Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mai 2019
Dychwelliad y Ddraig
Ffrindiau'n trefnu gŵyl i godi arian i gefnogi darlithydd a gafodd anaf i'r ymennydd ac i'r Ardd Fotaneg sydd mor hoff ganddi. Ar y 8fed o Fehefin, bydd gerddi botaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth yn llawn cerddoriaeth wych ar dair llwyfan, bwyd llysieuol blasus, plant yn crwydro'r coetiroedd a'r dolydd hynafol, teuluoedd yn dysgu drymio a dawnsio gyda'i gilydd, a llawer mwy. Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan ffrindiau a chydweithwyr Dr Sophie Williams, cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor a gontractiodd lid yr ymennydd Japaneaidd tra oedd hi ar waith maes yn Tsieina yn 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2019
Mae traean o bobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis
Mae mwy na thraean o bobl yng Nghymru (34 y cant) yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis o gyflyrau iechyd, er mai dim ond 14 y cant sy'n gwneud apwyntiad gofal iechyd ar-lein. Daw'r canfyddiadau hyn o arolwg newydd - Iechyd y Boblogaeth Mewn Oes Ddigidol - gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor , sy'n trafod sut y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi a monitro eu hiechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2019
Modernists & Mavericks’: darlith gyhoeddus gan feirniad celf blaenllaw
Bydd y beirniad celf blaenllaw, Martin Gayford, yn trafod Bacon, Freud, Hockney ac arlunwyr Llundain ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 12 Mehefin am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac mae croeso i bawb ddod i'r ddarlith, ' Modernists and Mavericks: Bacon, Freud, Hockney and the London Painters '.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019
Eidales o’r Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr
Francesca Elena Sciarrillo o’r Wyddgrug sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Fe’i gwobrwywyd mewn seremoni ar lwyfan prifwyl yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth, Mai 28). Graddiodd Francesca, 23, gydag MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yn 2018, ac mae hi nawr yn brentis graddedig mewn Marchnata. Hi yw’r unig berson o’i theulu sy’n siarad Cymraeg, ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019
Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi papur briffio newydd gan academydd Prifysgol Bangor
Mae Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi papur briffio newydd ar Addysg a Gofal Plant Cynnar (ECEC) gan Dr David Dallimore o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd. Y papur briffio hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o dri, gan ddarparu canllaw cyflym i addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Mae'n cyflwyno'r cysyniad o ECEC, yn gosod tystiolaeth ar gyfer gwahanol ymagweddau at ECEC ac yn cysylltu hyn â pholisi cyfredol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019
Athro o Fangor yn ennill Medal Hugh Owen
Dyfarnwyd Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg , Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru. Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg , Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig , Busnes , Dylunio Cynnyrch , Cerddoriaeth a'r Cyfryngau , a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer . Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Arloesedd newydd yn derbyn Gwobr y Gymdeithas Fetelegol
The Royal Meteorological Society’s Vaisala Award for Weather Observing and Instrumentation for 2018 has been awarded to Professor Tom Rippeth and his research team at Bangor University’s School of Ocean Sciences . Prof Rippeth is interested in how different water masses mix within our oceans and how the mixing of waters of different temperatures and salinity drives and affects global climate and weather patterns.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Arbenigedd Bangor yn helpu ennill Gwobr Aur yn Chelsea
Treuliodd Curadur Gardd Fotaneg y Briofysgol, Natalie Chivers, yr wythnos ddiwethaf hyd at ei phenelinoedd mewn pridd yn rhan o dîm dylunio cynllun plannu Gardd Montessori St Nicholas yn Sioe Flodau Chelsea. Treuliodd Natalie yr wythnos yn plannu pob blodyn a ddewiswyd yn ofalus iawn ar gyfer yr Ardd a enillodd Wobr Aur enwog Chelsea.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Ysgolheigion Bangor yn cyfrannu at The Cambridge History of Welsh Literature
Mae cyfrol newydd swmpus ar lenyddiaeth Cymru, o'i tharddiadau cynnar hyd at y cyfnod presennol, yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o arbenigwyr o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei lansio'n swyddogol yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai. Disgrifir The Cambridge History of Welsh Literature (Cambridge University Press, 2019) gan y cyhoeddwr fel “the biggest history of Welsh literature ever published” ac mae'n ganllaw cronolegol i bymtheg canrif o lên Gymraeg a Chymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019
Gradd plismona newydd gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau yn 2019/20
O fis Medi 2019, bydd Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai (GLlM), yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno sgiliau i'r myfyrwyr y byddant eu hangen i weithio fel swyddogion heddlu ac mae'n adeiladu ar y Radd Sylfaen lwyddiannus iawn mewn Plismona a fu’n cael ei chynnig ers rhai blynyddoedd gan GLlM.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019
