Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2016
Project yr UE i gefnogi'r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, wedi cyhoeddi project gwerth £2.5 miliwn, a ariennir gan yr UE, i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyflenwad dŵr yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2016
Dau fyfyriwr o Fangor ar restr fer Gwobrau'r Student Nursing Times
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch bod dwy fyfyrwraig, Abigail Sinnett a Francesca Elner, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau'r Student Nursing Times 2016. Mae Abigail yn un o naw myfyriwr bydwreigiaeth o'r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn. Mae Francesca yn un o ddeg myfyriwr nyrsio o'r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn: Oedolion.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2016
Five things you need to know about the Radovan Karadžić case
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yvonne McDermott Rees o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016
Enillydd cystadleuaeth gelf i fyfyrwyr wedi ei hysbrydoli gan obaith ymchwil cancr
Mae artist brwd o Ysgol David Hughes wedi ennill cystadleuaeth gelf leol ar ôl cael ei hysbrydoli gan waith rhai o ymchwilwyr cancr pennaf Cymru. Lluniodd Annabelle Blight, o Landegfan, y dyluniad buddugol fel rhan o Gystadleuaeth Ffotograffiaeth, Celf a Barddoniaeth Gŵyl Wyddoniaeth flynyddol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016
‘Safety=Design’: Achub miloedd o fywydau ac arbed miliynau o bunnoedd
Mae gobaith y bydd prosiect a lansiwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor yn achub miloedd o fywydau drwy symleiddio sut mae staff gofal iechyd a chleifion yn adnabod symptomau.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016
Myfyriwr ac aelod staff o Brifysgol Bangor yn cael eu dewis ar gyfer Pencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop 2016
Mae myfyrwraig ac aelod staff o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop, a gynhelir yn Førde, Norwy rhwng 10-16 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2016
Chwech o Brifysgol Bangor yn cael eu penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae chwe ymchwilydd ym maes iechyd a gofal cymunedol ym Mhrifysgol Bangor wedi'u penodi’n Uwch Arweinwyr Ymchwil- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2016
Llwyddiant Gŵyl Wyddoniaeth Bangor 2016
Arddangosfa Bydoedd Cudd eleni oedd y fwyaf erioed, gydag 800 o bobl yn ymweld ag Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor, ddydd Sadwrn, 12 Mawrth rhwng 10am a 4pm ar gyfer digwyddiad mwyaf blaenllaw Gŵyl Wyddoniaeth Bango r.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016
Pynciau ym Mhrifysgol Bangor yn cyrraedd tabl byd-eang
Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair ddylanwadol QS World University Rankings 2016, lle llamodd Prifysgol Bangor i fyny 60 safle i safle 411 yn fyd-eang, yn darparu gwybodaeth bellach am safleoedd gwahanol bynciau ymhlith prifysgolion gorau’r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016
Aelod Seneddol yn canmol Prifysgol Bangor am ei gwaith arloesol ar Fanciau Bwyd
Mae’r AS lleol Hywel Williams wedi canmol Prifysgol Bangor am ei gwaith ymchwil arloesol yn dilyn Cynhadledd Undydd i Fudd-ddeiliaid Lleol: Mapio Tlodi Bwyd , a oedd yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth a barn am y twf sydd y dyddiau hyn yn y defnydd o Fanciau Bwyd. Mae project ymchwil gan David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, wedi canfod bod yna 157 banc bwyd yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cefnogi pobol mewn peryg o beidio â gallu bwydo’u hunain a’u teuluoedd (data a gasglwyd Gorffennaf 2015), o gymharu ag 16 yn 1998.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016
Ymchwilydd o Fangor yn gyd-enillydd gwobr NewsHACK y BBC
