Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2011
Arolwg pum mlynedd o bwys i adrodd ar effeithiau cadarnhaol a negyddol heneiddio
Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio. Mae pobl hŷn yn byw yn hirach ac felly’n ganran uwch o’n poblogaeth nag erioed o’r blaen. Erbyn 2025, am y tro cyntaf mewn hanes, bydd 20% o’r boblogaeth dros 65 a 5.5% dros 80. Mae ystadegau’n awgrymu y bydd achosion o ddementia yn y DU yn cynyddu o 38% dros y 15 mlynedd nesaf ac o 154% dros y 45 mlynedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011
Darganfod rhywogaeth gwiberod newydd
Mae grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi cael sylw yn y cylchgrawn National Geographic yr wythnos hon ar ôl iddynt ddarganfod dwy rywogaeth nadredd newydd yn Ne Ddwyrain Asia.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011
Mae planhigion blodeuog Antarctica yn cynhesu i newid yn yr hinsawdd
Mae rhifyn cyntaf cyfnodolyn newydd yn y gyfres bwysig Nature , sef, Nature Climate Change (rhifyn 1; Ebrill 2011 ) yn tanlinellu sut mae un rhywogaeth planhigion yn Antarctica fel pe bai’n manteisio ar newid yn yr hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011
Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn ennill Gwobr Myfyrwyr Rhyngwladol 2011
Mae’r fyfyrwraig Almaeneg Ilka Johanna Illers, sydd yn ei hail flwyddyn o radd Gwyddorau Eigion, wedi ennill gwobr Myfyriwr Rhyngwladol Cymru'r flwyddyn 2011 fel rhan o gystadleuaeth gan y Cyngor Prydeinig.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011
Darlith: ‘The strange death of British higher education’
Wrth i Gymru a gwledydd datganoledig eraill Prydain ddatblygu eu polisïau eu hunain yn ymwneud ag addysg Brifysgol, bydd Yr Athro Syr Deian Hopkin yn rhoi darlith gyhoeddus amserol ar ‘ The strange death of British higher education’ ym Mhrifysgol Bangor am 6.30 ddydd Iau, 31 Mawrth, ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011
Sgwrs gyda’r Cyn-Weinidog Tramor
Ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar (Iau 24 Mawrth), siaradodd y cyn-Weinidog Tramor, David Miliband, heb flewyn ar ei dafod, am ei fywyd a’i yrfa.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2011
Dewch i brofi diwylliant Japan fel rhan o ymgyrch hel arian y penwythnos yma.
Mae criw o fyfyrwyr Bangor yn cynnal digwyddiad i gefnogi dioddefwyr y daeargryn yn Japan yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 26ain rhwng 2yp a 6yh. Bydd cyfres o weithdai cyffroes gan gynnwys caligraffi, origami, paentio wynebau a hefyd cyfle i drio ‘kimono’ yn ogystal â pherfformiadau byw, marchnad a sioe ffasiwn gyda gwisgai o wledydd ar draws y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2011
Iwan Bala yn ymuno â myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Roedd Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno arlunydd enwog i’w myfyrwyr yn ddiweddar. Ymunodd Iwan Bala â’r myfyrwyr celf gain ddydd Gwener 11 Mawrth i roi darlith gynhwysfawr ar ei waith, ac wedi hynny bu’n arwain gweithdy gyda myfyrwyr celf gain i ddatblygu'r themâu a nodwyd yn y ddarlith, yn arbennig y syniad o greu map mewn ymateb i syniadau o hunaniaeth, o le ac o ddiwylliant. Y themau hyn sydd wedi bod yn brif ganolbwynt i waith Bala fel arlunydd ac awdur.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2011
Dyfarnu Gwobr o Fri i Staff Ysgol yr Amgylchedd Naturiol, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
ae Dr James Walmsley a’r Athro Doug Godbold wedi ennill gwobr fawreddog Coedamaeth 2010 gan y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig, am eu herthygl ‘ Stump Harvesting for Bioenergy – A Review of the Environmental Impacts ’, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Forestry 83(1).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2011
Trafod nofelau'r Aifft yn Ysgol y Gymraeg
Gyda’r Aifft a nifer o wledydd Arabaidd eraill yn y newyddion ar y funud, mae’n amserol iawn bod Ysgol y Gymraeg , Prifysgol Bangor yn cynnal darlith sydd yn awgrymu bod llwybr yr Aifft tuag at chwyldro i’w weld yn glir yn nofelau Eifftaidd y degawdau diweddar. Bydd yr Athro Sabry Hafez, Athro er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Qatar, yn rhoi darlith ar ‘Gairo a’r Nofel Eifftaidd’ ym Mangor ar Ebrill 1.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2011
Fujitsu yn ennill cytundeb i hybu uwchgyfrifiaduro yng Nghymru
Heddiw (Mawrth 22) cyhoeddwyd Fujitsu, y cwmni technoleg byd-eang enfawr, fel partner newydd Prifysgolion Cymru. Nod y bartneriaeth yw creu rhwydwaith uwchgyfrifiaduro o safon fyd-eang unigryw gwerth £40 miliwn, yn ogystal â sefydliad ymchwil a datblygiadau arloesol ac academi sgiliau. Bydd y rhywdwaith gefnogol yn ymestyn i bob cornel o Gymru gyda chyrhaeddiad ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2011
Trydar mewn Trawiadau
I gofnodi pen-blwydd Twitter yn bum mlwydd oed, bydd eitem ar y rhaglen Wedi 7 ar S4C heno yn rhoi sylw i’r defnydd creadigol y mae un o staff y Brifysgol yn ei wneud o’r cyfrwng poblogaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2011
Trysorau Archif y Brifysgol i’w weld mewn Diwrnod Agored.
