Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2013
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr BAFTA Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor, Osian Williams, wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2013
Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru ( WISERD ) wedi penodi Cyfarwyddwr newydd. Mae’r Athro Ian Rees Jones wedi cael ei benodi yn Gyfarwyddwr newydd WISERD. Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn arwain y Sefydliad sydd wedi dod yn brif ganolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, yng Nghymru ac y tu hwnt iddi. Sefydlwyd WISERD yn 2008 i ddod ag arbenigedd ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe ynghyd.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013
Deng mlynedd o lwyddiant - busnesau yn dod ynghyd i ddathlu GO Wales ym Mhrifysgol Bangor
Daeth dros hanner cant o fusnesau o bob rhan o ogledd orllewin Cymru at ei gilydd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf i ddathlu degfed pen-blwydd GO Wales , y project cymorth busnes a chyflogadwyedd. Daeth nifer o asiantaethau cymorth i fusnes o bob rhan o'r rhanbarth i'r digwyddiad hefyd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor sydd i gyd wedi rhoi cefnogaeth barhaus i'r rhaglen yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013
Darganfod ail gloc mewnol yn y lleuen fôr frith
Mae gan y lleuen fôr frith (Eurydice pulchra) ddau gloc mewnol yn y corff, un ar gyfer nos a dydd ac un arall ar gyfer llanw a thrai, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 26 Medi. Mewn papur yn y cyfnodolyn Current Biology , mae ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caergrawnt a Chaerlŷr yn cadarnhau bodolaeth cloc mewnol ar wahân ac annibynnol sy'n dilyn cylch 12.4 awr y llanw.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013
Cregyn bylchog yn datgelu cyfrinachau newid yn yr hinsawdd forol
Mae gwyddonwyr morol o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn y Brifysgol yn casglu data defnyddiol am newid yn yr hinsawdd forol- a hynny o fan annisgwyl- cregyn môr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2013
Cyhoeddi safle dewisol y Parc Gwyddoniaeth
Heddiw, mae Parc Gwyddoniaeth Menai wedi cyhoeddi mai safle 50 erw yn Gaerwen yw safle dewisol y parc gwyddoniaeth newydd fydd yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru. Mae'r safle, sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd, yn un o dri safle ar Ynys Môn oedd ar restr fer tîm project y parc gwyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013
Cyn-fyfyrwraig ar restr fer Stori Fer y BBC
Mae Lisa Blower, a raddiodd yn 2011 efo PhD o Ysgol y Saesneg Prifysgol Bangor, ac sy’n ddarlithydd rhan-amser yn yr Ysgol, yn un o bum awdur ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013
Defnydd arloesol o therapïau yn gymorth i bobl yn y gymuned
Wrth sôn am arloesedd, byddwn yn aml yn meddwl am dechnoleg, ond mae ystyr llawer mwy eang na hyn i’r gair. Gall pobol fod yn arloesol yn y modd y maent yn mynd ati i gymhwyso gwybodaeth er lles ehangach. Mae’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor yn enghraifft dda o hyn. Maent wedi ymestyn y defnydd o therapïau ymwybyddiaeth ofalgar, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer pobl efo iselder, at nifer fawr o ddibenion gwahanol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013
Myfyriwr y gyfraith yn ennill ei hachos llys gyntaf CYN graddio
Aeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a ddioddefodd gwahaniaethu yn y gwaith, â'i chyn-gyflogwr i'r llys ac ennill yr achos - cyn gorffen ei gradd yn y gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013
Ysgol y Gyfraith Bangor yn chweched ar y cyd drwy Brydain o ran boddhad myfyrwyr
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor sgôr anhygoel o 94% am 'foddhad cyffredinol' yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni, gan ein rhoi yn chweched ar y cyd ymhlith ysgolion y gyfraith ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013
Prifysgol Bangor i arwain project gwerth miliynau o bunnoedd yn Ewrop i astudio hanes ein moroedd
