Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Chwefror 2018
Galw am setliad cyflym drwy drafodaeth i anghydfod pensiwn yr USS
Mae'r anghydfod cenedlaethol presennol yn deillio o newidiadau a gynlluniwyd i'r cynllun pensiwn cenedlaethol ar gyfer staff prifysgolion, a bydd y cynigion hynny yn effeithio ar nifer o staff Prifysgol Bangor. Mae Prifysgol Bangor wedi datgan ei bod yn awyddus i weld setliad cyflym trwy drafodaeth i'r anghydfod hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018
Ysgol St Gerard's yn dod i’r brig!
Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest gogledd Cymru yn y gystadleuaeth “Top of the Bench” eleni, a drefnwyd gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018
Ymchwilwyr Bangor yn cyfrannu at hyrwyddo strategaeth ymchwil dementia
Bu Dr Gill Windle a'r Athro Emeritws Bob Woods, o ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, rhan o BIHMR yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o dasglu Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys clinigwyr ac ymchwilwyr dementia yn y Deyrnas Unedig, noddwyr ymchwil dementia yn y Deyrnas Unedig, pobl â dementia a chynrychiolwyr gofalwyr, a ddatblygodd y 'map ymchwil dementia cyntaf ar gyfer dulliau atal, rhoi diagnosis, ymyrryd a gofal erbyn 2025'.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018
Baner y Brifysgol
Codwyd Baner y Brifysgol er cof am Kevin Larkin, myfyriwr yn yr Ysgol Seicoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018
Hummit, ap newydd gan fyfyriwr o Prifysgol Bangor
Rydym i gyd wedi teimlo’n rhwystredig ar adegau wrth fethu â rhoi enw i gân neu alaw sy’n chwarae yn ein pennau. Wel, mae Joey Elliott, sy’n 22 oed ac yn dod o Groesoswallt, wedi datblygu ‘ap’ i ddatrys eich penbleth! Mae’r ap a ddatblygwyd ganddo yn eich galluogi i ddarganfod enw alaw sy’n troi yn eich pen, megis enw rhyw gân fachog a glywsoch ar y radio, a chithau wedyn yn methu’n lân a chofio beth oedd ei henw neu pwy oedd yn ei chanu. Creodd Joey’r Ap ar ôl profi hyn ei hun, ac mae’n gobeithio datrys y broblem i eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018
Gwylio mwy o natur, gwylio llai o'r sgrin!
A allech chi roi eich dyfeisiau o'r neilltu a mwynhau natur? Dyma'r cwestiwn y gofynnodd Labordy Cynaliadwyedd a Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol yr wythnos diwethaf fel rhan o ddathliad cenedlaethol prifysgolion y DU o'r Wythnos Mynd yn Wyrdd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018
Mae gwybod sut a ble i edrych yn lleihau'r risgiau wrth yrru
Gallai hyfforddi gyrwyr ifanc a newydd i sylwi ar gyrion eu maes golwg leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd. Damweiniau traffig y ffordd yw un o'r prif bethau sy'n achosi marwolaethau yn fyd-eang a gyrwyr newydd, ifanc sydd fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau o'r fath.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018
Bwrsariaethau cenedlaethol am dalent beirianyddol i fyfyrwyr Bangor
Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi derbyn Bwrsari Peirianneg Gorwelion (Horizons Bursaries) gan yr Institution of Engineering and Technology (IET). Dyfernir y bwrsariaethau i fyfyrwyr sydd yn frwd dros beirianneg ac yn astudio cwrs gradd mewn peirianneg neu dechnoleg sydd wedi’i achredu gan yr IET.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018
Martial arts can improve your attention span and alertness long term – new study
Dyma erthygl yn Saesneg gan Ashleigh Johnstone, myfyrwraig PhD o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2018
Tesni Evans yn cyflawni camp ryfeddol drwy ennill y National Championships
Cyflawnodd Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, gamp ryfeddol ddydd Sul (18 Chwefror) pan enillodd y ferch o’r Rhyl gystadleuaeth sboncen y National Championships ym Manceinion. Tesni yw’r ferch gyntaf o Gymru i lwyddo yn y fath fodd, ffaith sy’n cadarnhau ei safle fel y Gymraes fwyaf llwyddiannus yn y gamp.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018
Darganfod ffyrdd newydd o adnabod a thrin canserau mwyaf heriol yr ymennydd
Mae project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop yn defnyddio technoleg newydd i fynd i’r afael â dau o ganserau mwyaf ymosodol yr ymennydd. Mae’r project ymchwil yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol fydd yn y pen draw yn gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018
Starfish can see in the dark (among other amazing abilities)
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Coleen Suckling o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018
Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw'n golygu gwario llai ar ofal iechyd
Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd. Canfu arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru , a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, fod gan y cyhoedd yng Nghymru yn gryf o blaid rhagor o reoleiddio ac ymyrryd iechyd cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018
Positive psychology helps brain injury survivors recover with a better outlook on life
In the UK alone, nearly 350,000 people are admitted to hospital each year with an acquired brain injury, caused by anything from road traffic accidents, falls, and assaults, to vascular disorders such as strokes. And this number is growing. This article by was Leanne Rowlands , PhD researcher in Neuropsychology , at the School of Psychology was originally published on The Conversation . Read the original article .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2018
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Mr Martin Davies, aelod o staff yn yr Adran Gwasanaethau Eiddo a Champws.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2018
Bangor yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Ar 24 Chwefror bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dod â digwyddiad blynyddol y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn ôl i Fangor, gyda gorymdaith liwgar y ddraig a Gala Tsieineaidd i ddathlu 2018, Blwyddyn y Ci.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018
UK criminal justice is at breaking point after years of unstable leadership
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Dr Robert Jones, cyn aelod o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg).
