Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2015
Astudiaeth newydd yn dangos bod llygredd golau o'r arfordir yn tarfu ar greaduriaid yn y môr
Gall golau artiffisial yn y nos newid ecosystemau morol, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Biology Letters . Mae'r canlyniadau'n dangos y gallai llygredd golau o gymunedau arfordirol, llongau ac adeileddau yn y môr newid cyfansoddiad cymunedau creaduriaid di-asgwrn-cefn yn y môr.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015
Cynhadledd - Boddi Mewn Celfyddyd
Wedi blynyddoedd o ddymchwel a phrotestio, yn 1965, daeth y dŵr i foddi Cwm Celyn, gan foddi diwylliant, hanes bro a thraddodiad yn ei sgil. Ond esgorodd dicter a thor calon y genedl nid yn unig ar ddeffroad gwleidyddol, ond hefyd deffroad celfyddydol wrth i genhedlaeth o Gymry ganfod dull o fynegi eu dirmyg trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, drama a chelf.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015
Arbenigwyr Rhyngwladol ym maes Caethiwed yn mynd i Brifysgol Bangor ar gyfer Cynhadledd
Rhwng 7 a 10 Mai, bydd arbenigwyr rhyngwladol ym maes caethiwed yn mynd i Brifysgol Bangor i gymryd rhan mewn cynhadledd Ewropeaidd ar ymddygiadau caethiwus, sydd i’w chynnal gan Ysgol Seicoleg y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2015
Prifysgol Bangor yn parhau i godi drwy dablau Cynghrair Prifysgolion
Adlewyrchir llwyddiant parhaus Prifysgol Bangor yn y tabl Cynghrair Prifysgolion diweddaraf i’w gyhoeddi heddiw gan The Complete University Guide 2016 . Mae The Complete University Guide yn gosod y Brifysgol yn drydydd ymysg prifysgolion Cymru, ac ymysg 60 prifysgol orau Prydain (58), ac mae’n un o ddwy brifysgol yn unig yng Nghymru sydd wedi gwella’i lleoliad ers y llynedd. Mae’r brifysgol hefyd yn ymddangos ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer pedwar pwnc penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015
Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Brydeinig
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr o bwys mewn digwyddiad yn Llundain yn ddiweddar, o ganlyniad i adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr. Derbyniodd y Brifysgol chwe enwebiad allan o naw categori yng Ngwobrau Dewis Myfyriwr Whatuni y DU, gan gynnwys un am Brifysgol y Flwyddyn. Llwyddodd i gipio’r Wobr ar gyfer y Clybiau a’r Cymdeithasau Gorau mewn unrhyw Brifysgol. Roedd staff yn y Brifysgol hefyd yn falch o ddod yn drydydd am Llety Myfyrwyr, yn bedwerydd yn y DU yn y categori cymorth i fyfyrwyr, ac yn seithfed yn y prif gategori am Brifysgol y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015
Gwobrau Arwain Cymru 2015
Mae cydlynydd academaidd prosiect Elevate yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, Sandra Begley, yn ennill 'tra gymeradwyaeth' yng nghategori 'Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol' Gwobrau Arwain Cymru 2015
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015
Ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd gan Brifysgol Bangor yn ennill gwobr Athena SWAN
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr efydd dan Siarter Athena SWAN ar gyfer Menywod mewn Gwyddoniaeth. Mae gwobrau Athena SWAN yn cydnabod ymroddiad a llwyddiant wrth ddatblygu arferion i gefnogi gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) yn y byd academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015
Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae pedwar aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cael ei ddewis ar gyfer Tîm Undeb Rygbi Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm Undeb Rygbi Myfyrwyr Cymru ar gyfer y tymor hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2015
Ap defnyddiol i bobol efo dementia
Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd i gefnogi datblygiad ac effeithiolrwydd ‘Book of You’, sef ap sy’n cael ei groesawu fel rhywbeth sydd â’r potensial i chwyldroi therapi atgofion yn achos pobol efo dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015
Myfyrwyr Bangor yn ennill gwobrau UCM Cymru
Mae’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan Undeb Myfyrwyr Bangor wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau UCM Cymru yn ddiweddar. Cyrhaeddodd yr Undeb y rhestr fer ar gyfer chwech allan o'r wyth categori, gan ennill pedwar o'r gwobrau a chadw'r teitl ''Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn” am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu buddugoliaeth Varsity 2015 dros Aberystwyth