Bydd llofnod Elisabeth I, Florence Nightingale a Charles Darwin, copi o “Yr Arwr” gan Hedd Wyn yn ei law ei hun, a lluniau yn ymwneud â Phatagonia ymysg yr eitemau i’w gweld yn Archifdy Prifysgol Bangor ar Fawrth 25 rhwng 1.00-4.30 pm
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2011
A yw’r Arctig yn dod o’i aeafgwsg?
Efallai bod y gaeafau wedi bod yn fwy garw yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar oherwydd bod llai o rew dros Gefnfor yr Arctig. Mae’r rhew wedi bod yn cadw newidiadau yn nhymheredd y môr o’r atmosffer. Ond gallai’r ffaith fod y rhew yn cilio gael effaith ar ein hinsawdd. “Mae rhai hinsoddegwyr yn credu bod absenoldeb rhew môr i’r gogledd o Siberia yn yr hydref y llynedd wedi galluogi i’r môr agored gynhesu’r atmosffer, gan newid patrymau’r gwynt a datblygu system o wasgedd atmosfferig uchel dros Siberia. Mae hyn wedyn yn arwain at aer oer yn cael ei yrru i’r de o’r Arctig, dros ogledd Ewrop”, eglurodd Dr Tom Rippeth o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2011
Ymchwilwyr yn datgelu bod siarcod yn lanwaith
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos am y tro cyntaf, bod siarcod yn ymweld â riffiau trofannol neu ‘forfynyddoedd’, i gael budd o wasanaethau glanhau a chael gwared ar barasitiaid llesteiriol oddi arnynt eu hunain. Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn beryglus, oherwydd drwy fod yno, maent yn agored i ymyrraeth gan weithgarwch dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2011
Rhestr Fer Gwyl Cyfryngau Celtaidd
Cafodd ffilm ddogfen gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor ei dewis ar restr fer yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Darlledwyd 'Dic Jones, yn ei eiriau ei hun' ar S4C yn dilyn marwolaeth y prifardd ac Archdderwydd, Dic Jones. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dr Llion Iwan o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2011
Cyfrifiad mewn Cymraeg clir
Bydd dylanwad Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor i’w brofi ym mhob cartref yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf wrth i holiaduron Cyfrifiad 2011 gael eu llenwi. Mae Eleri Jones o Uned Cymraeg Clir y ganolfan wedi bod yn ganolog i’r gwaith o sicrhau bod y fersiwn Gymraeg yn un y gall siaradwyr Cymraeg ei deall a’i defnyddio yn ddidrafferth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011
Partneriaeth a chydweithio yn brif themâu yn agoriad swyddfa Prifysgol Bangor yn Beijing, Tsieina
Mae Prifysgol Bangor wedi agor yn swyddogol swyddfa yn Beijing, Tsieina. Arweiniwyd y lansio gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G Hughes. Roedd hefyd yn cynnwys anerchiadau gan Lysgennad y DU i Tseina, Sebastian Wood CMG a Chyfarwyddwr An Yuxiang o Ganolfan Gwasanaethau Cyfnewid Ysgolheigion Tsieina (CSCSE). Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng CSCSE a Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011
Prifysgol Bangor yn cyhoeddi 70 Ysgoloriaeth Ymchwil Ôl-radd ychwanegol
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil newydd am y drydedd flwyddyn yn olynnol. Mae’r lleoedd yn ran o raglen bum mlynedd o ehangu ôl-radd y Brifysgol. Fe’u crëwyd hefyd fel rhan o ddathliadau 125 mlwyddiant y Brifysgol yn 2009. "Mae cymuned ôl-radd gref yn elfen hanfodol bwysig mewn unrhyw brifysgol ryngwladol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil. Yn ogystal â chyfrannu at dwf pellach yn ein cymuned myfyrwyr ôl-raddedig, bydd dros hanner y myfyrwyr yn cynorthwyo busnesau sy’n gweithio ym meysydd allweddol i’r economi Gymreig. Bydd hyn yn eu galluogi i gael mynediad at yr arbenigedd sy’n bodoli o fewn y Brifysgol er mwyn datblygu’u busnes," meddai'r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011
Prince Madog i gymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Bangor
