Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Rhagfyr 2010
Cystadleuaeth Syniadau Busnes yn creu posibiliadau diddorol
Gêm antur awyr agored sy’n hyrwyddo diddordeb mewn hanes yw’r syniad busnes diddorol sydd wedi bachu dychymyg y beirniaid mewn Cystadleuaeth Fusnes ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2010
Myfyrwyr mentrus yn cynnal Marchnad Nadolig
Cychwynnodd dathliadau’r Nadolig ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar efo Ffair Nadolig Myfyrwyr. Cymerodd dros 80 o fyfyrwyr, yn llawn ysbryd menter, ran yn y digwyddiad, a drefnwyd gan Broject Byddwch Fentrus, a daeth dros 500 o ymwelwyr i’r ffair.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010
Ymestyn y Food Dudes yn ninas Wolverhampton
Mae Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol GIG Dinas Wolverhampton, sydd wedi arloesi ym Mhrydain drwy fabwysiadu defnydd cynllun Food Dudes i annog plant ysgol i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, wedi penderfynu ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall. Wedi’i ddatblygu gan Uned Ymchwil Bwyd a Gweithgaredd Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, cafodd y cynllun ei gyflwyno yn Ionawr 2009. Roedd wedi’i gynllunio i redeg tan Ragfyr 2011, gan fod o fudd i 20,000 o ddisgyblion Ysgolion cynradd ac arbennig – ar gost o £500,000.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010
Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd Seafish
Mae ecolegydd môr, yr Athro Michel Kaiser o Brifysgol Bangor, wedi’i benodi’n Is- Gadeirydd bwrdd Seafish hyd Fawrth 2012. Mae Seafish yn Gorff Cyhoeddus All-adrannol (Non-departmental Public Body neu NDPB), sy’n gweithio ar draws holl sectorau’r diwydiant bwyd môr i hybu bwyd môr cynaliadwy o ansawdd uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010
Taith i’r Unol Daleithiau i sŵolegwyr Bangor
Mae grŵp o fyfyrwyr o ogledd Cymru wedi dychwelyd o daith ymchwil lle buont yn cerdded trwy gorsydd, yn canŵio trwy fangrofau ac yn nofio dros riffiau cwrel. Fel rhan o’u graddau sŵoleg, treuliodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor wythnos yn y Bytholwerni yn Fflorida yn astudio bywyd gwyllt unigryw'r ardal.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010
Ein Dinas: Y ffordd mae Pobl ifanc yn ei gweld hi.
Yn ddiweddar, cafodd murlun lliwgar sy’n portreadu ardal a chymeriadau Bangor, drwy lygaid pobl ifanc Bangor ei ddadorchuddio. Crëwyd y murlun gan ddisgyblion Ysgol Tryfan a Chanolfan Ieuenctid Maesgeirchen fel rhan o brosiect celf weledol gan gynllun Ein Dinas, a drefnwyd gan Cynllun Pontio Prifysgol Bangor a Fforwm Gelfyddydau Gwynedd. Mae’r murlun yn cael ei weld ar fyrddau’r safle adeiladau ac yn tynnu llygaid y bobl leol tuag at gynllun Pontio, a arienni’r yn rhannol gan Gronfa Datblygiad Cydgyfeiriant Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd i’w agor yng ngwanwyn 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010
Coed i gyfrannu at ymchwil
Mae dwsinau o goed brodorol lled aeddfed, yn cynnwys Masarn, Planwydd Llundain, Bedw, Ceirios, Criafol a Cherddinen Wen ymysg y rhai a fydd yn cael eu plannu fel rhan o broject Pontio. Mae adeilad Pontio, sydd wedi’i gyllido’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol yr UE drwy Lywodraeth y Cynulliad, wedi ei gynllunio i ymdoddi i’w amgylchedd a chyd-fynd â thirwedd y parc o’i amgylch. Dyna pam mae cymaint o goed â phosibl, llawer ohonynt yn goed aeddfed, yn cael eu cadw o amgylch yr adeilad. Bydd hyn yn gwneud y ffiniau rhwng yr adeilad a’r parc yn fwy annelwig. Yn lle coed y mae’n rhaid eu torri, plennir rhywogaethau brodorol naill ai ar y safle neu o gwmpas campws y Brifysgol. Mae defnydd da’n cael ei wneud hefyd o’r coed sy’n gorfod cael eu torri.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2010
‘Panto 5 munud’ yn dod yn ôl i Stryd Fawr Bangor.
Mae’n bleser gan Bontio ac adran Ddiwydiannau Creadigol Prifysgol Bangor gyhoeddi y bydd ‘Panto 5 munud’ yn dychwelyd i Ganolfan Siopa Deiniol ar Stryd Fawr Bangor, ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr i gyd-fynd â dathliadau Nadolig y ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2010
Un o ddeg project yn y DU sydd wedi derbyn grant
Mae academydd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn un o ddeg academydd o Brydain yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil rhwng Prydain ac Israel sydd wedi derbyn grant gan y Britain Israel Research and Academic Exchange Partnership , BIRAX. Mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Matthew Gould, llysgennad Prydain yn Israel, i ddathlu cydweithio ym maes gwyddoniaeth rhwng y DU ac Israel, cyhoeddodd William Hague, Ysgrifennydd Tramor Prydain, enwau projectau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang ym maes ynni a’r amgylchedd sydd wedi llwyddo i ennill grant gan y bartneriaeth. Cyfeiriodd at wyddoniaeth fel “un o gonglfeini’r berthynas rhwng Prydain ac Israel" gan ychwanegu bod “y ddwy wlad wedi datblygu eu heconomi a’u hunaniaeth trwy fod yn arweinwyr ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg”.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2010
Prifysgol yn croesawu cyhoeddiad o gyllid ar gyfer datblygiad Pontio
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r cyhoeddiad o gyllid ar gyfer y datblygiad Pontio fel hwb enfawr i economi gogledd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £27.5m gan Lywodraeth y Cynulliad, a’r Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd, yn creu a diogelu cannoedd o swyddi a dod yn llwyfan ar gyfer datblygiad twf economaidd yn yr ardal.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2010
Prifysgol Bangor yn helpu i ddatblygu dysgu gwyddor cadwraeth ym Mangladesh a Ghana
Mae academyddion ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda chydweithwyr o Fangladesh a Ghana i gynyddu a gwella dysgu gwyddor cadwraeth yn y ddwy wlad hyn sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth. Mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyllido project sy’n caniatáu cyfnewidiadau rhwng staff, ymchwilwyr a staff o Brifysgolion ym Mangladesh, Ghana a Bangor. Ar hyn o bryd mae tri aelod staff o Brifysgol Khulna a Phrifysgol Rajshahi ym Mangladesh, a Phrifysgol Accra yn Ghana, ym Mangor yn cymryd modiwl MSc mewn bioleg cadwraeth ac yn gweithio gyda staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth i ddatblygu cwricwla bioleg cadwraeth ar gyfer eu prifysgolion eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2010