Roedd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn un o enillwyr gwobr Wynebu’r Gynulleidfa yn #newsHack: Languge Technology y BBC ar y cyd gyda BBC Cymru Fyw, BBC Connected Studio, a BBC Digital yn Llundain ar 15 ac 16 Mawrth 2016. Yr her yn y digwyddiad a drefnwyd gan y BBC News Labs oedd sut i helpu gwella newyddiaduraeth mewn amgylchedd amlieithog er mwyn manteisio ar newyddion a gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, a darllen cynnwys mewn nifer o ieithoedd gwahanol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2016
Her y Stryd Fawr i Fyfyrwyr Mentrus
Gosodwyd y cefndir ar gyfer Menter drwy Ddylunio 2016 gan y galw cynyddol i drawsffurfio profiad y stryd fawr. Mae'r gystadleuaeth, sydd â gwobr ariannol o £5,000, yn dod ag unigolion o ddisgyblaethau academaidd amrywiol ym Mhrifysgol Bangor at ei gilydd i weithio fel timau i ddatrys briff dylunio yn y byd go iawn a roddir ger bron gan bartner masnachol lleol; eleni Cyngor Dinas Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2016
Myfyrwyr Bangor yn llwyddo yn etholiadau UCM Cymru
Mae dwy fyfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi eu hethol yn Llywydd a Dirprwy Lywydd fel ei gilydd yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Cafodd Fflur Elin, Llywydd presennol Undeb Myfyrwyr Bangor, ei hethol yn Llywydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol ac etholwyd Carmen Smith yn Ddirprwy Lywydd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2016
Myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon yn cynadledda ym Mangor i ddysgu am yr ymchwil ddiweddaraf
Bydd myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon o bob cwr o’r DU yn ymweld â Phrifysgol Bangor yr wythnos hon (22-23 Mawrth) i rannu eu gwybodaeth a chlywed gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes yng Nghynhadledd Flynyddol Myfyrwyr y Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ( British Association of Sport & Exercise Sciences ).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
OPSWISE – Gwella gofal i bobl hŷn
Mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor wedi rhoi golwg newydd ar sut mae gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl hŷn yn cael eu cynnal.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Gwersi mewn dwyieithrwydd: be all Corsica dysgu o Gymru?
Mae myfyriwr o Corsica yn ymweld ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar interniaeth i ddysgu am ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd Petru Filippi, sy’n fyfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Corsica, yn treulio 4 mis ym Mangor o dan oruchwyliaeth Dr Cynog Prys, Darlithydd mewn Cymdeithaseg ac arbenigwr mewn cynllunio ieithyddol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Bywyd i'r Cherokee heddiw a hanes y Llwybr Dagrau
Mewn cyfres o dair rhaglen ar S4C , bydd yr Athro Jerry Hunter yn teithio i America i olrhain hanes y Cymro Evan Jones ac i ddysgu mwy am genedl y Cherokee heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Ffilm o Brifysgol Bangor ar restr fer Gwobrwyon RTS Television Awards
Pob lwc i Andy Pritchard, sydd wedi graddio o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ! Heddiw (18.3.16) bydd Andy o’r Groeslon yn cael gwybod os yw ei ffilm sydd ar y rhestr fer Snowdonia: open all year yn llwyddo yn rownd Cymru RTS Student Television Awards .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Adnoddau Newydd ar gyfer Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg
Yn ystod 2015-2016 bu tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Mae hon yn dechnoleg sy’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Sut fydd ymwneud â robotiaid yn effeithio arnom ni?
Yn y dyfodol agos bydd robotiaid ac afatarau'n dod yn gynyddol fwy cyffredin - byddwn yn ymwneud â hwy mewn mannau gwaith, mannau cyhoeddus ac yn ein cartrefi, yn ogystal ag ym meysydd addysg, iechyd a gofal. Mae technolegwyr wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu peiriannau defnyddiol i gyflawni tasgau cymhleth megis codi cleifion o welyau mewn ysbytai, bod yn gwmni i bobl gydag iselder neu ddementia, neu hyd yn oed ddysgu algebra i blant. Ond a ydym ni'n gwybod a all ymwneud dros gyfnod hir â robotiaid fel hyn gael unrhyw effaith arnom ni?
