Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ionawr 2013
Ysgol y Gyfraith yn croesawu Martijn Quinn o'r Comisiwn Ewropeaidd fel darlithydd gwadd
Bydd darlithydd gwadd o'r Comisiwn Ewropeaidd yn cyfrannu at y modiwl cyfraith amgylcheddol yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Bydd Mr Martijn Quinn, aelod o swyddfa breifat Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd dros Gymorth Dyngarol ac Ymateb i Argyfwng, yn cyflwyno seminarau ar bolisïau amgylcheddol ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013
Ni all tyfu olew palmwydd ar gyfer biodanwyddau arbed ein hinsawdd
Dywed gwyddonwyr y gall tyfu olew palmwydd yn y trofannau i wneud biodanwyddau ‘gwyrdd’ gyflymu effeithiau newid hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013
Croesawu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda rhaglen gyffroes o gelfyddydau Tsieineaidd
Gall trigolion a myfyrwyr Bangor baratoi at groesawu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd mewn ffordd unigryw eleni. Cynhelir rhaglen lawn o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd i’w paratoi at gyfnod dathlu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd rhwng 10-21 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013
Prifysgol wyrddaf Cymru'n ymddangos mewn tabl cynghrair byd-eang
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod yn y 18 fed safle yn y byd am ei hymroddiad i'r 'agenda werdd', yn ôl tabl cynghrair byd-eang.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2013
Myfyrwyr Bangor yn cael llwyddiant yn seremoni gyntaf Gwobrau Nyrs y Flwyddyn
Mae dau fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobrau yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn y seremoni gyntaf Nyrs y Flwyddyn i’w chynnal gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2013
Sarah yn ennill ras 10k
Sarah Caskey, 23, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, oedd y ferch gyntaf i groesi'r llinell derfyn yn y ras 10k ‘Twin Piers’ yn Llandudno yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2013
Project Pontio yn chwilio am gyflenwyr a chontractwyr lleol
Cyhoeddir cyfleoedd newydd i gontractwyr, crefftwyr a chyflenwyr lleol mewn digwyddiad ym Mangor yr wythnos hon (dydd Gwener, 1 Chwefror).
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2013
Ni fu chwilio am lety erioed mor rhwydd!
Pan fydd angen meddwl am rywle i fyw y flwyddyn nesaf, bydd y dasg o chwilio am y tŷ delfrydol i fyfyrwyr ym Mangor yn llawer haws – gyda rhaglen ar-lein newydd i gael hyd i’r cartref delfrydol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2013
Enwebwyd myfyriwr o Brifysgol Bangor am wobr yn ŵyl ffilmiau Cymru
Enwebwyd y ffilm fer Not, a gyfarwyddwyd gan John Bryan Evans, cyn ddisgybl yn Ysgol Friars, ar gyfer y ffuglen orau a'r ffilm iaith Gymraeg orau yn Ffresh, gŵyl ddelwedd symudol myfyrwyr Cymru. Mae'n ffilm ddeuddeg munud am Nia, mam ifanc mewn perthynas dreisiol gyda’i dwy ferch ifanc yn tyfu i fyny yn gwylio eu mam yn cael ei churo a'i bwlio. Adroddir y stori drwy lygaid y plant ac fe’i disgrifiwyd fel 'golwg diflewyn ar dafod ar ormes yn y cartref.'
