Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2010
Un o ddeg project yn y DU sydd wedi derbyn grant
Mae academydd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn un o ddeg academydd o Brydain yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil rhwng Prydain ac Israel sydd wedi derbyn grant gan y Britain Israel Research and Academic Exchange Partnership, BIRAX. Mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Matthew Gould, llysgennad Prydain yn Israel, i ddathlu cydweithio ym maes gwyddoniaeth rhwng y DU ac Israel, cyhoeddodd William Hague, Ysgrifennydd Tramor Prydain, enwau projectau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang ym maes ynni a’r amgylchedd sydd wedi llwyddo i ennill grant gan y bartneriaeth. Cyfeiriodd at wyddoniaeth fel “un o gonglfeini’r berthynas rhwng Prydain ac Israel" gan ychwanegu bod “y ddwy wlad wedi datblygu eu heconomi a’u hunaniaeth trwy fod yn arweinwyr ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg”.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2010
Mynd ag Arbenigedd Busnes Bangor i Ddinas Llundain
Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru i ‘allforio’ ei haddysg i Lundain . Mae’r Ysgol Busnes, sydd ar y brig o ran ansawdd yr ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid ymhlith sefydliadau yn y DU, yn lansio lleoliad dysgu newydd yn y Ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2010
Lansio Canolfan newydd i hybu trafodaeth am Droseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â chwe phrifysgol arall ledled Cymru i ffurfio Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. Bydd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones yn bresennol I annerchy cyfarfod i lansio’’t Ganolfan yn ffurfiol yn y Senedd heddiw, Dyddd Mercher 24 Tachwedd 2010.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010
Prifysgol Bangor yn cyfrannu i’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru
Mae’r Athro Sian Hope, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi ac Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor a Cyfarwyddwr RIVIC (Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol yng Nghymru), Prifysgol Bangor; wedi i phenodi i Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, John Harries.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010
Ieithoedd Modern yn dathlu llwyddiant gyda’r AHRC
Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi derbyn dwy Gymrodoriaeth uchel eu bri i academyddion ar Ddechrau eu Gyrfa gan gyngor ymchwil yr AHRC ar gyfer 2011. Mae’r llwyddiant hwn yn arbennig o nodedig gan mai anaml y bydd un ysgol yn derbyn dwy gymrodoriaeth o’r fath yn yr un flwyddyn. Bydd y ddwy dderbynwraig lwyddiannus, sef Dr Helen Abbott a Dr Anna Saunders, yn dechrau ar eu cymrodoriaethau yn Ionawr 2011. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Carol Tully ‘Rydym yn hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein cydweithwyr, ac mae’r gwobrau hyn yn arwydd o ansawdd yr ymchwil y mae’r Ysgol yn gallu ymfalchïo ynddo.’
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010
Mwy o gydnabyddiaeth yn Ewrop i Ysgol Seicoleg Bangor
Yn Nhabl Rhagoriaeth Ewropeaidd 2010 y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch gosodwyd 59 o brifysgolion yn Ewrop yn y “Grŵp Rhagoriaeth” ym maes Seicoleg. O’r rhain gosodwyd Ysgol Seicoleg Bangor yn y trydydd safle’n gyffredinol (ail yn y Deyrnas Unedig) ar sail nifer y sêr a enillodd yn yr arolwg sefydliadol a hefyd fe’i gosodwyd yn y deg uchaf ar sail mynegai meini prawf rhagddewis y Ganolfan. Dyfernir sêr i adrannau sy’n gwneud yn arbennig o dda mewn rhai meysydd ac mae’r ffaith bod Bangor wedi sgorio mor uchel yn arwydd eglur o ansawdd cyffredinol yr Ysgol a’r parch rhyngwladol sydd i’w staff a’i myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010
Prifysgol Bangor yn un o ‘3 Lle’ Arbennig Siân James
Y gantores, delynores a chyfansoddwraig, Siân James, sy’n cael cyfle i ddewis y tri lle sydd ag arwyddocâd arbennig iddi hi yn y gyfres 3 Lle i’w weld nos Fercher, 1 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2010
Rhaglen The One Show yn cofio ymweliad The Beatles â Bangor
Cofiwch wylio rhaglen The One Show ar BBC 1 am 7.00 nos Fawrth 23 Tachwedd i glywed am ymweliad y Beatles â Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2010
Rhannu llofnod Hitler mewn ymgais i sicrhau diogelwch
