Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mai 2014
Prifysgol Bangor yn ennill Safon Ryngwladol am Reolaeth Amgylcheddol
Yn dilyn archwiliad allanol trylwyr a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill ardystiad ISO 14001:2004 am ei hymrwymiad wrth welliannau parhaus ar yr amgylchedd . ISO 14001 yw’r safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer sefydliadau sy’n mynd ati’n unswydd i reoli’r effeithiau a gânt ar yr amgylchedd trwy System ffurfiol ar gyfer Rheoli’r Amgylchedd (S.Rh.A.). Mae’r wobr hon yn adeiladu ar ein hardystiad Draig Werdd sydd gennym er 2009.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2014
Prifysgol Bangor yn agor ei drysau i gymdogion a'r gymuned yn ystod Wythnos Prifysgolion
Yr wythnos nesaf, (9-15 Mehefin), bydd prifysgolion ledled Prydain yn agor eu drysau i'r cyhoedd a dangos yr effaith a'r dylanwad y mae ymchwil prifysgolion yn eu cael ar ein bywydau ni i gyd. Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn ymgyrch flynyddol Wythnos y Prifysgolion a threfnwyd gweithgareddau yn ystod yr wythnos i alluogi pobl i ddod i mewn i'r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2014
Brasil ym Mangor
Bydd sylw pawb wedi ei hoelio ar Frasil eleni yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd, ond ymddengys nad pêl-droed yw'r unig beth sy'n ennyn diddordeb pobl yn y wlad. Mae cerddoriaeth a dawns o Frasil wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y degawdau diwethaf, ac mae academydd o Fangor yn gwneud ymchwil i'r 'ffasiwn' am gerddoriaeth a dawns 'Affro-Frasilaidd'.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014
Ymchwilio i faterion allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg
Cychwynnodd prosiect ymchwil newydd a fydd yn ceisio canfod paham y mae plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu bod yn amharod defnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol. Yr ymchwilydd fydd y Dr Siôn Aled Owen o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014
Defnyddio uwch-gyfrifiaduron i fodelu senarios trychinebau
Bydd israddedigion o Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Bangor yn defnyddio uwch-gyfrifiaduron i weithredu rhaglenni a all ddarogan sut y gall afiechydon marwol ymledu, neu sut mae pobl yn debygol o ymateb mewn trychineb.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Partneriaid yn llofnodi cytundeb y Coleg ar y cyd cyntaf rhwng Cymru a Tsieina
Mae Prifysgol Bangor a'r Central South University of Forestry and Technology (CSUFT) yn Tsieina yn dathlu'r cynllun ar y cyd cyntaf rhwng Cymru a Tsiena i sefydlu Coleg newydd yn Tsieina. Cafwyd seremoni i lofnodi'r cytundeb ym Mhrifysgol Bangor ac yn bresennol roedd Mr David Jones, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Mr LI Guoqiang, Prif Ysgrifennydd Adran Addysg Llysgenhadaeth Tsieina ym Mhrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Cyfrol Angharad ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn
Mae cyfrol gan Uwch Ddarlithydd o Ysgol y Gymraeg wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Myfyrwyr Busnes yn mynd i'r afael â phroblemau gwastraff Bangor drwy Ymgyrch Swynwr Sbwriel Bangor
Mae myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor wedi cymryd rhan mewn datblygu ymgyrch diwedd tymor i leihau problemau gwastraff ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Mae Byddwch Fentrus yn cyhoeddi enillydd Gwobr Prifysgolion Santander - Rhagoriaeth mewn Menter.