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2013
Myfyriwr Prifysgol Bangor i weithio ar broject gydag un o awduron amlyca’r byd
Mae Ashwin Sanghi, myfyriwr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor – sydd eisoes wedi dod i fri mawr fel awdur yn ei wlad enedigol, India – yn mynd i lunio nofel ar y cyd gydag awdur a ddisgrifir fel ysgrifennwr llyfrau ffuglen droseddol mwyaf poblogaidd y byd: James Patterson.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2013
Diwrnod Coffau’r Holocost
Bydd pobl yng Ngwynedd yn ymuno a miloedd o wahanol genhedloedd y byd i gofio’r diniwed sydd wedi dioddef hil-laddiad mewn hanes modern.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2013
Symposiwm undydd: 'TU HWNT I’R DOSBARTH – Dyfodol Cynllunio Ieithyddol' (8fed Mawrth 2013)
Ar Ddydd Gwener, 8fed Mawrth 2013, bydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gyda chefnogaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnal symposiwm undydd: TU HWNT I’R DOSBARTH – Dyfodol Cynllunio Ieithyddol , ar gyfer y rhai sydd yn gweithio ym maes polisi a chynllunio ieithyddol a meysydd perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013
Myfyrwyr Bangor yn hogi eu harfau ar gyfer rownd bellach o University Challenge
Bydd Prifysgol Bangor yn ymddangos yn ail rownd y sioe gwis fwyaf heriol sydd ar y teledu, University Challenge. Mae’r gyfres yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 eleni a bydd Bangor yn ymddangos ar BBC2 Cymru am 8.00pm nos Lun, 28 Ionawr 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013
Myfyrwyr i gynnal marathon gemau fideo 72 awr
Mae myfyrwyr o Grŵp Gemau Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer sesiwn 72 awr o chwarae gemau fideo ar Ddydd Gwener 25 Ionawr, i godi arian ar gyfer yr elusen plant, Child’s Play.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013
Swyddi: Cadair mewn Cerddoriaeth
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn eithriadol ac egnïol i lenwi swydd Cadair mewn Cerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013
Ysgol Haf - Y Celtiaid
Mwynhewch haf yn astudio iaith y Celtiaid ym Mangor ym mis Mehefin a Gorffennaf 2013
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2013
Wild Things o ogledd Cymru
Bydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, y botanegwr Trevor Dines, yn ymddangos mewn cyfres newydd ar Channel 4, Wild Things, a gynhyrchir gan y cwmni lleol Cwmni Da. Mae sawl unigolyn o ogledd Cymru wedi bod yn rhan o'r gyfres hon, gan fod academyddion ac ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cyfrannu eu harbenigedd at y rhaglenni, sy'n edrych ar blanhigion gwyllt rhyfeddol gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2013
Gweithio ar y cyd i helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol
Ar ddechrau Tachwedd 2012, cafodd y prosiect ei lansio yn Y Rhyl a Wrecsam a gwelwyd y manteision yn syth. Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod llai o alwadau wedi'u gwneud i ystafell reoli'r heddlu o'r ardaloedd sy’n rhan o’r prosiect. Meddai Arolygydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Heddlu, Michael Isaacs: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein hadnoddau i dargedu'r materion hynny sy’n achosi’r pryder mwyaf i gymunedau Gogledd Cymru ac mae’n galonogol clywed bod y cyhoedd wedi bod yn dweud wrthym yn barod eu bod yn gweld gwelliant yn eu cymdogaethau.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013
Enwebiad Ffresh i fyfyriwr
Mae “Not” sydd wedi ei gyfarwyddo gan John Evans wedi cael ei enwebu am y Ffilm Ffuglen Orau a’r Ffilm Iaith Gymraeg orau yng Ngwobrau Ffresh 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013
Taflu deis i ddangos nifer y moch daear a laddir yn anghyfreithlon
Yn ôl ymchwil newydd, gall dull anghyffredin o amcangyfrif faint o bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sensitif neu anghyfreithlon roi gwybodaeth bwysig i lunwyr polisi amgylcheddol yn Lloegr sy'n gysylltiedig â'r cynllun difa moch daear arfaethedig yn y DU. Mae papur a ysgrifennwyd gan dîm ymchwil o Brifysgol Bangor, Prifysgol Kent a Phrifysgol Kingston (Innovative Techniques for estimating illegal activities in a human-wildlife-management conflict) wedi dangos yr amcangyfrif cyntaf erioed o nifer y moch daear a gânt eu lladd yn anghyfreithlon.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013
