Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2011
Cardiau Nadolig gyda darluniau canoloesol unigryw
Mae cardiau Nadolig sydd â chysylltiad arbennig gyda Bangor ar werth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a Phrifysgol Bangor y Nadolig hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2011
Myfyrwyr Bangor yn cynnal gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd
Wynebu realiti HIV ac AIDS Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn ymgasglu yng Nghadeirlan Bangor ddydd Mercher nesaf (1 Rhagfyr) ar gyfer gwasanaeth blynyddol Bangor ar Ddiwrnod AIDS y Byd. Bydd Undeb Myfyrwyr Bangor a’r Gaplaniaeth Anglicanaidd yn cynnal gwasanaeth i gofio am y bobl hynny sydd wedi colli’u bywydau i’r clefyd dychrynllyd hwn, cynnig gobaith i’r rheiny sy’n dioddef ohono a chodi ymwybyddiaeth am yr elusennau HIV/AIDS yn ein cymdogaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2011
‘Sesiwn Holi i’r Cyhoedd’ – a’r testun yw Newid Hinsawdd
Bydd ‘Sesiwn Holi i’r Cyhoedd’ yn sôn am newid hinsawdd yn rhoi cyfle i bobl ddysgu ffeithiau, chwalu pob myth, a dysgu’r ffordd orau o weithredu yn ein hinsawdd a’n byd cyfnewidiol. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb ddod i Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7pm ar 29 Tachwedd – cofiwch ddod â’ch cwestiynau gyda chi. Bydd y drafodaeth yn cael ei darlledu ar raglen ‘Science Café’ BBC Radio Wales ar 6 Rhagfyr 2011, 7pm. Adam Walton, cyflwynydd ‘Science Café’, fydd yn cadeirio’r drafodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2011
Arbenigwyr canser yn dod ynghyd mewn Cynhadledd ym Mangor
On Wednesday and Thursday this week (23/24/11/11), delegates from across the UK will be gathering at Bangor University for the second conference exploring how services for patients with cancer can be provided in a rural environment.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2011
Effaith newid hinsawdd ar ryddhau CO2 o fawn llawer uwch nag y tybiwyd
Mae cyfnodau o dywydd sych eithafol yn achosi i fawn ryddhau llawer mwy o garbon deuocsid na’r hyn a sylweddolwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011
Byddwch Fentrus yn lansio Cronfa Ddechrau Newydd
Weithiau cyllid yw’r unig beth sy’n rhwystro datblygiad syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gyda hyn mewn cof, mae’r Project Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi datblygu cynllun sy'n gwbl newydd i Brifysgol Bangor. Hwn yw'r Gronfa Ddechrau, lle gall myfyrwyr unigol, grwpiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gyflwyno syniad busnes. Yna, caiff y rhai a roddir ar y rhestr fer gyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid. Trwy’r cynllun hwn, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, gall myfyrwyr ennill hyd at £150 o arian i gymryd y camau cyntaf i fyd busnes.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011
Gweinidog yn ymweld â chanolfan sy’n gefn i’r Gymraeg
Cafodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, gyfle i glywed am nifer o brojectau arloesol sy’n hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg wrth iddo ymweld â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn ddiweddar (17 Tachwedd 2011).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2011
Y gwelliannau mwyaf yng nghyfnodau diagnosio canserau’r coluddion, yr oesoffagws a’r pancreas
Mae ymchwil newydd yn dangos gwelliant mawr wrth ymdrin â chanser y coluddion, yr oesoffagws a’r pancreas. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn yr amser y mae’n ei gymryd o’r adeg y mae cleifion yn mynd i weld eu meddyg teulu gyntaf gyda'r symptomau i’r adeg pan maent yn cael diagnosis o'r afiechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2011
Nid yw’r cyfan yn sbwriel!
Bangor University Students Union have produced a 16 page bilingual Rubbish Survival Guide booklet aimed at encouraging students to recycle more and keep the streets clear of waste.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2011
Lansio Addysg Dinasyddiaeth yng Nghymru
“Thank the Lord I’m Welsh!”, meddai Cerys Matthews. Ond beth, bellach , yw ystyr bod yn Gymro neu’n Gymraes? Beth yw bod yn ddinesydd o Gymru? A yw datblygiad y Cynulliad wedi hyrwyddo’r ymdeimlad o fod yn ddinesydd Cymreig?
