Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2018
Pobl hŷn yn helpu tyfu economi Cymru
Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu. Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn ei ddweud yn eu hadroddiad Byw yn iach yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi ym maes iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru heddiw (30 Gorffennaf 2018).
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae Prifysgol Bangor unwaith eto yn ymddangos ymysg y 10 prifysgolion anarbenigol uchaf yn y DU yn ôl canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf. Daw’r newyddion ar ôl i’r Brifysgol gael ei rhestru ymhlith y 100 o brifysgolion gorau Ewrop yn y Times Higher Education (THE) European Teaching Rankings diweddar, y tabl cyntaf i ganolbwyntio'n unig ar addysgu a dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2018
Prisgol Bangor yn croesawu ymestyniad rhaglen profiad gwaith
Mae rhaglen tair blynedd i ddarparu profiad gwaith teilwredig i fyfyrwyr llawn amser dan 25 oed wedi cael ei hymestyn. Mae GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn darparu cefnogaeth deilwredig i fyfyrwyr cymwys iau o gefndiroedd mwy difreintiedig i gael y gorau o’u profiad gwaith a chynllunio eu camau nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2018
Golwg newydd ar Gymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America
Bydd academyddion a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn astudio Hanes Cymru yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (25 - 27 Gorffennaf), wrth i’r Brifysgol groesawu 12fed cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America 2018 . Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018
r Zoë Skoulding yn Derbyn Gwobr Cymdeithas yr Awduron am Farddoniaeth
Mae Dr Zoë Skoulding, bardd a Darllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn Gwobr Cholmondeley am ei champ ac am ragoriaeth ei gwaith a'i chyfraniad at farddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018
Dr Edward Jones yn cael ei ddewis i gymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth Weledig flaenllaw Cyswllt Ffermio
Llongyfarchiadau i Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Bangor, sydd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd i gymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth Wledig flaenllaw Cyswllt Ffermio, Agri Acadmey (a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig).
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018
Ymysg y cant uchaf am addysgu
Mae Prifysgol Bangor ymysg y 100 Prifysgol orau yn Ewrop yn y tabl cynghrair prifysgolion a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Y Times Higher Education ( THE ) University Teaching Ranking yw’r tabl cynghrair cyntaf i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddysgu ac addysgu ac mae’n seiliedig ar yr arolwg barn myfyrwyr Ewropeaidd cyntaf gan y THE ac ar ddata arall sydd ar gael. Mae’r tabl yn gosod prifysgolion yn ôl y rhai sy’n rhagori mewn addysgu, a chan mai Prifysgol Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y wobr aur yn rownd gyntaf y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF), nid oes unrhyw syndod felly bod Bangor ymhlith y prifysgolion blaenllaw sy’n darparu’r amgylchedd dysgu gorau i fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018
Llwyddiant i Ysgol Busnes Bangor yng Nghystadleuaeth Busnes IBM
Mae tîm o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor wedi dod yn ail yn rownd derfynol genedlaethol Her Fusnes Prifysgolion IBM, a gynhaliwyd ym Mhencadlys IBM yn Llundain yn gynharach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2018
Cynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru
Rhwng y 25ain a’r 27ain o Orffennaf bydd Bangor, Dinas Dysg, yn croesawu casgliad o ôl-raddedigion ifanc, academyddion gyrfa gynnar ac ysgolheigion profiadol o’r DU, ac o cyn belled ag Ontario, Canada, wrth iddi gynnal 12fed cynhadledd ddwyflynyddol Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018
Alumnus y Flwyddyn 2018
Bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ymgeiswyr ac yn cynghori'r Brifysgol ynglŷn â dyfarnu gwobr Alumnus y Flwyddyn. Yn ystod yr wythnos raddio roedd Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi mai Gwilym Rees-Jones yw Alumnus y Flwyddyn 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018
Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Cyflwynwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i ddau fyfyriwr o Brifysgol Bangor. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018
University Flag
Codwyd baner y Brifysgol mewn teyrnged i Margaret Macdonald a oedd yn Gofrestrydd Cynorthwyol pan adawodd yn 2004, wedi gweithio yn y Brifysgol am 35 mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Unused £321m trapped on dormant Oyster cards – and time may be running out to get it back
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo a myfyriwr PhD Prachandra Shakya o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Cydnabyddiaeth am gyfraniad oes at wyddor pysgod a physgodfeydd
Mae Gary Carvalho, Athro sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medal Beverton y Fisheries Society of the British Isles (FSBI) Medal am ei ymchwil sydd wedi torri tir newydd ac am ei gyfraniad oes i wyddor pysgod a physgodfeydd. Medal Beverton yw gwobr uchaf y FSBI ac mae’n nodi’r Athro Carvalho fel wyddonydd o bwys. Bu’r Athro Carvalho yn mynychu Symposiwm yr FSBI yn ddiweddar er mwyn derbyn y fedal.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Gwobr Rhagoriaeth Gwyn Thomas ymysg acolâdau Osian
Osian Wyn Owen oedd enillydd Gwobr Ragoriaeth Gwyn Thomas, gwobr newydd sbon danlli a gyflwynwyd am y tro cyntaf eleni i gydnabod cyflawniad academaidd arbennig a/neu gyfraniad allgyrsiol neilltuol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Pristine Antarctic fjords contain similar levels of microplastics to open oceans near big civilisations
Dyma erthygl yn Saesneg gan Katrien Van Landeghem o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac eraill, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick
Mae'r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll. Ei theitl oedd Burning Secret , sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Newyddion Graddio
Newyddion graddio a proffiliau rhai o'r myfyrwyr sy'n graddio ar gael yma !
