Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Awst 2012
Cymru'n arwain y ffordd ym maes gwyddoniaeth goleuni
Cafodd project cyffrous newydd i Gymru gyfan ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’r project, CAMPUS ( CApability Matrix for Photonics Up Skilling neu Matrics Galluoedd Gwella Sgiliau Ffotoneg), dan arweiniad Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gydweithio efo cwmnïau o Gymru. Nod y project yw sicrhau bod ymchwil arbenigol ac offer datblygol, cyfleusterau a staff ar gael yn arbennig i gwmnïau ffotoneg yng Nghymru er mwyn sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2012
Her Ddringo yn Alasga i Fyfyrwyr Bangor
Efallai mai dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yw’r pâr ieuengaf erioed i ddringo’r Cassin Ridge ar Wyneb Deheuol mynydd Denali yn Alasga.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2012
Bangor yn croesawu arbenigwyr cyfreithiol o ar draws y byd ar gyfer Ysgol Haf blynyddol
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi croesawu gweithwyr a myfyrwyr cyfreithiol o ar draws y byd ar gyfer ei Ysgol Haf blynyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2012
Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg
Bydd Prynhawn Agored rhwng 2-5 Ddydd Sadwrn 8 Medi yn rhoi cyfle i’r cyhoedd canfod mwy am waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen. Mae archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn trydydd dymor o gloddio ar y safle rhwng 26 Awst -16 Medi 2012
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012
Cemeg yn gwobrwyo ei myfyrwyr gorau
Heddiw, gwobrwywyd myfyrwyr Blwyddyn 1 am eu gwaith caled pan gyflwynwyd Gwobrau Blwyddyn Un am Lwyddiant mewn Cemeg iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012
Datblygiadau Cyffroes yn yr Ysgol Cemeg
Mae Ysgol Cemeg Bangor yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill dau fid sylweddol iawn am gyllid yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012
Gweithdy ‘MATLAB ar gyfer Seicoleg Arbrofol’ yn Profi’n Boblogaidd Iawn
Ar 26 a 27 Gorffennaf, cynhaliodd yr Ysgol Seicoleg weithdy deuddydd ar ‘MATLAB ar gyfer Seicoleg Arbrofol’. Gyda dim ond 18 o leoedd ar gael, mynegodd mwy na 150 o fyfyrwyr o wahanol rannau o’r DU ddiddordeb.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2012
Eisiau bod yn athro? Grantiau hyfforddi hyd at £15,000 ar gael!
Grantiau hyfforddi ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Myfyriwr BA Celfyddyd Gain yn ennill gwobr 1af yn y blog Degrees Unlimited
Mae Rob Stephen wedi ennill y wobr gyntaf yn yr adran blog Degrees Unlimited.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Ffilm Y Wladfa Newydd: Sioe BA Celfyddyd Gain
Mae ffilm byr codi proffil o BA Celfyddyd Gain rhan-amser.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Myfyriwr Celfyddyd Gain yn mynd ar gyfnewid rhyngwladol i Awstralia
Mae myfyriwr celfyddyd gain, Llewelyn Buckingham, wedi cael ei ddewis yn un o’r myfyrwyr i astudio dramor yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf dan y rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Gwneud Gwahaniaeth i Fywydau Plant
Yn ystod Pasg 2012, bydd tîm o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Astudiaethau Plentyndod yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor yn bwrw 10 niwrnod yn Oradea, Rwmania, mewn partneriaeth ag elusen Rwmanaidd, People2People.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2012
Llefydd ar gael trwy'r System Glirio
Os ydych yn chwilio am gwrs ar gyfer mis Medi, mae rhai llefydd ar gael drwy ein system Glirio.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2012
Myfyrwyr o Fangor yn perfformio yng ngwyl Fringe Caeredin
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn cael y cyfle anhygoel o berfformio yn yr ŵyl gelfyddydau fwyaf yn y byd y mis hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2012
Priodwch ym Mhrifysgol Bangor
Bydd un o adeiladau mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru’n agor ei ddrysau'r hydref hwn i groesawu parau sy’n ystyried priodi mewn lle arbennig ac unigryw. Mae gan Brifysgol Bangor nawr drwydded lawn i gynnal priodasau, sy’n golygu y gellwch gael eich seremoni sifil a’ch neithior ar y safle. Gobaith y Brifysgol yw y bydd ei Ffair Briodasau gyntaf ar Dydd Sul, Medi 2il yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld beth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2012
Her Beicio o Flaenafon i Fangor i Ddau o’r Cymoedd
Mae dau gyfaill o ardal Pont-y-pŵl yn paratoi at daith feicio sylweddol a chaled o 450 milltir er budd Ymchwil Canser Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2012
Awduron Cyfoes yn Ysgol y Gymraeg
Ar ddydd Mercher, Ionawr 25, daeth dau awdur cyfoes - un o Gymru a’r llall o Slofenia - i drafod eu gwaith gyda myfyrwyr Ysgol y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Academydd o Fangor i deithio i Wlad Pwyl
Bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Athro Cymraeg yn ymweld ag Ohio i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago
Gwahoddwyd yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan mewn cyfres bwysig o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Daleithiol Ohio er mwyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago ym 1611.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Medal Ddrama i Llŷr
Llongyfarchiadau i Llŷr Titus Hughes o Ysgol y Gymraeg ar ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Gwobr Llyfrau i Athro Nancy Edwards
Mae Athro Archeoleg Oesoedd Canol, wedi ennill Gwobr G. T. Clarke gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Llyfr y Flwyddyn 2011
Mae nofelau gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Ysgoloriaeth ar gyfer barddoni
