Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2019
Eog llai atyniadol
Mae ymchwil newydd yn dangos bod eogiaid a ffermir yn llai atyniadol i'r fenyw nag eogiaid gwyllt. Y rheswm am hyn yw bod y bachau sydd o dan eu gên neu 'kype', sy'n nodwedd rywiol eilaidd, yn llai. Gellir cymharu'r nodwedd hon â chyrn carw. Mae'r canfyddiad newydd hwn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddoniaeth Royal Society Open Science a adolygir gan gymheiriaid, yn awgrymu bod eogiaid a fegir ar fferm yn llai deniadol yn rhywiol na'u brodyr gwyllt. Er mai dim ond ers y 1970au y maent wedi cael eu magu mewn caethiwed, maent eisoes yn gwyro oddi wrth yr eog gwyllt o fewn dim ond 12 cenhedlaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2019
Y cyfle olaf i fioamrywiaeth Madagascar
Mae gwyddonwyr o bedwar ban byd wedi dod ynghyd i nodi'r camau pwysicaf sydd eu hangen ar lywodraeth newydd Madagascar rhag colli rhywogaethau a chynefinoedd unwaith ac am byth. Ym mis Ionawr, dechreuodd Andag Rajoelina, arlywydd newydd Madagascar, ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd. Mae grŵp o wyddonwyr o Fadagascar, y Deyrnas Unedig, Awstralia, Unol Daleithiau America a'r Ffindir wedi cyhoeddi papur sy'n tynnu sylw at y camau gweithredu y mae angen i'r llywodraeth newydd eu cymryd i wrthdroi dirywiad dybryd bioamrywiaeth a helpu rhoi Madagascar ar drywydd datblygu cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019
Dioddefodd mwy nag wyth o bob deg dyn yn y carchar drallod yn ystod plentyndod – adroddiad newydd
Trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â mwy o amser yn y carchar, troseddu treisgar a hanes o amser mewn sefydliadau troseddwyr ifanc Mae carcharorion gwrywaidd yn llawer mwy tebygol na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod plentyndod fel camarfer plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) atal troseddu a lleihau costau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2019
Gwobr Clybiau a Chymdeithasau Gorau i Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd Prifysgol Bangor fel y gorau yn y DU ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUn eleni. Roedd y Brifysgol hefyd yn drydydd yn y DU yn y categori Llety ac yn drydydd yn y DU ar gyfer y Wobr Ryngwladol. Mae'r anrhydedd diweddaraf yn gymeradwyaeth bellach i le myfyrwyr yng nghalon profiadau allgyrsiol y Brifysgol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr, gan roi cyfleoedd iddynt ddatblygu ystod o sgiliau. Mae hefyd yn creu cymunedau a chyfleoedd i rwydweithio.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2019
Ligue 1: France gets its first female top flight football referee, but the federation scores an own goal
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Irvine, o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2019
How did the moon end up where it is?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Mattias Green o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a David Waltham o Brifysgol Royal Holloway sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2019
Arbenigeddau Bangor yn rhoi llawenydd y llais yn ôl i John
Mae arbenigeddau arloesol ym Mhrifysgol Bangor wedi golygu fod gŵr a gollodd y defnydd o’i lais yn dilyn triniaethau canser ddwy flynedd yn ôl, bellach yn gallu cyfathrebu yn ei lais synthetig ei hun. Yn ail bennod cyfres DRYCH ar S4C nos Sul, 28 Ebrill, ceir hanes cyn-aelod staff y Brifysgol, John Wyn Jones, o Fiwmares, ac ymdrechion’r Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr , Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor, i greu llais synthetig ar ei gyfer.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019
Diogelu ein hadnoddau naturiol - sut y mae’r rhai sy’n gyfrifol yn penderfynu?