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Why football may still be coming home…to France
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Ervine o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2018
Pencampwraethau'r Byd llwyddiannus i Catrin
Mae Catrin Jones, myfyrwraig Prifysgol Bangor sydd hefyd yn enedigol o’r ddinas, wedi cyrraedd y pedwerydd safle ym Mhencamwriaethau Iau Codi Pwysau’r Byd, a gynhaliwyd yn Wsbecistan yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol
Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Bôn-gelloedd yn cael eu trin ar ‘labordy ar sglodyn’ am y tro cyntaf
Wrth wireddu cam cyntaf project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop sy’n trin y ddau fath o ganser mwyaf ymosodol yr ymennydd, daw’r partneriaid academaidd a diwydiant at ei gilydd yr wythnos hon (11-12 Gorffennaf) i drafod y camau nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Theresa May was right to reimpose collective ministerial responsibility – it's the only way to govern
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018
Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau
Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To , menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi a fu’n cymryd rhan. Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME), gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1 a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018
Prifysgol Bangor yn cael grant i ddatgelu cynnwys llythyrau Mostyn o'r 17 ganrif
Bydd tair mil o lythyrau prin sydd wedi goroesi o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif ar gael i ysgolheigion rhyngwladol yn dilyn grant ymchwil newydd gan Gronfa Marc Fitch. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru , Prifysgol Bangor wedi cael grant o £40,000 i ddigido ac ymchwilio i gasgliad eithriadol o lythyrau a gedwir yn llyfrgell Plas Mostyn yn Sir y Fflint.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018
Addysg feddygol yng ngogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei fod yn bwriadu ehangu addysg feddygol ledled Cymru, sy'n cynnwys cyfleoedd newydd i astudio yn y gogledd. O 2019, trwy gydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â'u gradd meddygol israddedig yn llawn yn y gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018
Mae rhai o bobl dlotaf y byd yn ysgwyddo costau gwarchod coedwigoedd trofannol
Nid ar draul tolodion y byd y mae cyrraedd targedau cadwraeth y byd. Mae honno'n egwyddor sy'n cael ei derbyn yn fyd-eang, ond mae'r astudiaeth gyntaf i gloriannu'r polisi sy'n ceisio digolledu pobl leol am gostau cadwraeth yn dangos, er y bwriadau da, mai'r tlodion sy'n colli allan. Mae coedwigoedd trofannol yn bwysig i bawb sydd ar y blaned. Nid yn unig y mae coedwigoedd trofannol yn gartref i fioamrywiaeth hynod a phrin (fel lemyriaid Madagascar), maen nhw hefyd yn cadw swmp enfawr o garbon dan glo ac mae hynny'n helpu sefydlogi'r hinsawdd. Hefyd, mae coedwigoedd trofannol yn gartref i gannoedd o filoedd o bobl ac mae'r polisïau cadwraeth rhyngwladol yn gallu effeithio ar eu bywydau hwythau
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2018
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i’r Athro Robert Pascall a fu'n Bennaeth yr Adran Gerddoriaeth o 1998 i 2005.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2018
UK and Germany combine forces to fund crucial Arctic science
Datganiad Saesneg a gyhoeddwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol Mae manylion ein project yn Ysgol Gwyddorau Eigion i'w gael yma:
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2018
Ymchwilio i newidiadau i Gefnfor yr Arctig
Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain un o 12 project ymchwil pwysig a wnaeth gais llwyddiannus i gyflawni ymchwil allweddol bwysig yn un o ardaloedd mwyaf gerwin y blaned - sef yr Arctig. Caiff y gwaith a wneir gan y Brifysgol ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn y Deyrnas Unedig, a Gweinyddiaeth Addysg ac Ymchwil Ffederal yr Almaen (BMBF). Enw'r project yw The Changing Arctic Ocean . Arweinir y project ymchwil tair blynedd gan Dr Yueng-Djern Lenn, Uwch Ddarlithydd mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a bydd partneriaid a sefydliadau eraill yn cydweithio â Bangor. Nod yr ymchwil yw cynyddu dealltwriaeth o'r modd y gall newidiadau yn ein cefnforoedd effeithio ar swm ffytoplancton a gynhyrchir yng Nghefnfor yr Arctig.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2018