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2018
Gŵyl Cymru-Tsieina i gael ei chynnal yn Pontio, Bangor
Bydd Gŵyl newydd wedi ei chynhyrchu a’i churadu gan Gwmni Theatr Invertigo a Pontio yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos dathliadau blwyddyn newydd Tsieina (16-18 Chwefror 2018), a bydd yn archwilio’r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru a Tsieina. Bydd perfformiadau eclectig, digwyddiadau, ffilmiau, bwydlen arbennig Tsieinïaidd ym mwyty Gorad a gweithgareddau addas i’r teulu yn arddangos diwylliannau, ieithoedd a chelf y ddwy wlad. Y cyntaf o’i bath; bydd yr ŵyl amlieithog hon yn cynnig llwyfan i straeon newydd ac yn galluogi cydweithio rhwng cerddorion, dramodwyr ac artistiaid Cymraeg a Tsieineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018
Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018. Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018
Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ar restr hir gwobr o fri
Mae Lisa Blower, darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor yn un o ddeg sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr stori fer y Sunday Times EFG ar gyfer 2018. Mae’r Wobr ryngwladol yn hybu ac yn dathlu rhagoriaeth y stori fer fodern ac yn denu ceisiadau o blith ysgrifenwyr gorau’r byd. Y Wobr o £30,000 yw’r un fwyaf hael ar gyfer stori fer yn yr iaith Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2018
Penodi Cadeirydd y Cyngor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi mai Marian Wyn Jones sydd wedi ei phenodi yn Gadeirydd newydd ei chorff llywodraethu, Y Cyngor. Hi yw'r ferch gyntaf i gadeirio'r Cyngor ers sefydlu'r brifysgol yn 1884, ac mae'n olynu'r Arglwydd Elis-Thomas a roddodd y gorau i'r swydd y llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2018
Adolygu adnoddau bioynni ar gyfer adeiladu a defnyddiau eraill ar wahân i ynni
Bangor University’s BioComposites Centre (BC) has been selected to lead a consortium to deliver a review on ‘The potential for using bioenergy resources for construction and other non-energy uses’ for the Committee on Climate Change (CCC), a non-governmental advisory body. This review will feed into the updated Bioenergy Review 2018, which will be published by the CCC in the autumn.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018
Gwaith myfyriwr i gyfrannu at herio sepsis
Mae cyfraddau sepsis ar gynnydd. Gall y cymhlethdod prin ond difrifol hwn, a all ddigwydd o ganlyniad i haint, fygwth bywydau. Gobaith un myfyriwr cemeg yw y bydd ei gwaith ymchwil yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn yr haint hon.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018
Five ingenious ways snakes manipulate their bodies to hunt and survive
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tom Major myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018
Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia
Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol. Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018
Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl
Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018
‘Coroni’r Wythnos’
Daeth llwyddiant ysgubol i ran yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd (Gareth Glyn a Mererid Hopwood) a chynhyrchiad arbennig OPRA Cymru ohoni yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru (2018) a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn ddiweddar ( 27.1.18). Yn dilyn taith lwyddiannus led led y wlad ym mis Tachwedd y llynedd a chydnabyddiaeth ragorol drwy gyfrwng theatrau llawn ac adolygiadau clodwiw yn y wasg, dyfarnwyd gwobr ‘Y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg’ (2018) i’r cwmni fu mor ddyfal a chydwybodol yn sicrhau fod y fenter arloesol hon yn cyrraedd cynulleidfaoedd y genedl.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018
DNA yn canfod anifeiliaid afon y funud hon
Mae ymchwil newydd yn profi bod DNA amgylcheddol yn goroesi am lai na deuddydd mewn afonydd bach, chwim, ac felly mae'n darparu gwybodaeth leol a chyfredol iawn ar gyfansoddiad rhywogaethau. Mae hon yn dystiolaeth newydd hollbwysig wrth i fiolegwyr droi fwyfwy at dechnegau samplo DNA newydd i asesu iechyd ecosystem dwr.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018
Prifysgol Bangor yn cefnogi ailgyflwyno’r afanc ar gyfer Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2018
Wrth nodi Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (2.2.18), mae Prifysgol Bangor wedi gosod ei chefnogaeth tu cefn i’r broses o ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru. Mae gwyddonwyr y Brifysgol yn galw am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer Prosiect Afancod Cymru , sy’n ceisio ailgyflwyno’r anifail eiconig yn y wlad. Ar hyn o bryd, mae’r fenter, sy’n cael ei harwain gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn edrych ar safleoedd posib ar gyfer rhyddhau’r afancod. Bydd yr anifeiliaid yn cael eu monitro er mwyn ceisio gweld a fyddai ailgyflwyno ar raddfa eang yn bosib.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018
Dwylo’n dweud
Yn dilyn cynhadledd flynyddol ‘ Clust i wrando … ’ (2017) a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ym mis Mehefin y llynedd ac ar sail awgrymiadau’r cynadleddwyr, sefydlwyd cynllun i gyflwyno dull arwyddo’r byddar ( British Sign Language ) i holl blant Cylchoedd Meithrin Cymru ( Y Mudiad Meithrin ). Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2018