Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2018
Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion. Fe wnaeth addysgwyr , seicolegwyr , gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
Mae riffiau sy'n profi tymheredd amrywiol yn aml iawn yn fwy tebygol o wrthsefyll gwynnu cwrel
Wrth i wyddonwyr a chadwraethwyr frysio i weithio allan y ffordd orau i warchod riffiau cwrel y byd, mae astudiaeth newydd yn datgelu pam y mae'n ymddangos bod rhai riffiau yn gallu gwrthsefyll gwynnu i'r cwrel yn well yn ystod achosion o gynhesu'r môr, ac maent yn galw am gael casglu data cydraniad uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
How can we communicate all that nature does for us?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Julia P G Jones, sydd yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2018
Aur i godwyr pwysau Prifysgol Bangor
Bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prifysgolion a Cholegau Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol St Mary’s yn Twickenham yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019. Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Digwyddiad #ITSFORUS
Ymunwch â Myfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd a Source to Sea Productions i ddigwyddiad sy'n dathlu beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth amgylcheddol! Yn y digwyddiad #itsforus ceir stondinau, pethau i'w rhannu am ddim, gemau llawn hwyl a dangosiad cyntaf ffilm fer sy'n sôn am y ffordd y gellwch arbed arian a'r blaned!
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2018
Y bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i Fangor yn y Bencampwriaeth Ryng-golegol
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Bangor wedi ennill y Bencampwriaeth Ryng-golegol - twrnamaint chwaraeon blynyddol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth - gyda sgôr terfynol o 33-10 i Fangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2018
Cynhaliwyd y seithfed seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu’r safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018
Can a brain injury change who you are?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne Rowlands sydd yn fyfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Ysgol y Flwyddyn 2018!
Dymuna Ysgol y Gymraeg ddiolch o galon i’w holl fyfyrwyr a’i henwebodd yn y Gwobrau Dysgu dan Arweniad Myfyrwyr eleni. Yn y seremoni fawreddog a gynhaliwyd yn Neuadd Prichard Jones nos Wener ddiwethaf, enillodd Ysgol y Gymraeg gategori YSGOL Y FLWYDDYN 2018 .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Prif gadwyn coffi yn dangos diddordeb mewn caead cwpan wedi ei ailgylchu
Gyda 2.5 biliwn o gwpanau coffi ‘cymryd-allan’ yn cael eu defnyddio’n flynyddol ym Mhrydain, mae bron cynifer o gaeadau plastig yn cael eu taflu allan. Mae gwyddonwyr yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu plastig newydd y bydd yn bosib ei gompostio, ac a fydd yn gwrthsefyll hylifau poeth ac y gellir ei fowldio i greu’r caeadau cwpanau coffi.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Llwyddiant Gwobrau WhatUni i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ei dewis fel y gorau ym Mhrydain am ei Chlybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr ac am ei Llety Myfyrwyr yng ngwobrau blynyddol WhatUni.com Student Choice Awards . Hefyd, daeth y Brifysgol yn drydydd ym Mhrydain yn y categori Prifysgol y Flwyddyn ac yn ail am ei Chyrsiau a Darlithwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Cadwraeth trwy grefydd? Gwyddonwyr yn cadarnhau bod gan safleoedd naturiol cysegredig fantais o ran bioamrywiaeth
Mae safleoedd naturiol cysegredig i'w canfod ym mhob cwr o'r byd. Credir eu bod yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth ond tan yn ddiweddar ychydig o ymchwil systematig a gafwyd i'r honiad hwn. Ond yn awr mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Biological Conservation gan dîm rhyngwladol ac amlddisgyblaeth dan arweiniad Prifysgol Ioannina, ac yn cynnwys Prifysgol Bangor, wedi dangos bod gan safleoedd naturiol cysegredig fudd cadwraethol nodedig. Dewisodd ymchwilwyr y project, a elwir yn THALIS-SAGE, gynnal yr astudiaeth yn rhanbarth Epirus yng ngogledd orllewin gwlad Groeg, sy'n gartref i nifer o lwyni cysegredig a ddiogelwyd am ganrifoedd gan grefydd.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Pedwar Cymrawd Newydd yn Cael eu penodi o Brifysgol Bangor
Mae’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi pedwar Cymrawd ewydd o Brifysgol Bangor ymhlith y Cymrodyr newydd sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2018
Sut mae arbed arian er mwyn cynilo?
Mae’r llog y gallwn ni ei gael ar gyfrifon banc yn allweddol i’n gallu i gynilo, yn ôl yr arbenigwr ariannol, Dr Gwion Williams o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor. Yn 2017, llwyddodd teuluoedd yng ngwledydd Prydain ar gyfartaledd i gynilo dim ond 3% o’u hincwm misol, y raddfa isaf ers hanner canrif. Ar y cyfan, roedd un o bob pedwar teulu wedi llwyddo i gynilo dim ond £95.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2018
Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.
Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce , cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn. Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Yr awen yn ailgydio yn Harvard
Mae llawer o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ym Mangor wedi manteisio ar bartneriaid rhyngwladol y Brifysgol er mwyn cael cyfle i astudio dramor. Mae un o Athrawon yr Ysgol hefyd wedi dilyn eu hesiampl.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2018
Supercontinent formation may be linked to a cycle of supertides
Dyma erthygl yn Saesneg gan Mattias Green , o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd , a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
FfitCymru a Phrifysgol Bangor yn gwella iechyd a ffitrwydd y genedl
Bydd arbenigeddau Prifysgol Bangor i’w gweld ar S4C dros yr wythnosau nesaf wrth i raglen newydd ac arloesol, FfitCymru, gael ei darlledu. Bydd y rhaglen yn dilyn 5 aelod o’r cyhoedd wrth iddynt gyflwyno newidiadau sylweddol i’w bywydau er mwyn colli pwysau a datblygu eu ffitrwydd. Yn wahanol i’r rhelyw o raglenni tebyg a welwyd yn y gorffennol, bydd modd i wyliwyr y rhaglen ddewis yr aelod y maent hwy yn uniaethu gyda nhw fwyaf ac yna dilyn yr un rhaglenni ffitrwydd a defnyddio’r un ryseitiau ar gyfer bwytau’n iach er mwynt iddynt hwythau hefyd brofi’r un buddiannau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
New styles of strikes and protest are emerging in the UK
Dyma erthygl yn Saesneg gan Emma Sara Hughes myfyrwraig PhD yn Ysgol Busnes Bangor a'r Athro Tony Dundon o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
Llwyddiannau Myfyrwyr Bangor gyda Heriau LifeStart
Mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi llwyddo gyda heriau ‘ LifeStart Challenges ’ yn ddiweddar, gan ennill symiau sylweddol o arian a chyfleoedd i gael profiadau gwerthfawr. Mae Prifysgol Bangor University yn un o ddim ond 12 prifysgol sydd yn cymryd rhan yn LifeStart - safle gwe sydd wedi ei ddatblygu gan Virgin StartUp. Nod LifeStart yw bod o gymorth i fyfyrwyr ganfod eu harbenigeddau a llwyddo yn eu gyrfa ac yn ariannol a hynny drwy ddysgu mwy am sgiliau menter allweddol drwy gymryd rhan mewn heriau â gwobrau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
Macsen yn siarad mwy
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn mynd yn fwy clyfar bob dydd. Erbyn hyn mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddyfeisiau fel Alexa, Siri, a Google Now sy’n medru ateb cwestiynau ar lafar am y tywydd, newyddion a ffeithiau defnyddiol eraill. Maen nhw hyd yn oed yn medru ymateb i lais yn gofyn iddyn nhw gynnau’r golau, troi’r trydan ymlaen neu bethau tebyg. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae’r rhain yn gweithio, ond rydyn ni gam yn nes at gael system debyg yn Gymraeg gyda Macsen, sy’n ffrwyth gwaith ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ar y dechrau roedd Macsen yn medru ymateb i orchmynion syml yn unig, ond erbyn hyn mae hefyd yn medru ateb cwestiynau eraill, a mynd i’r erthyglau mwyaf poblogaidd yn y Wicipedia Cymraeg a chael hyd i wybodaeth ddefnyddiol yno. Mae’n ddarllen allan y paragraff cyntaf o erthygl, neu benawdau’r newyddion, gan ddefnyddio llais synthetig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
Myfyrwyr rhyngwladol yn troi’n wyrdd- Glanhau’r Traeth 2018
Bu tîm o 50 o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd yn glanhau’r traeth yng Nghricieth yn ddiweddar. Trefnwyd y fenter gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor ar y cyd efo Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, fel rhan o broject cynaliadwyedd y Swyddfa Ryngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018
AI like HAL 9000 can never exist because real emotions aren't programmable
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Sicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018
Medal Efydd i Tesni!
Mae Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, wedi ychwanegu medal Efydd at gyfanswm cyfredol Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia, drwy drechu Nicol David o Malaysia mewn gornest wefreiddiol ar yr Arfordir Aur.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018
Aelod o ‘Dîm Bangor’ yn ennill Medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad
Mae medal Aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad newydd gael ei hennill gan aelod o dîm Prifysgol Bangor yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae Gareth (Gaz) Evans yn aelod o staff y brifysgol yn gweithio yng Nghanolfan Brailsford . Mae newydd gipio’r fedal Aur wrth godi pwysau yn y categori 69 cilogram ar gyfer dynion, gan lwyddo i godi 299 kg.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2018
Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Iaith Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr genedlaethol am y defnydd gorau o’r Gymraeg ym maes Adnoddau Dynol. Cyflwynwyd y wobr, a noddwyd gan ymgyrch Dysgu Cymraeg Llywodraeth Cymru, fel rhan o Wobrau Adnoddau Dynol Cymru mewn noson fawreddog a drefnwyd gan Rwydwaith Adnoddau Dynol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2018
The English language is the world's Achilles heel
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaumne Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr e rthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2018
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Dr Ian Lucas, cyn aelod o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2018