Hanes amgylchedd morol Ewrop dros y mil o flynyddoedd diwethaf yw targed project €3.1 miliwn (£2.6 miliwn), a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a arweinir gan wyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion , Prifysgol Bangor. Mae’r project hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Norwy, yr Almaen, Ffrainc, Croatia, Gwlad Pwyl a'r Iseldiroedd a bydd yn defnyddio cregyn molysgiaid hirhoedlog iawn fel cofnod o newid amgylcheddol dros y mil o flynyddoedd diwethaf. Mae'n adeiladu ar ymchwil a ddatblygwyd yn wreiddiol ym Mangor gan yr Athro James Scourse a'r Athro Chris Richardson a arweiniodd yn 2007 at ddarganfod yr anifail mwyaf hirhoedlog sy'n adnabyddus i wyddonwyr, sef cragen fylchog o Wlad yr Ia a oedd wedi byw am 507 o flynyddoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013
Gwobr Goffa Duncan Tanner 2013
Graddiodd Martin Andrew Hanks 50, o Benmaenmawr, gydag MA mewn Hanes, gan dderbyn hefyd Wobr Duncan Tanner am y Traethawd Hir Gorau ar gyfer MA, yn dwyn y teitl ‘ Can I Help You? The Early Life of Douglas Houghton ’.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013
Myfyriwr Ysgol y Gyfraith yn ennill achos llys CYN graddio
Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor fwy i'w ddathlu na dim ond derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn Y Gyfraith. Cafodd Alex Gibson, 36, o Abergwyngregyn brofiad enbyd a'i harweiniodd i gredu mai'r unig ffordd o'i hamddiffyn ei hun rhag gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle oedd astudio am radd yn Y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013
Food Dudes Ifanc yn Arwain y Ffordd i Feithrinfeydd Iach
Enillodd rhaglen newydd gyffrous sy’n gweithio i sefydlu arferion bwyta da ymhlith plant ifanc iawn brif Wobr Ymchwil Iechyd LARIA (Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth Awdurdodau Lleol), mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Manceinion.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013
Myfyrwyr newydd yn cael llwybrau i’r ddinas
Mae Penwythnos Croeso’r Brifysgol arnom unwaith eto - sef 21-22 Medi eleni, ac y mae staff ac Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol yn paratoi i groesawu myfyrwyr newydd i Fangor. Oherwydd hyn disgwylir i drafnidiaeth fod yn drymach ym Mangor dros y penwythnos gydag tua 2,000 o fyfyrwyr a’u rhieni yn cyrraedd Neuaddau Preswyl y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013
Cydnabyddiaeth Ryngwladol i Adran Seicoleg Bangor
Wrth i Seicoleg ym Mangor ddathlu hanner canrif ers sefydlu'r adran, pwysleisiwyd statws ac enw da'r adran ar y llwyfan byd-eang unwaith eto ar sail ei safle yn nhabl pwnc Seicoleg yn y QS World University Ranking. Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Ysgol Seicoleg Bangor, sy'n un o'r rhai mwyaf ym Mhrydain, wedi dod i'r 100 uchaf o adrannau Seicoleg drwy'r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013
Micro-geliau ym mhacrew'r Arctig a’r Antarctig
Ers 2006 mae’r Athro Graham Underwood a Dr Shazia Aslam o Brifysgol Essex a’r Athro David Thomas o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi arwain nifer o brojectau (wedi eu cyllido gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol) i astudio cynhyrchiant micro-geliau, a'u pwysigrwydd eang i ardaloedd oeraf cefnforoedd y byd. Buont yn gweithio mewn tîm gyda chydweithwyr o Awstralia a Chanada i gasglu a dadansoddi creiddiau rhew o’r Arctig a’r Antarctig. Saith mlynedd ar ôl hynny, ac ar ôl sawl taith rynllyd, maent yn cyhoeddi canfyddiad sydd yn dipyn o syndod. Maent hwy, a'u cydweithwyr wedi darganfod bod perthynas gref yn rhew’r Arctig a’r Antarctig – rhwng natur ffisegol y rhew, faint o ficrobioleg sydd ynddo, a chrynodiadau’r geliau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013
Niwrowyddoniaeth y Parthau Nwydus
Mae ein parthau nwydus ychydig yn od. Mae yna rannau penodol o’n cyrff, o’u cyffwrdd yn dyner, sy’n creu teimladau nwydus, er nad yw rhannau cyfagos o’r corff yn creu’r un teimladau. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd merch yn mwynhau’r teimlad o gael ei mwytho ar ei gwddf neu’i chlust ond nid felly ar ei boch neu’i thalcen. Beth yw’r rheswm am hynny?