Yn ddiweddar, daeth mwy na mil o fyfyrwyr Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth at ei gilydd yn stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Bangor i wylio'r gêm olaf yng nghyfres Varsity 2015. Daeth y cystadlu i ben gyda Llywydd Undeb Athletau Prifysgol Bangor, Nicola Pye, yn casglu’r tlws am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015
Cyn-fyfyriwr yn lansio gwasanaeth gwersylla clogwyn herfeiddiol
Does dim angen i chi wirioni â’r awyr agored i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae’r nodwedd benodol yma wedi galluogi cyn-fyfyriwr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth , i droi ei angerdd i mewn i fusnes unigryw llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015
Y Brenin Arthur yn dychwelyd i Gymru- ac mae'r diolch i Guy Ritchie
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Raluca Radulescu o’r Ysgol Llenyddiaeth saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015
Ymchwilwyr i dreillio 'ddeunydd tywyll microbaidd' ar gyfer adnoddau biotechnoleg newydd
Yn y wobr gyntaf i Brifysgol Bangor gan ffynhonnell cyllido ymchwil o bwys yr Undeb Ewropeaidd, Horizon 2020 Program , bydd Yr Athro Peter Golyshin yn arwain consortiwm rhyngwladol o fwy na 20 o bartneriaid o'r byd academaidd a diwydiant o 12 o wledydd. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaid diwydiannol rhyngwladol blaenllaw, a byddant yn gweithio ar broject cydweithredol pedair blynedd gwerth 6 miliwn Ewro. Bydd y project yn cloddio am, ac yn defnyddio, ensymau a metabolion sydd newydd eu darganfod, yn arbennig er mwyn cynhyrchu cemegau, technolegau glanhau'r amgylchedd a chyffuriau gwrth-ganser.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015
O ffilmio'r Gymdeithas Ddawns Myfyrwyr i weithio gyda Dr Who ....
Mae enillydd gwobr BAFTA sydd erbyn hyn yn rhedeg ei gwmni ffilm ei hun yn llawn canmoliaeth i Brifysgol Bangor am y gefnogaeth a'r anogaeth a gafodd wrth astudio yma. Mae Osian Williams, 22 oed o Bontypridd, eisoes yn gwneud enw iddo’i hun fel gwneuthurwr ffilm annibynnol, wedi iddo ennill gwobr BAFTA Cymru* wrth astudio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2015
Saving our scallops: Arran reserve reveals marine protection works
Dyma erthygl yn Saesneg ganLeigh Howart o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a Bryce Stewart o Brifysgol Efrog sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2015
Pobl ddwyieithog yn cymryd mwy o risg os rhoddir adborth iddynt yn eu mamiaith
Mae ymchwil diweddar ym Mhrifysgol Bangor yn dangos bod pobl ddwyieithog Tsieinëeg-Saesneg yn cymryd mwy o risg wrth gamblo os rhoddir adborth iddynt mewn Tsieinëeg yn hytrach na Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2015
Agenda newydd i adfywio a datblygu canol trefi yng Ngogledd Cymru
Ddydd Llun, 13 Ebrill, fe wnaeth Julian Dobson, arbenigwr cydnabyddedig mewn adfywio trefol, draddodi darlith gyhoeddus yn Adeilad Thoday i fyfyrwyr Datblygu Cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2015
Dathlu Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor
Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor bellach yn gartref i’r casgliad mwyaf o lyfrau’n ymwneud â llenyddiaeth Arthur yng Nghymru a gogledd Lloegr, yn dilyn cytundeb rhwng y Brifysgol a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint, sydd wedi rhoi eu casgliad Arthuraidd i’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2015
Myfyrwyr mwyaf bodlon Cymru i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Unwaith eto mae’r Brifysgol ar y brig yng Nghymru ac yn safle 14 ym Mhrydain mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2015
Cwmni cyfreithiol lleol yn dathlu ei flwyddyn gyntaf o weithredu
Mae dau gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu pen-blwydd cyntaf sefydlu eu cwmni cyfreithiol eu hunain y mis hwn. Mae Nelson Myatt Solicitors LLP , o Gyffordd Llandudno, yn delio â phob agwedd ar gyfraith sifil ac maent yn gwmni modern sy’n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er budd eu cleientiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015