Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ionawr 2019
Gwrthryfel Glyndŵr ar Radio 4
Bydd yr Athro Huw Pryce ymysg gwesteion rhaglen In Our Time , Radio 4 (31 Ionawr 2019 am 21:00), yn trafod hynt a helynt Owain Glyndŵr, y gŵr a fu’n ddylanwadol yn cynnau gwrthryfel yn erbyn Lloegr (1400-1412), a oresgynnodd amryw rannau o Gymru o a gafodd ei drechu gan Harri V. Cofiwch wrando!
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2019
Gwobr gyrfa cynnar o bwys yn cael ei ddyfarnu i fymyrwraig PhD
Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yw'r ferch gyntaf i ennill gwobr ryngwladol am ei gwaith rhagorol ym maes gwaddodeg môr. Enillodd Megan Baker WOBR YMCHWIL RICHARD W. FAAS yr International Association of Sedimentologists a gwobr ariannol o €2000. Dyfernir gwobr Faas bob dwy flynedd i ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa. Dyma hefyd y tro cyntaf i'r wobr hon gael ei rhoi i fyfyriwr PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2019
Estyn cymhellion ariannol i ddenu athrawon newydd
Mae staff yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael eu hymestyn i flwyddyn academaidd 2019-20. Nod y cymhellion, hyd at £20,000 y myfyriwr, yw denu'r graddedigion gorau i fod yn athrawon pynciau sy’n flaenoriaeth megis mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019
Ymchwil newydd yn dweud fod gwir gost gamblo'n cael ei danbrisio
Yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw nid yw'r ffocws presennol ar unigolion sy'n 'gamblwyr problemus' yn ystyried holl gostau gamblo ar iechyd a'r gymdeithas ac mae hynny'n diystyru'r effaith ehangach ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Gwaith a wnaed ar y cyd yw hwn gan Brifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heather Wardle Research a Phrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hefyd yn dangos bod cyfraddau gamblo problemus ar eu gwaethaf yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2019
Rhannu technolegau iaith y Gymraeg â gweddill y byd
Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2019. Dyma’r drydedd gynhadledd i’w chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr , sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019
Myfyriwr PhD Seicoleg yn dawnsio ei PhD mewn cystadleuaeth ryngwladol
Mae myfyriwr PhD Seicoleg ym Mrifysgol Bangor, Kohinoor Darda, wedi cofrestru ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol sy'n rhoi cyfle iddi egluro maes ymchwil ei PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019
Why people with anxiety and other mood disorders struggle to manage their emotions
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne Rowlands, Myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2019
Tiwtor ysbrydoledig o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr tiwtor cenedlaethol
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor sy’n atgoffa myfyrwyr i ffonio eu teuluoedd wedi ennill gwobr genedlaethol . Mae’r darlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, Siân Pierce, sy’n cael ei rhyfeddu’n barhaus gan bobl, wedi ennill Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! ar ôl gwylio miloedd o’i myfyrwyr yn graddio dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd. Mae’r gwobrau yn dathlu llwyddiannau tiwtoriaid a mentoriaid eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos brwdfrydedd ac ymroddiad neilltuol i annog, cefnogi ac addysgu oedolion eraill i anelu at nod a thrawsnewid eu bywydau, boed yn eu cymuned neu yn y gweithle.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2019
Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile
Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor. Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019
Prifysgol Bangor i gynnal yr ŵyl UniBrass gyntaf yng Nghymru
Cynhelir gŵyl UniBrass ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror 2019. Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ŵyl iddi gael ei chynnal yng Nghymru. Pencampwriaethau Bandiau Pres Prifysgolion Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon yw UniBrass ac mae'r ŵyl eleni'n cael ei threfnu gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Sefydliad UniBrass sef elusen a sefydlwyd i ddatblygu'r gystadleuaeth ac i annog myfyrwyr i barhau i chwarae mewn bandiau pres tra bônt yn y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2019
