Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2020
Athro Ysgrifennu Creadigol yn ennill Gwobr
Mae’r Athro a’r bardd, Zoë Skoulding, wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori Barddoniaeth Saesneg am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water . Mae Footnotes to Water yn dilyn hynt dwy afon anghofiedig, sef Afon Adda ym Mangor ac Afon Bièvre ym Mharis, yn ogystal â dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o’r cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020
Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddarlithydd o Fangor
Mae Ifan Morgan Jones wedi ennill Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2020 am ei nofel Babel . Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel, ac fe enillodd y gyntaf ohonynt, Igam Ogam , wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2018 ar bwnc y wasg Gymraeg yn y 19eg ganrif a’r ymchwil hwnnw oedd sail ei nofel Babel .
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2020
Cyhoeddi ymchwil canser yn Science Advances
Mae canser yn glefyd sydd wedi cyffwrdd â ni i gyd, ac er ein bod bellach yn gwybod llawer am sut mae canserau'n datblygu ac yn tyfu, mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd. Un o'r prif ffactorau yn natblygiad canser a’i ymwrthedd i driniaeth yw ansefydlogrwydd genomau. Yn ei hanfod, mae hyn yn cynnwys newidiadau cyson i DNA genomig celloedd, gan gynnwys newidiadau i lythrennau'r cod genynnol ynghyd â newidiadau mwy amlwg megis dileu cromosomau, neu hyd yn oed symud darnau mawr o DNA o un cromosom i'r llall. Mae gwaith Dr Chris Staples, sy’n Gymrawd Arweinydd y Dyfodol UKRI, yn labordy’r North West Cancer Research Institute (yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor) yn canolbwyntio ar sut mae celloedd fel arfer yn atal ansefydlogrwydd genomau o'r fath rhag digwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2020
Arbenigwr o Fangor yn cynghori ar fod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau
Mae'r gwersi a ddysgwyd o ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn tueddu i fynd o'r cof, ac mae cyllid iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau ymchwil yn newid. Dyna pam y galwyd ar arbenigwr o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ymuno ag adolygiad Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau o gyflwr presennol y dystiolaeth ar gyfer bod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus (PHEPR) yn yr Unol Daleithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2020
We discovered a new species, but war means it may now remain hidden forever
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Alec Moore o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020
Gwobr Ryngwladol i Athro
Mae Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, wedi derbyn Gwobr Ryngwladol Anrhydeddus 2020 Cymdeithasfa Cyfraith a Chymdeithas (LSA) “i gydnabod ei gyfraniadau arwyddocaol i helaethiad gwybodaeth ym maes cyfraith a chymdeithas.” Mae’r LSA wedi’i lleoli yn yr UD ond mae ganddi aelodau ar draws y byd, a hi yw’r gymdeithasfa ysgolheigaidd fwyaf blaengar yn ei maes.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020
Pobl ifanc o Lanelli'n cael eu canmol yn fawr am achub dyn o'r môr
Mae’r HEDDLU wedi canmol dewrder rhyfeddol Tom Williams, myfyriwr o Lanelli a rhuthrodd i'r môr i achub dyn.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020
Athro er Anrhydedd Prifysgol Bangor i arwain y gwaith ar addysgu hanes cyfoethog Cymru a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth
Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno. Mae'r Athro Williams yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a chyn Deon Cysylltiol ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT, Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2020
Gwobrwyo myfyrwyr am gefnogi eu cyfoedion
Mae dwy fyfyrwraig hŷn wedi eu gwobrwyo am gefnogi eu cyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae Jodie Jackman a Dinah Jennings ill dwy wedi bod yn weithgar ac yn effeithiol fel rhan o Gynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol, sydd yn galluogi myfyrwyr i gynorthwyo a chefnogi myfyrwyr sy’n newydd i’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2020
Mae cyfres newydd Netflix yn dangos agwedd arall ar ferched yn y chwedl Arthuraidd, meddai academydd ym Mhrifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf, bydd Netflix yn dechrau ffrydio ei ddrama ffantasi epig ddiweddaraf, Cursed, sy'n seiliedig ar y chwedl Arthuraidd ac yn canolbwyntio ar chwedl Merch Llyn y Fan Fach. Mae'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn esbonio pam mae'r cymeriad hynod a phwerus hwn yn y chwedl Arthuraidd yn parhau i apelio at bobl.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Grantiau ôl-radd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr o Gymru astudio graddau ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn cael eu trafod gan academyddion mewn seminar cyhoeddus
Mae uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn ddau bwnc ymysg y nifer fydd cael eu trafod gan academyddion o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Bangor mewn seminar cyhoeddus a gynhelir cyn hir.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2020
