltiadau â Rwsia i ymladd y newid yn yr hinsawdd
Bu gwyddonwyr o ogledd Cymru mewn seminar arloesol ar yr newid yn yr hinsawdd yn Siberia. Gwahoddwyd dau wyddonydd o Brifysgol Bangor gan Gonswl Prydain yn Rwsia i draethu ynghylch eu hymchwil amgylcheddol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2020
Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw
Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020
Rhwystrau i ofal iechyd i gymunedau byddar yng Nghymru
Mae pobl fyddar yng Nghymru yn wynebu heriau difrifol wrth gael y wybodaeth a’r gwasanaethau gofal iechyd sydd eu hangen arnyn nhw, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. ( Iechyd a Lles Cymunedau Byddar yng Nghymru: Cwmpasu ar gyfer Arolwg ledled Cymru ).
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020
Exercise: we calculated its true value for older people and society
Dyma erthygl yn Saesneg gan Carys Jones, Cymrawd Ymchwil gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2020
Five years on from the Charlie Hebdo attack, ‘Je suis Charlie’ rings hollow
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Ervine o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2020