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2011
Pontio'n croesawu ‘Anton Chekhov’ i Gymru
Bydd actor profiadol yn y ‘West End’, Michael Pennington, yn dod â’i sioe un dyn, ‘Anton Chekhov’, i Fangor mis yma (19 Tachwedd). Yn actor Shakespearaidd byd-enwog, mae Pennington wedi profi ei allu amrywddawn fel actor gyda gyrfa nodedig ar y llwyfan ac mewn ffilmiau – fel awdur a chyfarwyddwr. Bydd cefnogwyr Star Wars hefyd yn ei adnabod fel un o brif swyddogion y Death Star yn y ffilm ‘Star Wars Episode VI: Return of the Jedi’.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011
Darlith gan Westai Nodedig - Dr Gillian Davies
Mae’n bleser o’r mwyaf gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi y traddodir darlith wadd gan Dr Gillian Davies, Bargyfreithiwr yn Siambrau Hogarth yn Llundain, ddydd Iau 24 Tachwedd 2011. Bwriad darlith Dr Davies, sy’n dwyn y teitl “The European Patent Office (EPO) in the Global Patent System – European Patent Convention (EPC) Law and Practice”, yw dangos sut mae Cytundeb Patentau Ewrop yn cyd-fynd â’r system patentau fyd-eang (Cytundeb Paris, Cytundeb Cydweithio Patentau etc.) yn ogystal â’i berthynas â chyfreithiau cartref a phatent yr UE. Bydd yr anerchiad o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr sy’n astudio’r modiwl ‘Cyfraith Eiddo Deallusol’ ar hyn o bryd neu’n bwriadu gwneud hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011
Darlithydd Ysgol Busnes Bangor yn ennill grant i hybu addysg gyfrwng Cymraeg
Mae Dr Sara Parry, Darlithydd ym Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, wedi ennill grant i ddatblygu ffilm ddigidol sy’n hyrwyddo manteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2011
Dathlu Canmlwyddiant Adeilad y Brifysgol
Mae Prif Adeilad Prifysgol Bangor yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni. I ddathlu hyn, a phwysigrwydd y rhan chwaraewyd gan chwarelwyr Gogledd Cymru mewn sefydlu’r Brifysgol, cynhelir Cynhadledd Canmlwyddiant ddydd Sadwrn 19eg Tachwedd am 9.30am, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2011
Rhoi cyfle i’r gymuned glywed am yr ymchwil ddiweddaraf i Ganser a Gofal Lliniarol
Mae darlith yn canolbwyntio ar Ganser a Gofal Lliniarol, i’w chynnal yn Venue Cymru am 6pm ar 15 Tachwedd. Mae’r gyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, ar agor i’r cyhoedd, ac yn cynnwys lluniaeth, cyfleoedd i rwydweithio, a thystysgrif bresenoldeb.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2011
Cyfres Radio i Goffhau'r Marw o Irac ac Affganistan
Yn sgil ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd o Fangor, mae cyfres ffeithiol yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales y mis yma.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2011
Helpu cwmni lleol sydd wedi datblygu ac ennill y farchnad ar gyfer cynnyrch awyr agored
Roedd Rheolwr Cyfarwyddwr y cwmni ac entrepreneur a ddyfeisydd, Derek Ryden, o Gwmni Blizzard Protection Systems Cyf . yn ymwybodol fod ganddo gynnyrch da. Fodd bynnag, mae cydweithio efo arbenigwyr yn Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alluogi i werthfawrogi’n union pa mor effeithlon ydy’r cynnyrch mewn gwirionedd. Mae’r wybodaeth wedi bod o fudd i’r cwmni marchnata’u cynnyrch yn fwy effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2011
Science Cafe yn ymweld ag Ysgol Gwyddorau Eigion
Mae Science Café , rhaglen wyddoniaeth wythnosol Radio Wales’ weekly yn trafod y môr yn golchi’r glannau, gwaddod a mwd yr wythnos hon (8 Tachwedd 2011 19:00-19:30 ac eto ar 13 Tachwedd 2011 06:30-07:03). I wneud y rhaglen death y cyflwynydd, Adam Walton i siarad â staff Ysgol Gwyddorau Eigion mewn gwahanol leoliadau. Yn cymryd rhan mae’r Athro Alan Davis, Dr Jaco Baas a Dr Simon Neill.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2011
Myfyrwyr Bangor yn ymuno â Phill Jupitus ar y llwyfan
Cafodd myfyrwyr o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor gyfle gwych yn ddiweddar, pan aethon nhw ar y llwyfan gyda Phil Jupitus yn Venue Cymru fel rhan o ŵyl gomedi Giddy Goat .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2011
Pontio i benodi Cyfarwyddwr Artistig
Mae Prifysgol Bangor wrthi’n chwilio am Gyfarwyddwr Artistig i Ganolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2011
Porth Coffa ar agor ar gyfer Wythnos y Cofio
Bydd y Porth Coffa ar Ffordd Deiniol, Bangor ar agor i’r cyhoedd ar hyd Wythnos y Cofio, rhwng Llun 7 a Sul 13 Tachwedd. Mae’r Porth Coffa yn coffau’r holl Luoedd Arfog a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hyn yn dilyn llwyddiant cydweithio a fu rhwng Prifysgol Bangor a’r Lleng Brydeinig Frenhinol a alluogodd agor y Porth Coffa i’r cyhoedd bob dydd Sadwrn dros yr haf.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2011
Prifysgol Bangor yng Ngholeg Llandrillo
Mae dros 400 o fyfyrwyr wedi cychwyn astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo sy’n golygu y gallant ennill graddau Prifysgol Bangor am y tro cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2011
Enwi darlithfa ar ôl darlithydd ysbrydoledig
Bu Alun Waddon yn ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg o 1970-2005. Ar ôl ei farwolaeth yn ddiweddar penderfynodd yr Ysgol gydnabod ei gyfraniad pwysig mewn Seicoleg ym Mangor drwy enwi Darlithfa 1 ar ei ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2011