Is there such thing as a ‘European identity’?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Nikolaos Papadogiannis , Darlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail-gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019
Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor yn helpu i daflu goleuni ar y posibilrwydd o fywyd ar y blaned Gwener yn y gorffennol
Er bod y blaned Gwener heddiw yn lle anial a digroeso iawn, gyda thymheredd yr arwyneb yn ddigon poeth i doddi plwm, mae tystiolaeth ddaearegol, a gefnogir gan efelychiadau model cyfrifiadurol, yn dangos y gallai fod wedi bod llawer oerach biliynau o flynyddoedd yn ôl a bod ganddi gefnfor, ac felly'n debyg iawn i'r Ddaear.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019
Ap ffôn symudol yn helpu cleifion cemotherapi i aros yn ddiogel yn ystod eu triniaeth yn Ysbyty Gwynedd
Mae meddygon yn Ysbyty Gwynedd yn profi ap ffôn clyfar fel rhan o dreial clinigol i helpu cleifion i aros mor ddiogel ag sy'n bosibl yn ystod eu triniaeth cemotherapi. Mae cleifion sydd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y treial 'Fy Nghadw’n Ddiogel' yn defnyddio'r ap i'w helpu i gymryd y camau cywir petai cymhlethdodau yn codi yn ystod eu triniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2019
Sbarduno mentergarwch myfyrwyr gyda chymorth Santander
Mae myfyrwyr entrepreneuraidd Prifysgol Bangor bellach yn medru derbyn cefnogaeth estynedig gan Brifysgolion Santander, wrth i’r Brifysgol lansio rhaglen Sbarduno Menter Santander (SEA). Mae SEA yn darparu cyfle unigryw i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac yn annog y rhai hynny sy’n arddel ysbryd o fentergarwch i ddefnyddio’u sgiliau a’u huchelgais i gychwyn busnesau yn y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2019
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Suzanne Rowlands, aelod o staff yn y Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2019
Yn hyblyg ac ymhobman- ac eto gall fod y babŵn wrth risg
Er ei fod mor gyffredin i rai ardaloedd yn Affrica Is-Sahara fel eu bod yn cael ei ystyried yn boendod i rai cymunedau, mae ymchwil newydd yn dangos y gall hanner y chwe rhywogaeth o fabŵn sydd yn bresennol yn y rhanbarth fod mewn peryg o beidio ag oroesi erbyn canol y ganrif. Er bod y rhan fwyaf o rywogaethau o fabŵn yng nghategori ‘o Bryder Lleiaf’ n ôl Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau wrth Risg, mae papur diweddar yn y J ournal of Biogeography yn datgelu y gallent brofi ymdrech i fodoli o dan amodau hinsawdd y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019
Prifysgol Bangor Yn Penodi Is-ganghellor
Mae Cyngor Prifysgol Bangor wedi penodi'r Athro Iwan Davies FLSW yn Is-Ganghellor nesaf y Brifysgol. Ef fydd yr wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth yn hanes 135 mlynedd y Brifysgol. Ar hyn o bryd yr Athro Davies yw'r Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n awdurdod blaenllaw ar gyfraith fasnachol ryngwladol gyda diddordeb arbennig mewn cyllid asedau, eiddo deallusol a chyfraith eiddo personol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019
Ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – Adolygu tystiolaeth
Mae cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar y cyd ag Uned Gydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi creu adroddiad newydd ‘ Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod’ . Mae’r adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan Dr Lisa Di Lemma, yn archwilio tystiolaeth ar draws amrywiaeth o raglenni sy’n ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Edrychodd yr adroddiad ar raglenni ac ymyriadau ar gyfer 11 math unigol o ACE, ac ACE fel term cyffredinol, i nodi ymagweddau cyffredin ar draws rhaglenni.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019
Ymchwilio i siâp hydrodynameg eiconig glas y dorlan
Mae siâp pigfain eiconig glas y dorlan, sy'n enwog am eu gallu i ddeifio heb wneud sŵn, wedi ysbrydoli dyluniad trenau bwled cyflym. Mae gwyddonwyr wedi bod yn profi siâp pigfain rhai o'r 114 o rywogaethau glas y dorlan a welir ledled y byd, i asesu pa siâp yw'r mwyaf hydrodynameg. Bu'r biolegydd adar, Dr Kristen Crandell a'r myfyriwr trydedd flwyddyn, Rowan Howe, ym Mhrifysgol Bangor, yn creu modelau printiedig 3D o siapiau pig nifer o rywogaethau glas y dorlan sy'n deifio, yng Nghanolfan Arloesi Pontio y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2019
“Nofel epig” ar Restr Fer Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019
Mae nofel sydd wedi ei disgrifio gan un beirniad cyfoes fel “nofel epig...afon o stori sy’n llifo fel bywyd ei hun” wedi cyrraedd rhestr fer un o wobrau Llyfr y Flwyddyn 2019. Mae Ynys Fadog gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor ac Athro yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd , yn adrodd canrif a mwy o hanes teulu Cymraeg a adawodd Gymru am ‘yr Amerig’ a’u hymdrechion i ganfod bywyd gwell mewn oes o newid cythyryblus. Mae’r nofel swmpus wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Ffuglen, gan rannu’r gofod â Llyfr Glas Nebo (Manon Steffan Ros) ac Esgryn (Heiddwen Tomos).