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Prifysgol Bangor yn dathlu Awr Ddaear WWF 2016
Mae Prifysgol Bangor yn ymuno â’r dathliad byd-eang dros ein planed wych trwy gefnogi Awr Ddaear WWF – digwyddiad trawiadol a symbolaidd lle diffoddir y goleuadau, sy’n tynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’w gwarchod.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2016
Banciau Bwyd ar gynnydd yng Nghymru
Bellach mae gan Gymru 157 banc bwyd, yn cefnogi pobol mewn peryg o beidio â gallu bwydo’u hunain a’u teuluoedd (data a gasglwyd Gorffennaf 2015), o gymharu ag 16 yn 1998. Daw’r ystadegau newydd hyn o broject ymchwil gan David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
O’r Fainc at Ymyl y Gwely a Thu Hwnt
Cafodd Prifysgol Bangor ganmoliaeth fawr wrth lansio ei sefydliad newydd arloesol ddydd Iau (25 Chwefror). Bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn cynnal y gwaith ardderchog y mae Bangor eisoes yn ei wneud o ran ymchwil iechyd a meddygol ac yn ymestyn arno drwy ddwyn ynghyd academyddion o fri o ystod eang o feysydd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
How a farm boy from Wales gave the world pi
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gareth Ffowc Roberts Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
Ymchwil Gwyddor Cymdeithas yn gwella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd â dementia
Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gynhaliwyd mewn sawl cartref gofal yng ngogledd Cymru, yn cael sylw mewn llyfryn sydd i’w lansio yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 15 Mawrth. Mae llyfryn briffio diweddaraf y Campaign for Social Science’s ‘Making the Case for the Social Sciences’ yn rhoi sylw i nifer o brojectau ymchwil ar ddementia mewn prifysgolion yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016
Prifysgol Bangor yn derbyn saith enwebiad ar gyfer gwobrau WhatUni
Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer saith gwobr WhatUni Student Choice 2016 , gan gynnwys enwebiad ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2016
Astudiaeth Effaith Gymunedol
Astudiaeth effaith gymunedol
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016
Ruby Wax yn ymweld â phroject celfyddyd ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl
Ddydd Iau, 3 Mawrth, cafodd Diwrnod Iechyd Meddwl 2016 Prifysgolion ei gynnal ar gampysau ar draws gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016
Prifysgol Bangor ymysg y goreuon o blith prifysgolion Ewrop
Mae Prifysgol Bangor yn un o brifysgolion gorau Ewrop yn ôl tabl a gyhoeddwyd heddiw (10 Mawrth, 2016) gan gylchgrawn y Times Higher Education. Gyda dim ond Prifysgol Caerdydd o blith prifysgolion Cymru yn ymddangos yn uwch na Bangor yn y tabl sy’n gosod Bangor yn y Grŵp 151-160, mae hyn yn cadarnhau unwaith eto y twf yn statws Prifysgol Bangor yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016
Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru’n dod ynghyd i greu rhagor o gyfleoedd i chwarae
Diolch i gefnogaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a Chwaraeon Cymru, mae Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru yn lansio menter newydd gyffrous.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016
Mae gan y pysgodyn sebra a'r ddynolryw gyfaill biofeddygol newydd, y gar brych
Mae genom y gar brych, pysgodyn sy'n esblygu'n araf, mor debyg i'r pysgodyn sebra a'r ddynolryw y gellir ei ddefnyddio fel rhywogaeth bont a allasai arwain at ddatblygiadau pwysig mewn ymchwil fiofeddygol ym maes clefydau dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016
Urddo Alumna Prifysgol Bangor yn Gymrawd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Alumna o Brifysgol Bangor yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar. Mae’r Cymrodoriaethau yn cael eu dyfarnu er mwyn adnabod cyfraniadau nodedig tuag at Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ac at waith y Coleg yn fwy cyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2016
Dathliad creadigol o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched
Bydd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a Gŵyl Gerdd Bangor yn cyfrannu at ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth trwy ddarlledu cyngerdd o gerddoriaeth gerddorfaol gan bum cyfansoddwraig o Gymru ar BBC Radio 3. Mared Emlyn o Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw un o’r cyfansoddwyr, a gwblhaodd ei PhD mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ddwy flynedd yn ôl. Daeth ysbrydolaeth ei darn newydd, Porthor, o’r traeth o’r un enw ym Mhenrhyn Llŷn, sy’n enwog am y sŵn arbennig a grëir drwy gerdded ar y tywod; o hyn daw ei enw Saesneg, ‘Whistling Sands’.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016