Mae hanes twymgalon o ddewrder a chyfeillgarwch y tu ôl i gopi prin o lofnod Hitler sy’n cael ei arddangos am y tro cyntaf, a hynny ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. Mae arddangosfa fechan yn esbonio arwyddocâd y llythyr a arwyddwyd gan y Fürher a sut y daeth i Gymru yn y lle cyntaf, a sut y daeth i fod ar fenthyg i Archif y Brifysgol. Mae’r Arddangosfa ar agor i’r cyhoedd yn ystod yr wythnos rhwng 9.00- 5.00. Mae’r llythyr a lofnodwyd gan Hitler yn diolch i aelod uchel o’r gwasanaeth sifil yn yr Almaen, Dr Theodor Lewald am ei gymorth wrth lwyfannu’r Gêmau Olympaidd gwaradwyddus yn Berlin yn 1936. Ond mae celwydd ynddo. Nid ymddeol oherwydd ei oed yr oedd Dr Lewald ond, yn hytrach, cael ei orfodi i wneud oherwydd ei dras Iddewig. Anfonodd ef y llythyr ymlaen at athrawes, Dr Dorothea Wegle, aelod o ddosbarth canol uwch yr Almaen – a nifer ohonynt yn wrthwynebus i fudiad y Natsïaid a’r hyn yr oeddynt yn ei gynrychioli.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2010
Pobl ein dinas: Y ffordd mae pobol ifanc Bangor yn ei gweld hi
Yn ddiweddar penodwyd yr artist Catrin Williams i arwain cynllun celf gymunedol ‘Pobl Ein Dinas’, prosiect ar y cyd rhwng Rhaglen Pontio, Prifysgol Bangor a Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Bwriad y cynllun yw creu murlun mawr o waith pobol ifanc Bangor ar furiau safle adeiladu’r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesedd newydd. Yn ystod y mis diwethaf mae Catrin wedi bod yn cydweithio â Nia Owen, Swyddog Ieuenctid Ysgolion Uwchradd Bangor ar gyfres o weithdai celf yn Ysgol Tryfan ac yng Nghanolfan Ieuenctid Maesgeirchen. Mae’r dyluniad, sydd bron wedi ei gwblhau, yn cynnwys casgliad o bortreadau’r rhai a greodd y gweithiau ynghyd â phobl sy’n bwysig iddynt, eu ffrindiau a’u teuluoedd ..ac ambell gymeriad adnabyddus arall!
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2010
Cynnydd mewn incwm ymchwil
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn yr incwm a enillwyd gan y Brifysgol ar gyfer ymchwil yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Croesawodd cyfarfod diweddar o Gyngor y Brifysgol adroddiad a oedd yn dangos bod gwerth y grantiau ymchwil a ddyfarnwyd i’r Brifysgol wedi cynyddu 142%; un a hanner gwaith yn fwy nag incwm y llynedd, o £25.5 miliwn i swm sy’n agos at £38 miliwn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2010
Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd Bangor ar restr fer ar gyfer Gwobr
Mae nhw wedi dod yn gyfarwydd- yr Arweinwyr Cyfoed yn eu crysau T llachar sydd i’w gweld o amgylch y Brifysgol yn ystod yr Wythnos Croeso - ond mae nhw wir yn rhywbeth arbennig. Yn wir, mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2010
Gwilwyr Autumnwatch i ddysgu am Frithyll Môr
Bydd gwylwyr rhaglen Autumnwatch ar draws Prydain yn dysgu am broject sy’n gobeithio sicrhau dyfodol brithyll môr, ar raglen i’w ddarlledu ar BBC 2 21.30 18.11.10.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2010
Rhaglen Science Café Radio Wales yn ymuno ag ymchwilwyr perfformiad
Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf yng nghyfres Science Café ar Radio Wales (a ddarlledwyd 16 Tachwedd 2010).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2010
Llongyfarchiadau i Aelwyd John Morris-Jones!
Yn amlwg ymhlith y 500 o gystadleuwyr a gyrhaeddodd lwyfan mawr Neuadd Pritchard-Jones ddydd Sadwrn yng Ngwyl Cerdd Dant Glannau Menai roedd myfyrwyr Aelwyd John Morris-Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2010
Enillydd Gwobr Nobel yn rhoi Darlith Gyhoeddus
Nid oes yr un pwnc mwy dadleuol a phwysig na “Chynhesu Byd-Eang” a gwahoddwyd un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw Cymru i draddodi Darlith Flynyddol y Gaplaniaeth ar “God, Science and Global Warming".
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2010
Stori’r dudalen flaen i Nicholas
Mae Nicholas Whitmore, myfyriwr Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn ei drydedd flwyddyn, wedi cael erthygl wedi ei gyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Post , Iau 11 Tachwedd 2010.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2010
Dathliadau Diwali
Bu myfyrwyr y Brifysgol sy'n hanu o India yn dathlu gŵyl Hindŵaidd Diwali mewn steil nos Wener ddiwethaf (5ed o Dachwedd) wrth i Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol drefnu parti yn Neuadd Rathbone.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2010
Archesgob Caergrawnt yn anrhydeddu Athro o Fangor
Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, wedi cyhoeddi bod yr Athro John Harper, athro ymchwil mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill gradd Doethur mewn Cerddoriaeth. Mae’r Archesgob yn ysgrifennu bod y cymhwyster yn cydnabod cyfraniad clodwiw’r Athro Harper at ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a’i gwerthfawrogiad fel ysgolhaig, gweinyddwr, addysgwr a chyfansoddwr, ac at well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng cerddoriaeth a litwrgi’r eglwys.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010
Ymchwil gyfranogol i ddiogelu cyflenwadau bwyd a bioamrywiaeth yn Eritrea.