Exercise can fast-track your workplace well-being - here's how
Dyma erthygl yn Saesneg gan Myfyrwraig ymchwil PhD Rhi Willmot o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019
Dull gwell o adrodd am ymchwil a fydd yn gwella gofal cleifion
Gallai cleifion gael gofal a chanlyniadau gwell yn sgil canllawiau newydd ar adrodd am ymchwil a ddatblygwyd o astudiaeth a gyfrannodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ati. Mae arbenigwyr wedi datblygu dull sy'n hwyluso’r broses o adrodd am ganfyddiadau gwahanol astudiaethau ansoddol megis gwybodaeth a gasglwyd o gyfweliadau â chleifion a grwpiau ffocws. Mae'r astudiaeth wedi arwain at lunio’r canllawiau cyntaf wedi’u teilwra ar gyfer adrodd ar y fethodoleg hon, a elwir yn feta-ethnograffeg. Bydd yn rhoi mwy o hyder i ymchwilwyr a phenaethiaid gofal iechyd yng nghanfyddiadau astudiaethau ansoddol ac, yn y pen draw, yn helpu i wella gofal cleifion a gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019
How our unconscious visual biases change the way we perceive objects
Dyma erthygl yn Saesneg gan Beverley Pickard-Jones Ymchwilydd PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019
Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric , tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019
Investigating why oak trees are dying is helping scientists understand how infectious diseases work
Dyma erthygl yn Saesneg gan James Doonan o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2019
Why foraging for free is food for the soul
Dyma erthygl yn Saesneg gan Elisabeth S. Morris-Webb Ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation a r ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Diwrnod Fenwm Prifysgol Bangor yn denu rhai o brif arbenigwyr y maes
Fe wnaeth pobl o bob cwr o'r byd sy'n ymddiddori ym maes tocsinau deithio i Ogledd Cymru i ddigwyddiad blynyddol a drefnwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Ymunodd academyddion blaenllaw, arbenigwyr rhyngwladol a seren deledu â dros gant o bobl ar gyfer y gynhadledd Diwrnod Fenwm unigryw ym Mangor i drafod tocsicoleg a rhywogaethau gwenwynig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia
New ageing and dementia research at Bangor University will soon be underway, with a team from the Bangor Institute of Health and Medical Research in the School of Health Sciences being the only university in Wales to be awarded funding as part of the ESRC-NIHR Dementia Research Initiative 2018 . This programme of work, led by partners at University College London, centres around people living with rare dementias, and will involve the first major study of the value of support groups for people living with or caring for someone with a rare form of dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019
Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor
Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr. Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol. Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019
“Am wasanaeth wrth fynd i’r afael â thlodi tramor ac am wasanaeth i addysg yn Derby”
Mae Dr Daljit Singh Virk, Cymrawd Ymchwil Uwch gyda Phrifysgol Bangor wedi ei ddewis i dderbyn anrhydedd yr OBE. Mae’r anrhydedd yn cydnabod effaith cyfraniad gwyddonol Dr Virk fel genetegydd a bridiwr planhigion yn ogystal â’i gyfraniad blaenllaw wrth sefydlu Ysgol Gynradd Akaal yn Derby yn 2015, ysgol sy’n dilyn crefydd Sikh a sefydlwyd fel ysgol rydd o dan y Ddeddf Academïau. Mae Dr Virk wedi bod wrth wraidd un o brojectau Prifysgol Bangor sydd wedi cael yr effaith fwyaf ac sydd wedi cyfrannu at wella diogelwch bwyd a bywoliaeth miloedd o gartrefi mewn rhai o wledydd tlotaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2019
Archif y Mis – Ionawr 2019: George Hartley Bryan (1864-1928)
Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd ' Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes ' , llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle'r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2019
Lynette Roberts: Welsh poet who fused touch and sight into sound
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Zoë Skoulding o'r Ysgol Ieithioedd Llenyddiaethau ac Ieithyddiaet h sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2019