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2019
Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru
Bydd canolfan ymchwil arloesol - y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd gyda Phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol gofal pobl hŷn yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019
Replanting oil palm may be driving a second wave of biodiversity loss
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Simon Willcock o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i’r Athro Antony Carr, Athro Emeritws yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2019
Addewid y Bwrdd Iechyd a Phrifysgol Bangor i gefnogi datblygiad nyrsys i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys 2019
Bydd gan Nyrsys a Bydwragedd ar draws Gogledd Cymru well fynediad at gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad fel rhan o addewid blwyddyn gyfan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2019
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn rhannu eu ffilmiau yn Sinema Pontio
Ar Nos Wener, 10 Mai 7pm bydd Sinema Pontio a Chymdeithas Ffilm Prifysgol Bangor yn dangos ffilmiau wedi eu cynhyrchu gan fyfyrwyr, gan gynnwys gwaith myfyrwyr sy’n astudio yn Ysgol Cerddoriaeth a Chyfryngau Prifysgol Bangor a thrwy’r brifysgol, mewn noson sy’n agored i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Diwrnod Ewrop
Heddiw (Mai 9) mae Prifysgol Bangor yn dathlu Diwrnod Ewrop yn y dull traddodiadol, drwy hedfan baner yr UE uwchben Prif Adeilad y Celfyddydau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i’r Athro John Lewis, cyn Athro yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Policy action called for to prevent gambling harm
Nid yw'r Datganiad i'r wasg yma sy'n trafod gwaith yr Athro Robert Rogers, Ysgol Seicoleg ac eraill, ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Prifysgol Bangor yn Dathlu Diwrnod Ewrop 2019
Ar 9 Mai bydd y Brifysgol, ynghyd â llawer iawn o sefydliadau eraill ar draws y DU ac Ewrop, yn nodi Diwrnod Ewrop gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn dathlu’r diwrnod hwn i nodi cyhoeddi Datganiad Schumann a wnaed yn 1950, sy’n cael ei ystyried fel un o’r camau cyntaf swyddogol yng nghreadigaeth yr Undeb fel y mae hi heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2019
Game of Thrones: neither Arya Stark nor Brienne of Tarth are unusual — medieval romance heroines did it all before
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Raluca Radulescu o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail-gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2019
Gwobr Goffa Llew Rees 2019
Mae'r Brifysgol wedi dyfarnu ei gwobr flynyddol am lwyddiant ym maes y campau, Gwobr Goffa Llew Rees, i Theo Schoebel, am flwyddyn eithriadol o lwyddiannau Karate ar lwyfannau domestig a rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2019
Dyfodol y Dechnoleg Rithwir
Bu'r Dr Ll ŷr ap Cenydd, Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn Siarad am Ddyfodol y Dechnoleg Rithwir wrth i Oculus, sy'n eiddo i Facebook, lansio eu clustffonau newydd Oculus Quest.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019
Dathliad Cyflogadwyedd 2019
Cynhaliwyd Dathliad Cyflogadwyedd yn Pontio ar nos Fawrth, Ebrill 30ain i longyfarch ac arddangos llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor a chynlluniau interniaeth y Brifysgol, ac wedi arddangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygu eu cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019
Partneriaeth rhwng Caerdydd a Bangor yn dod â hyfforddiant meddygol i ogledd Cymru
Bydd myfyrwyr Meddygaeth yn gallu cwblhau eu holl hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf yn rhan o fenter newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor. Bydd y bartneriaeth yn golygu bod modd cynnal rhaglen Meddygaeth MBBCh (C21) hynod lwyddiannus Prifysgol Caerdydd drwy Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2019