Bydd cyfle unigryw i’r cyhoedd cael taith o amgylch llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog ddydd Sadwrn 12 Mawrth, a dydd Sul 13 Mawrth, fel rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Bangor. Bydd y criw, a arweinir gan y Rheolwr Gweithrediadau, Trefor Owen, yn cynnig taith 30 munud o amgylch y llong ar gyfer grwpiau o hyd at 6 o bobl, rhwng 10-12.00 a 14-16.00 bob diwrnod. Nid oes angen cadw lle, ond dylai unigolion ddod yno ac aros wrth y pier ym Mhorthaethwy ar gyfer y daith nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2011
Canolfan Ymchwil newydd i fod o gymorth wrth lunio gwasanaethau i blant a theuluoedd
Crëwyd Canolfan ymchwil newydd i adeiladu ar ymchwil sydd wedi dangos sut y mae rhaglenni ar gyfer plant bychain, rhieni ac athrawon ar draws Gymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Bydd y Ganolfan yn rhoi gwybodaeth bellach a fydd yn cynorthwyo’r Cynulliad wrth iddynt ddatblygu gwasanaethau i blant a theuluoedd i’r dyfodol. Bydd y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yn cael ei lansio gan Huw Lewis AS, Dirprwy Weinidog dros Blant, ddydd Mercher, 9 Mawrth, yng Nghynhadledd Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru yng Nghaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2011
ECB yn sicrhau help gwyddonwyr o Brifysgol Bangor o ran profi dawn cricedwyr
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi troi at wyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor i’w cynorthwyo o greu model darogan talent i helpu i adnabod cenedlaethau cricedwyr penigamp yn y dyfodol. Amcan y project ymchwil rhwng yr ECB a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn y Brifysgol yw dilysu model ar gyfer darogan talent ym maes criced. Defnyddir hwn i helpu dewiswyr a hyfforddwyr i asesu ac adnabod chwaraewyr ifainc addawol ac i gynyddu’r graddau y daw’r rhain yn gricedwyr rhyngwladol llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2011
Mae CARIAD yn helpu ymchwilwyr o Ethiopia i wella sicrwydd cyflenwadau bwyd
Gan gydweithio â gwyddonwyr yng Nghanolfan Ymchwil Uwch Prifysgol Bangor dros Ddatblygiad Amaethyddol Rhyngwladol (CARIAD), mae ymchwilwyr o Ethiopia wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran gwella sicrwydd cyflenwadau bwyd ffermwyr tlawd mewn ardaloedd yn Ethiopia sy’n tueddu i ddioddef sychder. Maent wedi canfod dau fath o wenith Indiaidd, wedi’u haddasu ar gyfer amodau Ethiopia, sy’n fwy cynhyrchiol pan fo glawiad yn brin.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2011
Pontio’n chwilio am Gyfarwyddwr Creadigol
Mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn chwilio am Gyfarwyddwr Creadigol ar gyfer Pontio - Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi, sy’n costio £37 miliwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn siaradwr Cymraeg, yn gyfrifol am gynllunio rhaglenni a goruchwylio’r celfyddydau perfformio a gynhelir yn y Ganolfan newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2011
Dyfarnu ysgoloriaeth i ddawn gerddorol o Gymru
Ar sail ei chyraeddiadau eithriadol a chefnogaeth disglair ei thiwtoriaid academaidd, dyfarnwyd un o ddwy Wobr Goffa D Afan Thomas am Gerddoriaeth Brifysgol Cymru. i Gwawr Ifan o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2011
Rhoi dyddiad geni i Môn Man Cymru a phryd y ffurfiwyd y Fenai
Mae ymchwil wedi dangos pryd y daeth Ynys Môn yn ynys barhaol drwy i’r Fenai gael ei ffurfio. Fe wnaeth Mike Roberts, myfyriwr hŷn o Amlwch, gynnal ymchwil fel rhan o’i PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, wedi’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae ei ymchwil, sydd newydd gael ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd, yn datgelu y bu i’r Fenai ddod yn nodwedd barhaol rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl, o gwmpas yr adeg y cymerodd y ffermwyr cyntaf le’r helwyr-gasglwyr yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2011