Trwy Brifysgolion Santander, mae tîm Byddwch Fentrus yn falch o gyhoeddi bod myfyriwr israddedig Bl. 3 mewn Busnes a Rheolaeth, Bogdan Pop, wedi ennill gwobr o £1,000 am ei gyfranogiad mewn gweithgareddau menter ac arloesi trwy gydol ei amser ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014
Dathlu Cyflogadwyedd Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2014
Y Brifysgol yn dathlu Gwobrau Effaith Werdd 2014
Yn ddiweddar, dathlodd Prifysgol Bangor ei blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y Project Effaith Werdd, gan gynnal Seremoni Wobrwyo. Bu’r digwyddiad yn gydnabyddiaeth o waith caled y timau i wneud eu gweithleoedd yn fwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn, ac o gyfraniad cynyddol y staff at ‘wyrddio’ eu gweithleoedd wrth weithredu arferion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2014
Anrhydedd i ysgolhaig o Fangor am wasanaeth nodedig
Bydd Dr Carl Hughes o Ysgol Seicoleg y Brifysgol, sydd yn Gyfarwyddwr cyrsiau ôl-raddedig mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ac yn ddirprwy gyfarwyddwr y ganolfan newydd, Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn derbyn Gwobr Gwasanaeth Nodedig ym maes Dadansoddi Ymddygiad gan y gymdeithas Americanaidd, The Society for the Advancement of Behavior Analysis (SABA) yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014
Bangor yn uwch na Manceinion, Lerpwl a phrifysgolion eraill o ran profiad myfyrwyr
Rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 18fed allan o 111 o brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran profiad myfyrwyr mewn arolwg gan grŵp 'Times Higher Education'.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014
Prifysgol Bangor yn cynnig rhywbeth i bawb yn Eisteddfod yr Urdd - o gloddio archeolegol i arbrofion cemegol
Bydd plant a’u teuluoedd yn heidio i Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014 yn y Bala yn ystod gwyliau'r Sulgwyn (Llun 26 - Sadwrn 30 Mai).
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2014
Dathlu Llenyddiaeth Cymru a Tsieina
Daeth awduron, beirdd, cyfieithwyr, academyddion a chyhoeddwyr o Gymru a Tsieina ynghyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar i ddathlu cyfnewid a chydrannu llenyddiaeth rhwng y ddwy wlad, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Yan Ying o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor a Sioned Puw Rowlands o Gyfnewidfa Lên Cymru .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2014
Y Brifysgol yn agor gât y fferm yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, Abergwyngregyn
Oni fyddai’n syniad da pe bai modd inni dyfu ein tomatos ein hunain yn yr awyr agored? Ac a fyddai modd defnyddio peth o’r compost a gynhyrchir gan gynghorau er mwyn tyfu tatws? Dewch draw i weld sut y defnyddir cennin Pedr i drin Clefyd Alzheimer a dysgu pam nad yw gwenyn yn pigo bob tro. Dysgwch sut y mae gwyddonwyr a phobwyr yn gweithio ar y cyd i ddatblygu ‘bwyd swyddogaethol’ gan ddefnyddio rhywogaeth o haidd sy’n faethlon a blasus iawn. Cewch ateb i hwn ac i gwestiynau eraill yn ystod ymweliad â Chanolfan Ymchwil Amaethyddol y Brifysgol yn Henfaes, Abergwyngregyn, rhwng 2.00pm a 4.00pm ddydd Iau 12 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2014
Copïau hanesyddol yn mynd yn ddigidol: campwaith Chaucer yn mynd yn fyd-eang
Bangor University and the National Library of Wales, Aberystwyth, have collaborated on a project to bring one of the jewels of English literature, kept at the National Library, freely available to all. The Hengwrt copy of Geoffrey Chaucer’s Canterbury Tales, produced in London at the close of the fourteenth century and believed to be the earliest existing version of this work, is now fully digitised, and accessible by global users via the Library’s website.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014
Mr Gwilym Owen yn cael ei enwebu am wobr 'Darlithydd y Gyfraith y Flwyddyn'
Mae aelod staff arall o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei enwebu am wobr addysgu bwysig. Mae Gwilym Owen, Darlithydd yn y Gyfraith, wedi cael ei roi ar y rhestr fer am wobr 'Darlithydd y Gyfraith y Flwyddyn' yng Ngwobrau Hyfforddi a Recriwtio blynyddol LawCareers.Net. Datgelir yr enillydd mewn seremoni yn Llundain ddydd Iau, 22 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014
Bangor yn yr 20 uchaf ym Mhrydain am safon Profiad Myfyrwyr yno
Mae staff uwch Prifysgol Bangor wedi croesawu canlyniadau Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education, sy’n gosod y Brifysgol ymysg 20 prifysgol orau gwledydd Prydain o ran boddhad myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014
Gwobr bwysig i broject ymchwil o Brifysgol Bangor