Mae uwch-ddarlithydd o Fangor wedi derbyn Ysgoloriaeth i gael cwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Ethol Athro yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Y mae Huw Pryce, Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn Etholiad Agoriadol y Gymdeithas o gymrodyr newydd yn 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Cyhoeddi Swyddi Darlithio Cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi dau benodiad allweddol yn yr Ysgol Cerddoriaeth o dan nawdd cynllun staffio academaidd y Coleg. Y rhain yw’r penodiadau cyntaf a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
Staff o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ar rhaglen BBC Radio Wales Science Cafe
Bydd y rhaglen Science Cafe ar BBC Radio Wales yn cynnwys gwaith ymchwilwyr hinsawdd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion mewn rhaglen hanner awr gaiff ei darlledu ddydd Mawrth nesaf (14 Awst) am 7pm.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2012
Cyswllt Partneriaethau Datblygu mewn Addysgu Uwch (Cyngor Prydeinig) yn cyfrannu at Amaethgoedwigaeth yn Ethiopia
Mae Dr Zebene Asfaw, uwch ddarlithydd mewn Amaethgoedwigaeth yng Ngholeg Coedwigaeth ac Adnoddau Naturiol Wondo Genet , Prifysgol Hawassa, Ethiopia, wedi dychwelyd i Brifysgol Bangor ar ôl 22 mlynedd i gwrdd â staff a myfyrwyr presennol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) ar ddiwedd project ar y cyd tair blynedd rhwng y ddau sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2012
Penodiad NICE
Yn ddiweddar penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Weithredu’r National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2012
Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn lansio cwmni ar y cyd
Heddiw, ddydd Mercher 8 Awst 2012, lansiodd Cynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor gwmni ymgynghori ar y cyd yn stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2012
Sut mae gwres yn helpu i drin canser
Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi dynodi switsh mewn celloedd a all helpu i ladd tiwmorau gyda gwres. Gellir trin canser y brostad a thiwmorau lleol eraill yn effeithiol trwy gyfuno gwres a chyffur gwrth-ganser sy’n niweidio’r genynnau. Y tu ôl i’r therapi newydd hwn mae’r gallu anhygoel sydd gan wres i ddiffodd y mecanweithiau goroesi hanfodol sydd mewn celloedd dynol. Er bod thermotherapi yn cael ei ddefnyddio’n fwy helaeth erbyn hyn, nid yw'r egwyddorion sy'n sail i hyn yn eglur.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2012
Rhifyn 2012 Cylchgrawn Ysgol y Gyfraith Bangor nawr ar gael arlein
Mae rhifyn 2012 o gylchgrawn Ysgol y Gyfraith Bangor nawr ar-lein, yn llawn o’r newyddion mwyaf o sesiwn 2011-2012.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2012
Darlithydd yn ennill comisiwn
Mae Jo Wright wedi ennill comisiwn i wneud fideo newydd ar gyfer gŵyl Blinc i'r celfyddydau digidol, yng Nghonwy : http://blincdigital.com/
Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2012
Cystadleuaeth Pwy ’di Pwy? Cyfle i ennill Ipod.
A ydych chi’n gallu adnabod lluniau rhai o’r artistiaid a fu’n perfformio yn Noson Pinaclau Pop 1968? Yna dewch draw i stondin Prifysgol Bangor yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfle i ennill Ipod.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Lansio Llyfryddiaeth Llafar Gwlad
Fel rhan o broject y cynllun Mynediad i Radd Meistr mewn partneriaeth rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Gwasg Carreg Gwalch, lluniodd Siôn Pennant Tomos lyfryddiaeth Llafar Gwlad - cylchgrawn chwarterol sy’n rhoi sylw i lên gwerin, crefftau, cymeriadau, iaith lafar a hiwmor gwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2012
Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur arall eto eleni. Mae staff y Brifysgol wedi darparu wythnos o weithgareddau ar y stondin sy’n adlewyrchu’r gweithgaredd, yr ymchwil a’r dysgu cyfrwng Gymraeg sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Tecstio yn y Gymraeg
Mae anfon negeseuon ysgrifenedig drwy ffonau symudol a chyfrifiaduron yn ddull poblogaidd iawn o gyfathrebu, ar ffurf neges destun, Twitter neu Facebook.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Cylchgrawn BARN yn 50 oed
Mae’r cylchgrawn Barn, sy’n cynnig ymateb annibynnol a deallus i holl gyffro’r Gymru gyfoes a gweddill y byd, yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, cynhelir derbyniad ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, 7 Awst am 3.30, i lansio rhifyn dwbl yr Haf.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn ennill gwobr Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd
Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yw enillydd cystadleuaeth a drefnwyd gan y Project Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Cyfle i ddysgu mwy am ymchwil newydd am yr awdures Kate Roberts
Visitors to the Bangor University stall at the National Eisteddfod will have the opportunity to learn more about the work and life of Wales’ “queen of literature” this year. Bydd cyfle i ymwelwyr â stondin Prifysgol Bangor ddysgu mwy am waith a hanes bywyd "brenhines llenyddiaeth Cymru" yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Mae Pawb yn Cyfrif
‘Mae Pawb yn Cyfrif' yw honiad yr Athro Emeritws Gareth Roberts wrth iddo lansio llyfr gyda'r teitl hwnnw. Mae'n llyfr at ddant pawb - rhai sy'n caru mathemateg yn ogystal â rhai sy'n ei chasáu!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor yn Addunedu i Gael Gwared â Homoffobia a Thrawsffobia Mewn Chwaraeon, ar y Cyd.
Gyda balchder, mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor wedi datgan ymrwymiad i herio gwahaniaethu ac ymladd yn erbyn camdriniaeth homoffobig a thrawsffobig wrth arwyddo siarter a lansiwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2012