Mae gweithgareddau dynol yn fygythiad cynyddol i’r elfennau hynny yr ydym yn dibynnu arnynt am ein goroesiad, o ddŵr glân o goedwigoedd, at sicrhau goroesiad y pryfaid sy’n peillio ein cnydau. Mae gwyddonwyr yn galw’r agweddau naturiol yr ydym yn ddibynnol arnynt yn ‘wasanaethau’r ecosystem’ am mae nifer gynyddol o lywodraethau yn symud eu polisïau amgylcheddol i gymryd y gwasanaethau ecosystem hanfodol hyn i ystyriaeth. Mae gwyddonwyr yn rhuthro i greu modelau sydd yn medru rhagweld argaeledd y gwasanaethau hyn, sydd weithiau’n bethau mor elfennol â dŵr, neu dir ar gyfer pori anifeiliaid neu dyfu cnydau, a’r galw amdanynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2019
DNA analysis finds that type of grass pollen, not total count, could be important for allergy sufferers
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Simon Creer a Dr Georgina Brennan o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol neu ein datganiad Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019
Grant gan Academi Frenhinol ar gyfer y ‘Photo-Electric Light Orchestra’
Mae project arloesol gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Chanolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol wedi sicrhau grant gwerth £30,000 gan y Royal Academy of Engineering fel rhan raglen 'Ingenious' yr Academi - rhaglen sy'n mynd ati i ymgysylltu'r cyhoedd gyda pheirianneg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019
Ystlumod yn defnyddio'r machlud i fudo
Gallai ystlumod sy'n pwyso dim mwy na 6 gram, sy'n mudo dros fil o filltiroedd o'r Baltig i Brydain, fod yn allweddol i ddatgelu sut mae mamaliaid sy'n mudo yn dod o hyd i'w ffordd. Rydym yn gwybod mwy am sut mae adar ac ymlusgiaid a physgod yn dod o hyd i'w ffordd nag ydym am famaliaid fel morfilod neu gnwod, ond caiff un rhan o'r cwestiwn ei ateb yn rhifyn diweddaraf Current Biology.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2019
SYMUD - Rhoi Ymchwil ar Waith
Bellach gall cleifion hemodialysis wneud mwy o ymarfer corff wrth dderbyn triniaeth i achub bywyd, diolch i wefan newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ymarfer corff. Mae'r Ffisiolegwyr Ymarfer, Dr Jennifer Cooney a Dr Jamie Macdonald o Ganolfan PAWB Prifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi eu hymchwil ar waith drwy greu SYMUD, gwefan ac adnoddau sy'n helpu pobl sydd â chlefyd yr arennau deimlo'n well trwy symud mwy, er eu bod yn gorfod treulio llawer iawn o amser ar eu heistedd tra maent yn derbyn triniaeth hanfodol i achub bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019
Cyngerdd sy’n dangos cysylltiad Prifysgol Bangor gyda’r Dwyrain a gwaith arbennig perfformwyr a chyfansoddwyr
Bydd cyngerdd yn Stiwdio Pontio nos Iau yma, 11 Ebrill 7.30pm yn dod â dau ddiwylliant gwahanol at ei gilydd gan ddangos cyfoeth y dalent sydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019
Bangor yn paratoi at gyfres olaf Game of Thrones
Mae dilynwyr selog Game of Thrones yn aros yn eiddgar i wylio'r 8fed gyfres ym mis Ebrill, ond mae academyddion Prifysgol Bangor yn edrych ar y nofelau a'u dylanwad ar y gyfres deledu.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019
Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019
Adnabod y paill sy’n cosi’r trwyn
Mae’n bosib fod gwyddonwyr gam yn nes at gynnig rhagolygon paill mwy manwl gywir i’r bobl hynny sy’n dioddef o asthma neu glwy’r gwair - tua 25% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Dyma’r canlyniadau cyntaf i ddeillio o broject mawr tair blynedd i ddadansoddi paill glaswellt yn yr aer. Mae canlyniadau’r flwyddyn gyntaf, a gyhoeddir yn Nature Ecology & Evolution , wedi dangos nad ‘llwyth’ y paill gwair yn yr aer un unig all fod yn gyfrifol am y ‘dyddiau drwg’ hynny i ddioddefwyr asthma a chlwy’r gwair. Gallai’r dyddiau hynny pan fo pobl yn dioddef mwy o byliau asthma neu glwy’r gwair mwy dwys fod yn gysylltiedig â rhyddhau paill o rywogaethau glaswellt penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019
Our Planet is billed as an Attenborough documentary with a difference but it shies away from uncomfortable truths