Rhoddwyd gwobr bwysig i broject ymchwil, a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd dan y rhaglen FrameWork7, ac a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Bangor. Cafodd consortiwm ProMine, a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol (Yr Athro Barrie Johnson, a Dr. Barry Grail, Sabrina Hedrich a Catherine Kay), ei gyllido i gynhyrchu nwyddau newydd o adnoddau mwynau a deunyddiau gwastraff sydd i'w cael yn Ewrop. Fel rhan o hyn fe wnaeth tîm Bangor ddatblygu dulliau newydd o adfer metelau a syntheseiddio mwynau o ddyfroedd gwastraff, gan ddefnyddio rhywogaethau newydd o ficro-organebau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014
Gwobr Rhyngwladoli i Manuela
A dedicated member of staff from Bangor University’s International Education Centre received an award at an Internationalisation Awards ceremony recently.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2014
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2014
Cynhaliodd Undeb Myfyrwyr Bangor y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â Gwobrau'r Cynrychiolwyr Cwrs yn ddiweddar yn Neuadd PJ, a hynny am y drydedd flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2014
Bangor yn dathlu cae chwarae pob tywydd i fyfyrwyr a'r gymuned leol
Mae Prifysgol Bangor a Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor yn dathlu lansio project cae chwarae pob tywydd a fydd yn dod â myfyrwyr a'r gymuned leol ynghyd flwyddyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014
Dull gwell o fonitro dolffin afon Ganges yn cael ei ddatgelu gan fyfyrwraig Prifysgol Bangor
Mae astudiaeth newydd (7 Mai) yn dangos dull o wella’r modd y caiff dolffin afon Ganges – anifail mewn perygl – ei fonitro; mae’r anifail hwn yn un o bedair yn unig o rywogaethau morfilaidd dŵr croyw sy’n dal i oroesi ers i ddolffin Afon Yangtze ddiflannu yn 2007. Mae awdur yr ymchwil, Nadia Richman, yn wyddonydd yn y Gymdeithas Sŵolegol Frenhinol a hefyd yn fyfyrwraig PhD yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth o fewn Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014
Wythnos Busnes Gwynedd 2014 - Dathlu a hyrwyddo busnesau’r sir
Bydd Digwyddiad Brecwast Busnes yn y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor yn lansio Wythnos Busnes Gwynedd ddydd Llun, 19 Mai. Bydd y Lansio yn cynnig cyfle i rwydweithio a mwynhau araith gan Ieuan Wyn Jones ar y Parc Gwyddoniaeth Menai dros frecwast.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014
Myfyrwyr wedi'u dewis i gystadlu yng nghystadleuaeth TestTown y DU
Mae tîm o fyfyrwyr yn dathlu'r ar ôl cael eu dewis i gymryd rhan yn y gystadleuaeth TestTown 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014
Sefydlu Grŵp Seneddol Trawsbleidiol i astudio manteision dod ag ymwybyddiaeth ofalgar i bolisi cyhoeddus
Ddydd Mercher, 7 Mai, bydd Ruby Wax yn ymuno ag arbenigwyr a seneddwyr i lansio grŵp seneddol trawsbleidiol ar ymwybyddiaeth ofalgar yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2014
Mae Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cyrraedd terfynol yn Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru
Dewiswyd Dian Yu, sy'n chwarae'r Guzheng, y sither Tsieineaidd, gan banel o feirniaid rhyngwladol enwog i fod yn un o'r chwe chystadleuydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth Cerddoriaeth Byd yn yr Ŵyl Delynau Ryngwladol 2014 a gynhaliwyd yng Ngharenarfon yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2014
Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Meave Leakey
Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Meave Leakey, y palaeontolegydd byd-enwog a raddiodd gyda graddau BSc a PhD o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2014
Sam yn paratoi at gystadleuaeth quidditch yng Nghanada
Bydd myfyriwr o Fangor yn teithio i Ganada yn ystod yr haf er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth quidditch fyd-eang. Mae Sam Davies, sydd yn fyfyriwr Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o gamp sy’n gysylltiedig â nofelau a ffilmiau Harry Potter.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014
Her Dr Zigs i Menter drwy Ddylunio
Cafwyd penllanw Menter drwy Ddylunio 2014 yr wythnos ddiwethaf gyda thimau o fyfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid a chynulleidfa o wahoddedigion. Gosodwyd yr her - sef dylunio deunydd pecynnu newydd i'w teganau anghyffredin - gan Dr Zigs Extraordinary Bubbles, cwmni cynhyrchu teganau o Ogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014
Project Gardd y Ddwy Ddraig
Mae Gardd Tsieineaidd gyffrous newydd i’w datblygu yng Ngardd Fotaneg Treborth, fel rhan o’r project ehangach ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014
Myfyrwyr yn gwirfoddoli i fenter gymdeithasol cefn gwlad
Yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg, cynhaliodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ei ail ddigwyddiad gwirfoddoli preswyl ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor. Treuliodd 21 o fyfyrwyr Bangor wythnos yn gweithio yng nghanolfan Felin Uchaf ger Aberdaron ar Benrhyn Llŷn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014
Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014
Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi’u henwi’n enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014