Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2011
Trafod dyfodol diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a mwynhau diwrnod o gerddoriaeth
Ai dyma yw diwedd y gân...? Cewch gyfle i drafod yr her fwyaf i wynebu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers degawdau, mewn fforwm trafod amserol am 2.00 brynhawn Iau ar stondin Prifysgol Bangor. Mae’r Fforwm yn rhan o ddiwrnod digwyddiadau CERDD IAU , sef gweithgareddau a drefnir gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Yn ogystal â’r drafodaeth ddeallus mae 'na ddigon o hwyl i’w gael - a rhywbeth at ddant pob oedran.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Gweithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod
Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur arall eto eleni. Mae staff y Brifysgol wedi darparu wythnos o weithgareddau ar y stondin sy’n adlewyrchu’r gweithgaredd, yr ymchwil a’r dysgu cyfrwng Gymraeg sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Adnoddau Dysgu i Fyfyrwyr Nyrsio yn y Gymraeg
Mae adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Nyrsio, sydd eisoes wedi ennill Gwobr Addysg, Gwobrau’r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael eu lansio’n swyddogol ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 11.00 ddydd Gwener, 5 Awst 2011 .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Llenydda ym Mhabell Bangor yn yr Eisteddfod
Mae nifer o ddigwyddiadau llenyddol yn digwydd ar stondin Bangor yr wythnos hon, darllenwch ymlaen am y manylion.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Llyfr i gwmpasu cerddoriaeth Cymru
Mae project a fydd yn arwain at gyhoeddi cyfeirlyfr awdurdodol o’r enw Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn cael ei lansio heddiw (1 Awst 2011) ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Nod y Cydymaith fydd cwmpasu holl gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Breuddwydion Bro - Trigolion yn trafod cynllunio’u cymuned
Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi bod yn astudio gorffennol a phresennol eu cymunedau er mwyn llunio cynlluniau ar gyfer darlun derbyniol o’r dyfodol. Cynhelir cyfarfod cyhoeddus, lle rhoddir gwybodaeth am eu profiadau wrth ddilyn project Breuddwydion Bro - a all fod yn gynsail i’w ddefnyddio mewn ardaloedd eraill - yn stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod fore Mercher Awst 3 am 10.30 .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Trafod Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd
“Pa bryd defnyddiwyd y gair ‘adferteisio’ yn y Gymraeg am y tro cyntaf: (a) 1974, (b) 1880 ynteu (c) 1763?” Bydd yr ateb i’r cwestiwn hwn a nifer o ffeithiau ieithyddol eraill am yr iaith Gymraeg a’i pherthynas â’r iaith fain yn cael eu datgelu mewn sesiwn drafod ar y pwnc ”Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd” ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth 2 Awst, o 4:00y.h. tan tua 4:30y.h. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb alw draw i’r babell.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011
Gwyddonwyr yn dod o hyd i aur mewn corsydd ym Mhrydain
Gallai gwerth corsydd Prydain fod ar fin codi i’r entrychion, gan eu gwneud yr un mor werthfawr â thir fferm da.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2011
Cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ers mwy na 45 mlynedd
Pan oedd Tîm rygbi Cymru yn ei anterth, fe gychwynnwyd ‘myth’ am y ffatri yn y cymoedd oedd yn cynhyrchu’r chwaraewyr (yr ‘Outside Half Factory’ bondigrybwyll), wedi’i chuddio yn nyfnderoedd y cymoedd. Y pen arall i’r wlad, mae llwyddiant sy’n parhau hyd heddiw, sefydliad sy’n cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ar gyfer byd real iawn ers 45 mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2011