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Julia Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019
Cymrawd Academi y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae gan Brifysgol Bangor ei hail Gymrawd erioed o Academi y Gwyddorau Cymdeithasol gyda Chymrodoriaeth i Howard Davis, Athro Theori a Sefydliadau Cymdeithasol yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019
Lleihau Llygredd Plastig
Wrth i’r gyfres ddogfen am fywyd natur Our Planet , sy’n cael ei lleisio gan David Attenborough, ei darlledu ar Netflix yr wythnos hon, mae’r fyfyrwraig Bioleg Môr o Brifysgol Bangor, Thea Moule yn rhannu ei phrofiadau am lygredd plastig.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019
Tywysog Cymru yn tynnu sylw at enghraifft wych o'r arfer gorau mewn rheoli cynaliadwy yn y gwaith o ehangu ardaloedd morol gwarchodedig Ynysoedd y Cayman
Mae Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â'r Nature Conservancy wedi cynorthwyo Adran yr Amgylchedd i ehangu system parciau morol Ynysoedd y Cayman, sef Tiriogaeth Dramor Brydeinig yn y Caribî, drwy brojectau a ariennir gan Fenter Dawrin, DEFRA*. Cafodd y gwaith o ehangu parciau morol presennol Ynysoedd y Cayman ei gymeradwyo gan y Cabinet a'i gyhoeddi yn ystod ymweliad Tywysog Cymru ar 28 Mawrth. Nododd Gweinidog yr Amgylchedd y byddai'r " Ehangu hwn yn diogelu ein stociau morol lleol, yn ogystal â’r rhwydwaith hollbwysig y riffiau cwrel sy'n amgylchynu ein hynysoedd, a hynny am genedlaethau."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019
Bangor yn cael effaith
Mae tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi yn mesur yr effaith go iawn ar gymdeithas gan Brifysgolion y tu allan i'w hymchwil a'u haddysgu. Mae canlyniadau Cynghrair Effaith Prifysgol yn datgelu rhestr newydd sbon o sefydliadau, ac yn gosod Prifysgol Bangor ymhlith y 200 o sefydliadau sy'n perfformio orau yn y byd. Mae 23 o brifysgolion eraill y DU yn ymuno â Phrifysgol Bangor ymhlith y 200 uchaf, gyda Bangor yn yr unig Brifysgol o Gymru i’w chynnwys.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019
Penodi Dr Hayley Roberts yn Gomisiynydd Brenhinol
Pleser o'r mwyaf gan Ysgol y Gyfraith Bangor yw cyhoeddi bod Dr Hayley Roberts wedi'i phenodi'n Gomisiynydd Brenhinol i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Penodir comisiynwyr gan Y Frenhines, ar gyngor Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, o dan Warant Frenhinol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019
Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dŵr croyw yn y newyddion
Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol. Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019
Food banks are becoming institutionalised in the UK
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Dave Beck o’r Ysgol Hanes. Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2019
Ceisio datrys un o'r dirgelion mawr am y lleuad
Mae Dr Mattias Green o Brifysgol Bangor, ar y cyd ag ymchwilwyr o Royal Holloway, Prifysgol Llundain, wedi ennill grant ymchwil gwerth £520K gan yr UK Natural Environment Research Council (NERC) i fynd i'r afael â chwestiwn pwysig wrth ddeall hanes y lleuad.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2019
Gall y celfyddydau wella'r berthynas rhwng staff gofal dementia a phreswylwyr cartrefi gofal
Dangoswyd bod y celfyddydau yn cadarnhau sgiliau a hyder staff gofal dementia, gan alluogi cyfnewid ystyrlon gyda phreswylwyr a all fod yn greadigol, 'yn y foment', yn ddigymell ac yn fyrfyfyr. Arweiniodd partneriaeth rhwng Canolfan Ymchwil DSDC Cymru Prifysgol Bangor (y grŵp ymchwil o Heneiddio a Dementia @ Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ), Dementia Positive , Ymgynghoriaeth TenFiveTen a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint at sefydlu project ymchwil 18 mis a ddatblygodd a rhoi prawf ar Sgyrsiau Creadigol, rhaglen datblygu staff wedi'i seilio ar y celfyddydau ar gyfer gweithlu gofal dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2019