How animals are coping with the global ‘weirding’ of the Earth’s seasons
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Line Cordes, Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020
Gall symud i ffwrdd oddi wrth gadwyni cyflenwi byd-eang ar ôl Covid roi hwb i economi Gogledd Cymru
Gall ymateb yn erbyn globaleiddio yn sgil argyfwng Covid-19 roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus Gogledd Cymru gyda ffyniant mewn technolegau blaengar fel argraffu 3D yn rhoi hwb i'r adferiad, yn ôl arbenigwr. Mae darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones, yn rhagweld y bydd mwy o fusnesau a llywodraethau eisiau cael eu cyflenwadau yn agosach at adref wrth iddynt ddod allan o'r misoedd o gyfyngiadau symud digynsail.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020
Forest Research wins funding for collaborative research into oak tree health
Datganiad i'r Wasg gan gorff allanol Forest Research , nid yw ar gael yn y Gymraeg
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2020
Clybiau a Chymdeithasau Prifysgol Bangor yn dod yn ail yn y WhatUni.com Awards 2020
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn yr ail wobr yn y categori 'Cymdeithasau a Chwaraeon' yn y WhatUni Student Choice Awards 2020. Daeth y Brifysgol hefyd yn y pedwar uchaf yn y categori Rhoi yn Ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2020
Datrys dirgelion gyda Grantiau Ymchwil Leverhulme
Bydd tri grant i Brifysgol Bangor yn galluogi gwyddonwyr i ddatrys rhai o ddirgelion gwyddoniaeth a chofnodi un o ecosystemau mwyaf amrywiol y ddaear.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020
Effaith newid yn yr hinsawdd ar allu marmotiaid i oroesi yn gwahaniaethu rhwng tymhorau
Mae llawer o anifeiliaid wedi esblygu cylch bywyd a strategaethau (patrymau goroesi ac atgenhedlu) yn unol ag amrywiaeth a ragwelir rhwng y tymhorau mewn amodau amgylcheddol. Mae hafau byr a mwyn yn cynhyrchu cyfnodau toreithiog o lystyfiant a bwyd, sef yr amser perffaith i roi genedigaeth i'r ifanc. Mae gaeafau hir a garw pan fo bwyd yn brin wedi gwneud anifeiliaid i ddibynnu'n helaeth ar gadw braster wrth gefn i gael egni, ac mewn achosion eithafol, i aeafgysgu neu fudo. Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn newid yr amodau tymhorol hyn y mae llawer o rywogaethau wedi'u haddasu iddynt. Mae'r tymheredd yn codi, llai o eira yn y gaeaf, eira'n toddi ynghynt, hafau'n ymestyn, a digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach (e.e. sychder, llifogydd)
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020
Cyfri’r Cewri
Mae’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn adnabyddus am ei waith diweddar i boblogeiddio mathemateg ac mae ganddo lyfr newydd ar fin ei gyhoeddi. Mae Cyfri’n Cewri (Caerdydd, 2020) yn cyflwyno bywyd a gwaith dwsin o fathemategwyr blaenllaw, rhai ohonynt a aned yng Nghymru, ac eraill a gyflawnodd eu gwaith yng Nghymru. Prif neges y llyfr yw bod mathemateg yn rhan annatod o’n hanes a’n diwylliant.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020
Cydweithio ag arlunydd i gyflwyno Cymdeithaseg ar ffurf cofiadwy
Mae dau academydd o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â’r cartwnydd Huw Aaron er mwyn cyflwyno maes pwysig Cymdeithaseg ar ffurf hwyliog a chofiadwy yn y Gymraeg, gyda’r gobaith y bydd yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y maes.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020
Bangor a Phrifysgolion Santander yn cynnig cymorth drwy Lwfans Cynhaliaeth Mentergarwch yn ystod argyfwng COVID
Bangor University and Santander Universities are supporting student and graduates with their businesses and new ventures through the COVID-19 pandemic.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020
Gwaith ymchwilwyr Bangor yn dylanwadu ar adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ar ddiffygion democratiaeth ddigidol
Mae cyngor dau ymchwilydd o Brifysgol Bangor wedi dylanwadu ar argymhellion adroddiad i ddemocratiaeth a thechnolegau digidol gan un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020
Y gwaith yn dechrau ar system y Deyrnas Unedig o amcangyfrif achosion COVID-19 mewn dŵr gwastraff
Bydd y gwyddonwyr yn datblygu system safonol i'r Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer canfod coronafirws mewn dŵr gwastraff, er mwyn rhoi rhybudd cynnar o achosion yn y dyfodol a lleihau'r ddibyniaeth ar wneud profion costus ar boblogaethau mawr. Credir bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u heintio â SARS-CoV-2 - y firws sy'n achosi'r clefyd COVID-19 - yn pasio'r firws yn eu carthion, hyd yn oed os nad oes symptomau ganddynt, ac felly credir bod craffu ar garthion yn ffordd addawol o adnabod mannau problemus yr haint at y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2020
Tri o Brifysgol Bangor ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae creadigrwydd yn y gwynt ym Mangor wrth i ddwy o’n darlithwyr Ysgrifennu Creadigol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori llenyddiaeth Saesneg y gystadleuaeth. Mae Darlithydd newyddiaduraeth hefyd wedi ei gynnwys yng Nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn . Cyhoeddir y canlyniadau ar 1 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2020