Lansio Technoleg Werdd Arloesol ym Mangor
Lansiwyd safle profi newydd yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae'r safle newydd yn unigryw o ran ei faint ac amrywiaeth ei weithgareddau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2013
Athro o Fangor yn ymweld â China i arwain creadigaeth a dysgu cwrs newydd mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol
Bu'r Athro Suzannah Linton, Athro Cyfraith Ryngwladol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Ryngwladol ym Mangor , yn China'n ddiweddar ar gyfer cyfres ddwys o ddysgu, darlithoedd cyhoeddus a beirniadu mewn achosion llys ffug.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2013
Y Gweinidog Leighton Andrews yn Ymuno â Cherddorion i Osod y Garreg Sylfaen
Caiff carreg sylfaen canolfan y celfyddydau ac arloesi newydd Bangor ei gosod heddiw (dydd Gwener) gan Leighton Andrews AC mewn seremoni greadigol a cherddorol. Bydd aelodau band jazz a band pres Ysgol Tryfan a'r unawdwyr Rhys Meirion a Huw Ynyr yn ymuno â'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ac yn rhoi perfformiad unigryw mewn hetiau caled ar y safle adeiladu.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2013
MBA Environmental Management - wedi'i gyllido'n llawn
Ydych chi’n awyddus i ddatblygu neu ddiweddaru eich sgiliau busnes a gweithgareddau economaidd yn ymwneud â’r amgylchedd? Mae 30 Ysgoloriaeth WEDI’I GYLLIDO’N LLAWN ar gael ar gyfer ein gradd MBA Environmental Management yn 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2013
Ysgol y Gyfraith yn cyfrannu at brosiect ‘Big Voice London’ ar hunaniaeth gyfreithiol
Croesawodd Ysgol y Gyfraith grŵp o bobl ifanc o Lundain ar gyfer cynhadledd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd 2012. Roedd y myfyrwyr o brosiect ‘Big Voice London’ yn ymchwilio i agweddau o hunaniaeth gyfreithiol ac â diddordeb arbennig yn y traddodiad cyfreithiol yng Nghymru a’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013
Digwyddiad hanesyddol wrth i Ysgol y Gyfraith Bangor fod y gyntaf yng Nghymru i gynnal achos llys ffug yn y Goruchaf Lys
Llwyddodd myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor i greu hanes y mis diwethaf wrth iddynt fod y tîm cyntaf o Ysgol y Gyfraith yng Nghymru i gael eu gwahodd i gynnal achos ffug o flaen y Goruchaf Lys yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013
Rhaglen iPad rhith-ddysgu yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol
Bydd rhaglen symudol newydd, y gellir ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim, yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol. Mae’n un o nifer o raglenni sy’n cael eu datblygu, yn addasu cyfrifiadura gweledol a gwirionedd tri dimensiwn i ddarparu rhith-ddysgu cost effeithiol ar gyfer nifer o wahanol driniaethau meddygol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013
Cadair Bersonol i Ddarlithydd
Mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a Cyfryngau yn falch o gyhoeddi Cadair Bersonol i Astrid Ensslin. Llongyfarchiadau mawr i Astrid gan bawb yn yr Ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013
Cynhyrchydd Ffilmiau Preswyl
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013
Myfyrwyr SENRGY yn helpu i amddiffyn coedwig law ar Ddiwrnod Bydd Wyrdd!
Efallai eich bod wedi gweld llawer o bobl wyrdd o gwmpas Bangor yn ddiweddar. Yn ffodus nid pobl o'r gofod oedd y rhain ond myfyrwyr "Eco-ryfelwyr" modern Bangor!
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2013
Ailgreu'r profiad o addoli yn y cyfnod canoloesol
Mae project sy’n ymchwilio profiad Canoloesol o addoli yn cael sylw mewn stori nodwedd ar safle we’r Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau . Yr Athro John Harper a Dr Sally Harper o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy’n arwain project: ‘Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol ddiweddar.’
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2013
Esbonio un o digwyddiadau rhyfedda byd natur
Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig, Gecarcoidea natalis . Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio. Mae hyn yn cael ei ddangos ar Nature’s Weirdest Events ar BBC 2 2 Ionawr am 8.00y.h a’i esbonio gan yr Athro Simon Webster o Ysgol Gwyddorau Biolegol . Roedd yr Athro Webster yn gyfrifol am ganfyddiad yr hormone sy’n gyfrifol am y daith anhygoel .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2013