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013
Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU
Mae un sefydliad dielw, ymddiriedolaeth ymchwil Sárvári, yn gweithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu cnydau newydd o domatos i arddwriaethwyr yn y DU. Yr amcan yw datblygu math newydd o domatos gwydn masnachol ac a fyddai'n gwrthsefyll malltod hwyr, y clefyd neu organeb sydd gan amlaf yn dinistrio unrhyw gnwd o domatos a dyfir yn yr awyr agored. Yr un organeb a achosodd y malltod tatws a arweiniodd at y newyn tatws yn Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013
Prifysgol Bangor yng Nghynghrair y Byd
Mewn tabl newydd o brifysgolion gorau’r byd, mae Bangor ar safle 143 fel cyrchfan i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae hefyd ymysg y 200 prifysgol uchaf (safle 183) o ran recriwtio staff rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013
Project myfyriwr yn dangos ei bod yn ddiogel bwyta mwyar duon ar ochrau ffyrdd
Mae’n adeg o’r flwyddyn pan fydd llawer o bobl yn hel ffrwythau, fel mwyar duon, ar ochrau ffyrdd. Fodd bynnag, mae rhai'n pryderu y gall ffrwythau meddal sy'n tyfu ar ochrau ffyrdd gynnwys lefelau uchel o fetelau trwm o ganlyniad o ollyngiadau o gerbydau. Nod astudiaeth wyddonol a wnaed gan James Slack, myfyriwr o Sir Durham, fel rhan o'i radd BSc mewn Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, oedd gweld a oedd hyn yn wir ai peidio.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2013
Archif y mis
Archif y mis: Castell Conwy a Phont Grog Telford Llun o Gastell Conwy a Phont Grog Telford, diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tynnwyd y llun cyn i'r bont ddiweddarach dros Afon Conwy gael ei hadeiladu yn 1958. Y bont honno a ddefnyddiwyd gan gerbydau ar yr A55 nes i Dwnnel Conwy gael ei adeiladu yn 1991. Dychmygwch y tagfeydd traffig fyddai yna heddiw pe bai hon yr unig bont dros yr afon o hyd!
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013
Beth yw ieithoedd dadleuol eu statws?
Rydym yn gyfarwydd â’r term ieithoedd lleiafrifol, yn wir mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol, ac yn cael ei chydnabod a’i chefnogi o’r herwydd, ac mae yna restrau o ieithoedd sydd mewn perygl, ond mae categori arall yn bodoli: sef ieithoedd dadleuol eu statws ( contested languages ). Ieithoedd yw’r rhain sydd yn ddigon wahanol yn ieithyddol i brif iaith y wlad lle maent yn cael eu siarad i gael eu dosbarthu fel iaith wahanol, ond nad ydynt wedi derbyn statws iaith swyddogol ac yn cael eu hystyried yn dafodieithoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013
Myfyrwyr o bedwar ban byd yn cymryd rhan yn y 4edd Ysgol Haf Flynyddol ar y Meddwl Greddfol ym Mhrifysgol Bangor
Ar gyfer yr Ysgol Haf ar y Meddwl Greddfol, a gynhaliwyd o 2 tan 6 Medi 2013 yn y Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, cafwyd mwy na 190 o ymgeiswyr â chymwysterau uchel am y 40 o leoedd a oedd ar gael. Erbyn hyn, mae’r Ysgol Haf yn ei 4edd flwyddyn, ac wedi profi’n boblogaidd ymysg ymchwilwyr ifainc, uchelgeisiol sy’n awyddus i gyfranogi yn yr arbenigedd o safon fyd-eang sydd gan Seicoleg ym Mangor ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2013
Cydnabod arloesedd yn y bio-economi
Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Bio-buro, BEACON, canolfan ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy, wedi ei chynnwys ar y rhestr fer Gwobrau RegioStarts y Comisiwn Ewropeaidd 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013
Defnyddio ein heulwen Gymreig
Yng Nghymru rydym yn cael 1,390 awr o heulwen bob blwyddyn ar gyfartaledd ac fe ellid troi'r heulwen honno'n drydan. Pe baem ond yn gallu dal cyfran fechan o'r heulwen a'i throi'n drydan, ni fyddem angen ffynhonnell arall i greu trydan i gyflawni ein holl anghenion ynni. Yr enw ar y dechnoleg hon yw photovoltaics, sy'n harneisio pelydrau'r haul a throi'r ynni'n drydan y gellir ei ddefnyddio'n lleol wedyn neu ei fwydo i'r grid cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013