Tîm Codi Pwysau Olympaidd Tsieina yn cynnal gwersyll hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Chwaraeon a Diwylliant Prydain-Tsieina (ACSCA) mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru, Cyngor Gwynedd a Chwaraeon Cymru bydd Tîm Codi Pwysau Olympaidd Tsieina yn cynnal gwersyll hyfforddi ym Mangor, hynny fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2011
Ysgol y Gyfraith i Gynnal Sgwrs We Byw ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Mi fydd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn cynnal sgwrs we byw ar gyfer darpar fyfyrwyr Ôl-raddedig o 11.00am ar Ddydd Mercher, 3ydd o Awst 2011 , gydag arweinyddion y rhaglenni LLM yng Nghyfraith Ryngwladol a Chyfraith a Strategaeth Caffael Cyhoeddus yma ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2011
Prifysgolion Aberystwyth a Bangor i lansio cronfa cyfalaf mentro newydd
Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor yn bwriadu lansio rhaglen uchelgeisiol i ddatblygu cronfa arloesi i gynorthwyo busnesau bychain yn y Canolbarth a’r Gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2011
Tair Grant Ymchwil i Eigionegwyr Ffisegol Bangor yn dod â Miliwn o Bunnau i’r Brifysgol
Yn ddiweddar enillodd Eigionegwyr Ffisegol o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor dair grant ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, un o’r cyrff sy’n cyllido ymchwil yn y DU. Mae’r rhain, gyda’i gilydd, yn dod ag ymchwil newydd gwerth miliwn o bunnau i’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2011
Mae’r Brifysgol yn lansio Project £3.2 miliwn i Hybu Twf Economaidd
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi cynnal lansiad swyddogol project £3.2 miliwn i hybu twf economaidd yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2011
Ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn darlithio yn theatr ‘Globe’ Shakespeare
Mae’r Athro Helen Wilcox o Ysgol y Saesneg Prifysgol Bangor ymysg academyddion blaenllaw sy’n rhoi darlithoedd cyn perfformiad yn theatr fyd enwog ‘The Globe’ ar lannau’r Tafwys yn Llundain. Mae’r theatr bresennol wedi’i seilio ar theatr o gyfnod Elisabeth I a safai lathenni o’r safle presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2011
Her i fyfyrwyr: Gwneud i bobl wirioni ar eich ymchwil….mewn tri munud
Gwneud i bobl wirioni ar eich ymchwil….mewn tri munud - Dyna’n union a wnaeth grŵp o fyfyrwyr PhD o bob cwr o Gymru mewn digwyddiad gwobrwyo ym Mhrifysgol Bangor ar Fehefin 16. Cynhaliwyd y digwyddiad i gydnabod effaith yr ymchwil doethurol cydweithredol sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â busnesau ar draws Cymru fel rhan o raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a’r sgiliau menter sy’n cael eu datblygu o ganlyniad i’r rhaglen. Daeth cynrychiolwyr ynghyd o brifysgolion Bangor, Abertawe, Caerdydd a Metropolitan Abertawe, yn ogystal â rhai o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil. Yn ogystal â chynnig cyfle i ymchwilwyr a phobl busnes o bob disgyblaeth a sector i rwydweithio â’i gilydd, cafwyd anerchiad pwysig gan Paul Sandham, Rheolwr Gyfarwyddwr GeoSho Limited ar thema cydweithio yn y brifysgol a dathlu llwyddiant y myfyrwyr oedd wedi cwblhau eu graddau ymchwil o dan raglen KESS yn 2011. Yn ganolog i’r digwyddiad cafwyd cystadleuaeth Cymru gyfan oedd yn herio myfyrwyr o bob cwr o’r wlad i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd atyniadol a hynny o dan bwysau aruthrol .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2011
Myfyrwyr Astudiaethau Creadigol yn mynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA
Roedd Frances Malpass, 21, o’r Wirral, sydd wedi graddio o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wythnos yma, yn ddigon lwcus i gael y cyfle i fynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA gyda’i chyd-fyfyriwr Paco McGrory, i ddangos eu ffilm fer yn yr ŵyl LifeFest.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2011
Llwyddiannau Graddio 2011
Llongyfarchiadau i'n holl raddedigion! Darllenwch ein straeon graddio yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2011
Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Fawr
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi tuag at gynnal cynhadledd fawr ym maes Cyfraith Cystadleuaeth ym mis Gorffennaf, a fydd yn croesawu siaradwyr gwadd o bob cwr o’r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2011
Côr yn helpu’r Brifysgol i ddathlu canmlwyddiant
Bydd un o Gorau Meibion hynaf y wlad, Côr y Penrhyn, yn ymuno â staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddathlu canmlwyddiant agor Prif Adeilad y Brifysgol. Bydd yn ganrif i’r diwrnod ers i Frenin Siôr V agor yr adeilad newydd trawiadol sy’n eistedd ar ael y bryn uwchben dinas Bangor. Bore dydd Iau, 14 Gorffennaf, bydd Côr y Penrhyn yn rhoi perfformiad arbennig yn ystod seremoni graddio, lle bydd dros 200 o fyfyrwyr yn graddio.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011
Paul yn drist i adael Bangor
Mae Paul James Davison, 21, o Bury St Edmunds, Suffolk, a oedd yn graddio gyda gradd Feistr yn Sŵoleg wythnos yma, wedi ennill Gwobr Goffa Ian Herbert sydd yn cael ei rhoi i’r myfyriwr gradd feistr orau sy’n astudio Bioleg Gymhwysol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011
Myfyriwr yn lansio syniad busnes
Mae myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi graddio gyda Gradd Dosbarth Gyntaf yn gobeithio lansio’r cynllun a ddyfeisiodd ar gyfer ei broject blwyddyn olaf yn rhyngwladol yn ystod y misoedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011
Dathlu Graddio ac ennill gwobr
Mae myfyrwraig BA Hanes o Brifysgol Bangor wedi derbyn Gwobr Dr John Robert Jones a ddyfernir i’r pedwar myfyriwr orau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol. Derbyniodd Cerys Hudson, 21, o Lanfrothen, Gwynedd siec o £1,000 yn ei seremoni graddio.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011
Myfyriwr ‘canolig’ yn derbyn Gradd Dosbarth Gyntaf!
Mae un o raddedigion Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor wedi cyflawni’r gamp o ennill gradd dosbarth gyntaf, er iddo feddwl ar un adeg na fysa’n derbyn graddau digon da i astudio yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011
Myfyriwr graddedig lleol yn ennill gwobr fawr
Derbyniodd Danial Richard Hemmings,25, o Gaerwen, Ynys Môn, sydd yn graddio gyda BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid eleni, siec gwerth £1,250 yn ystod ei seremoni graddio wythnos yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2011
Dawn yn hedfan wedi graddio!
Gadawodd Dawn Thompson o Gaergybi yr ysgol yn Singapore yn 17 oed gyda llond llaw o TGAU. Gan fod ei thad yn yr Awyrlu, nid oedd fawr o gyfle i fynd mlaen i addysg bellach ar y pryd, felly pan ddychwelodd y teulu i’r DU, dechreuodd waith fel derbynnydd mewn cwmni garddwriaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011
Myfyriwr Aeddfed yn goresgyn salwch i ennill gradd dosbarth 1af
Mae cyn saer coed o Rhyl wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn dilyn newid sydyn yn ei yrfa yn dilyn afiechyd galwedigaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011
Myfyriwr yn ennill lleoliad i raddedigion gyda chwmni Landrover
Yr haf yma bydd un o raddedigion Bangor, sydd wrth ei fodd gyda Landrovers, yn dechrau mewn swydd gyda’r cwmni. Dywed Robin Boyd, a gafodd radd Meistr mewn Peirianneg Electronig, bod ei gyfnod ym Mangor wedi ei helpu i ‘feddwl fel peiriannydd’. Yn fuan caiff gyfle i roi’r cyfan y mae wedi ei ddysgu ar waith fel Peiriannydd Datblygu Cynnyrch.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011
Cyfraniad Prifysgol Bangor at genedl fwyaf newydd Affrica
Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011, bydd y byd yn croesawu ei chenedl fwyaf newydd, Gweriniaeth Deheubarth Swdan ( a elwir fel arfer yn Dde Swdan) a anwyd o'r dioddefaint a achoswyd gan ddegawdau o ryfel cartref.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2011
Bywyd Normal