Dulliau Dylunio Deunyddiau i hwyluso gwneud graffen
Labordy Dynameg Mater dan arweiniad E.M. Mae Campo wedi datblygu dull addawol ar gyfer hwyluso gwneud graffen. Gydag ariannu gan HPC Cymru-Fujitsu a Swyddfa Ymchwil a Datblygu Awyrofod UDA ac Ewrop, mae grŵp Campo yn cyfuno sbectrosgopiau synchroton arbrofol a damcaniaethol i greu'r dyfeisiadau electronig graffen gorau. Bydd y genhedlaeth newydd o ddyfeisiadau yn galluogi cael dyfeisiadau electronig cyflymach, llai a mwy hyblyg y bydd y defnydd arnynt yn amrywio o decstiliau clyfar at ddyfeisiadau llaw.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016
Mae coedwigoedd eglwysig Ethiopia yn adnodd hanfodol sydd yn haeddu cydnabyddiaeth treftadaeth y byd
Nearly all of the natural forest cover has been lost in the highlands of Ethiopia, except for small areas of sacred forest surrounding the many individual churches of the Ethiopian Tewahedo Orthodox Church. The first study to assess the conservation value of these forests has shown that the Ethiopian ‘church forests’, as they are known, play a crucial role in the protection of many species in this global biodiversity hotspot. Although these forests are managed individually, together they form an important network of habitats spread right over the vast area of the central and northern highlands of Ethiopia.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016
Pencampwriaethau Codi Pwysau Hŷn Cymru yn dod i Fangor
Cynhelir Pencampwriaethau Codi Pwysau Hŷn Cymru yng Nghanolfan Brailsford , Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor ar 12 Mawrth, 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2016
Y wobr am y 'Chwedl' orau'n cael ei rhoi i Maisie sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor
Cafodd gwobr Uned Ryngwladol UK Higher Education am y 'Chwedl' orau ei rhoi i Maisie Prior sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2016
Caru Eich Dillad yn Gosod Her Dillad ‘un dunnell’ i Bobl Bangor
Love Your Clothes and Bangor University’s Sustainability Lab and Students’ Union are challenging university students, staff and Bangor’s wider community to donate one tonne of unwanted clothes for local charities as part of ‘Love Your Clothes Bangor’ – a series of events running from 11 - 16 March in the Deiniol Shopping Centre that aim to highlight the environmental impacts of clothing.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2016
Dewch i weld beth sydd ar gael mewn diwrnod agored i ôl-raddedigion ym Mhrifysgol Bangor
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal D iwrnod Agored i ôl-raddedigion ddydd Mercher 16 Mawrth. Bydd y drysau’n agor am ganol dydd ac mae croeso i ymwelwyr ddod i rai o’r ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer y diwrnod, neu i bob un ohonynt. Yn ogystal â gweld arddangosfa, gyda phob un o ysgolion academaidd ac adrannau perthnasol y Brifysgol yn cymryd rhan ynddi, gall ymwelwyr fynd i sesiynau byrion yn ymwneud ag astudio ôl-radd a chyllido, ymweld ag Ysgolion neu Golegau unigol i gael gweld mwy o’r ddarpariaeth yn eu dewis faes a chael cyfle i weld y neuaddau preswyl sydd ar gael i fyfyrwyr ôl- raddedig.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2016
Getting Welsh GPs to act more quickly on cancer symptoms
A research project at Bangor University will look at early cancer diagnosis - a priority area for the Welsh Government, as late presentation of cancer is thought to significantly contribute to the relatively poor survival of Welsh cancer patients compared to the rest of the UK. The award had been made to Professor Richard Neal from the University's North Wales Centre for Primary Care Research , himself a practicing G.P and a world-leader in the field of early cancer diagnosis.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016
Dementia: gall y label "salwch" wneud i bobl fod yn isel eu hysbryd
Bu pobl yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n dangos bod pobl sy'n ystyried symptomau dementia fel salwch yn teimlo'n fwy negyddol na'r rhai sy'n ei weld fel rhan annatod o fynd yn hŷn.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016
Why scrapping the €500 note may not help counter terrorism
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Bernardo Batiz-Lazo , o'r Ysgol Fusnes a Marybeth Rouse , myfyrwraig yn yr Ysgol Fusnes, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016
Dr Edward Jones yn cyfarfod gwleidyddwyr Cymraeg
Yn ystod y mis diwethaf mae Dr Edward Jones wedi cael cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i drafod materion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sydd o ddiddordeb neu o bryder i'r ardal leol ac i'r wlad yn gyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016