Mae CARIAD, Canolfan Prifysgol Bangor dros Ymchwil Uwch i Ddatblygiad Amaethyddol Rhyngwladol, i gychwyn ar broject 3-blynedd gwerth €520,000 (£453,000) dan nawdd yr UE, i ddiogelu cyflenwadau bwyd a bioamrywiaeth ffermydd mewn ardaloedd yn Eritrea sy’n dueddol o ddioddef sychder. Bydd CARIAD yn gweithio gyda sefydliadau a ffermwyr lleol i ganfod mathau amgen o gnydau a gwell technegau tyfu, ac i wella cynnyrch a marchnata hadau. Mae Eritrea yn un o ranbarthau tlotaf Affrica ac yn dioddef sychder yn aml. Mae’r amodau hyn yn debygol o waethygu wrth i newid hinsawdd arwain at lawiad mwy anghyson. Bydd CARIAD yn gweithio gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Amaethyddol a chyda Choleg Amaeth Hamelmalo, sy’n cyfrannu gwybodaeth wyddonol yn Eritrea. Bydd y Corff All-Lywodraeth Vision Eritrea, ynghyd ag Adran Estyniadau’r Weinyddiaeth Amaeth, yn darparu’r rhywogaethau a’r technegau newydd i filoedd o ffermwyr. Darperir rhywfaint o hyfforddiant ar y cyd ag ICRISAT, sef y Sefydliad Rhyngwladol dros Ymchwil i Gnydau ar gyfer y Trofannau Lled Gras.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010
Graddedigion Bangor yn gwneud gwahaniaeth ar broject World Challenge
Mae dau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn gweithio ar broject amgylcheddol ym Madagascar, sydd ar restr fer ar gyfer World Challenge. Cystadleuaeth fyd-eang yw hon i ganfod projectau neu fusnesau bychain o amgylch y byd sydd wedi dangos mentergarwch ac arloesedd ar lefel sylfaenol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010
Ei gerddoriaeth yn creu awyrgylch ‘epig’ ar y sgrin
Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddio’i gerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010
Ymchwil synhwyro ffrwydron ar waith ym Mangor
Ysgol Gemeg Bangor yw’r sefydliad ymchwil arweiniol yn natblygiad y sensor ffrwydron a fydd yn cael ei ddefnyddio yn yr uned ddarganfod. Mae gwyddonwyr ym Mangor hefyd yn creu’r arwynebau catalytig a gaiff eu defnyddio i ddiheintio'r awyr. Y syniad yw integreiddio’r system gyda mesurau diogelwch presennol mewn meysydd awyr.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010
Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad
Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010
R.S. Thomas – Llawysgrifau Newydd: Ychwanegiad at Gasgliad y Brifysgol
Mae dengmlwyddiant Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor wedi’i nodi wrth i ddwy eitem o bwys gael eu hychwanegu at y casgliad. Y gyntaf yw casgliad sylweddol o lawysgrifau a theipysgrifau R.S. Thomas, yn cynnwys llawer o ddeunydd anghyhoeddedig, o ystâd y diweddar Peter Jollife, casglwr blaenllaw ym maes llyfrau a llawysgrifau llenyddol modern.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010
Dechrau gyrfa gyda'r BBC yn gwireddu breuddwyd Jack
Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddiant cynhyrchu'r BBC yn ei ddisgrifio fel y ‘dechrau perffaith i’w yrfa’.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2010
System gyfrifiadurol yn disodli’r hen bib ar gopa’r Wyddfa
Cyn i Hafod Eryri, y ganolfan gyffrous newydd i ymwelwyr ar gopa mynydd uchaf Cymru, agor ei drysau, arferai’r Gorsaf-feistr gyhoeddi bod y trên ar fin cychwyn drwy chwythu ei bib. Nid oedd hyn yn cyd-fynd rhywsut â’r datblygiad newydd gyda holl gyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain, ac felly fe wnaeth cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa droi at Brifysgol Bangor am gymorth. Y canlyniad fu gosod system gyhoeddi newydd, gwbl awtomatig, ar gyfer Hafod Eryri. Mae’r system hon yn gweithio’n gyfan gwbl erbyn hyn ac wedi dod yn hanfodol ar gyfer rhedeg yr orsaf ar y copa o ddydd i ddydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010
Cyn-fyfyrwraig o Fangor yn Ennill Gwobr y Byd am Waith ar Fioleg Môr
Mae Elizabeth Taylor Jay, a gafodd MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr yn 1997/98 ar ôl astudio yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor, wedi cael Gwobr y Byd am y Gweithrediad Gorau ar Amrywiaeth Fiolegol, 2010, yn ystod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol a gynhaliwyd yn Nagoya, Japán yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010
Llongyfarch Athro'r Flwyddyn
Llongyfarchiadau i un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Llew Davies, sydd newydd ennill teitl Athro’r Flwyddyn , prif wobr ei broffesiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2010
Dillad y Super Furries yn rhan o gasgliad anferth
Mae gwisgoedd arbennig sy’n perthyn i un o fandiau enwocaf Cymru wedi eu rhoi ar fenthyg i Archif Pop Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2010