Mae llyfr newydd wedi ei gyhoeddi sy’n rhoi cip ar hanes y Coleg Normal, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Bangor, drwy lygaid ei myfyrwyr. Mae Dr Tudor Ellis, cyn-ddarlithydd yn y Coleg Normal, wedi ysgrifennu’r llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan wasg y Bwthyn, ac wedi’i lansio’r wythnos hon (8.7.11).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2011
Duffy'n ymuno â'r Brifysgol i ddathlu llwyddiant myfyrwyr
Bydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn deuddeg seremoni, i’w cynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (9-15 Gorffennaf 2011). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant. Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sy’n derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011
Arolwg ymgynghorwyr yn dangos cefnogaeth ddiamheuol i Ysgol Glinigol Gogledd Cymru
Mae canlyniadau arolwg newydd wedi dangos fod Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn helpu i ddenu meddygon i weithio yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011
Gwyddonydd Morol o’r radd gyntaf!
Mae gan un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Philip Hollyman, ddau reswm i ddathlu’r haf yma. Nid yn unig ydyw wedi graddio gyda gradd Dosbarth Gyntaf ond mae hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr IMarEST Wales Prize: Marine Scientist of the Year mewn cydnabyddiaeth o’i waith caled a’i lwyddiant academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011
Ymweliad gan Fyfyrwyr Nodedig o America â Phrifysgol Bangor, i astudio diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol Cymru
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor groesawu wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru mewn Sefydliad Haf newydd arloesol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011
Ysgolion ar draws y rhanbarth yn cael blas ar fasnachu wrth iddynt gymryd rhan mewn sialens sgiliau unigryw
Cafodd disgyblion o bob cwr o Ogledd Cymru y cyfle i brofi cyffro a chynnwrf gwerthu ar lawr masnachu byw diolch i fenter ‘Sialens y Farchnad Stoc’ Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011
‘Y Gymuned, Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru’ Digwyddiad Rhwydweithio WISERD
Daeth criw da ynghyd i’r digwyddiad hwn ar 15 Mehefin 2011, yn cynnwys gweithredwyr lleol, sefydliadau anllywodraethol, gwneuthurwyr polisi ac academyddion o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt, a chanddynt ddiddordeb yng nghynaliadwyedd cymunedau lleol ac ymgyrchoedd a chynlluniau amgylcheddol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth a hefyd ‘lansiwyd’ rhwydwaith thematig WISERD ar yr amgylchedd, twristiaeth a hamdden.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011
Awdur lleol yn rhoi copi o’i lyfr newydd i Lyfrgell Prifysgol Bangor
Mae awdur lleol, Dr Robert Atenstaedt, wedi cyflwyno copi o’i lyfr ar feddygaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i lyfrgell Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011
DR. SUZANNAH LINTON: APPOINTMENT AS CHAIR OF INTERNATIONAL LAW AT BANGOR LAW SCHOOL
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2011
Dr. Suzannah Linton: ei Phenodi’n Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor
Dr. Suzannah Linton yw Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor ac mae’n arwain y tîm Cyfraith Ryngwladol. Ymunodd yn ddiweddar ag Ysgol y Gyfraith Bangor o Brifysgol Hong Kong ac mae’n dod â llawer o brofiad ymarferol ac academaidd ym maes Cyfraith Ryngwladol i Fangor.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2011
Myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn gwerthu hawliau ffilm ei lyfr llwyddiannus
Mae myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor newydd werthu’r hawliau ffilm i’w ail nofel. Bydd llyfr Ashwin Sanghi Chanakya’s Chant yn cael ei addasu’n ffilm gan UTV Motion Pictures.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2011