Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2017
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi at her LifeStart
Mae Prifysgol Bangor yn un o 12 prifysgol yn y DU i gymryd rhan yn LifeStart - platfform her newydd a ddatblygwyd gan Virgin Money a Virgin StartUp. Nod LifeStart yw helpu myfyrwyr i sicrhau llwyddiant gyrfaol trwy eu helpu i ddysgu sgiliau menter ac ariannol, trwy gymryd rhan mewn heriau a chael cyfle i ennill gwobrau ar y ffordd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2017
Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen
Mae Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn un o awduron adroddiad ar y weledigaeth dros amaeth yng Nghymru, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (27 Tachwedd 2017). Mae’r adroddiad, Amaeth Cymru, Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen wedi ei lunio gan grŵp sy’n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys undebau ffermwyr, cyrff ardollau, llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr diwydiant.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2017
Taith astudio i galon yr Undeb Ewropeaidd
Ymwelodd myfyrwyr o Ysgolion Busnes a Chyfraith Prifysgol Bangor â rhai o sefydliadau allweddol yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop ym Mrwsel (Gwlad Belg), Lwcsembwrg a Strasbwrg (Ffrainc) yr wythnos diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2017
Exercise alone does not lead to weight loss in women – in the medium term
Dyma erthygl yn Saesneg gan Hans-Peter Kubis o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons . Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017
Archwilio economeg technoleg arbed golwg
Mae dros ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn colli eu golwg. Bydd hyn yn dyblu i bron bedair miliwn erbyn 2050 wrth i'r boblogaeth heneiddio ac i achosion sylfaenol megis gordewdra a diabetes gynyddu. Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau gofal llygad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae dau ymchwilydd o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion, Seow Tien Yeo a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, yn gyd-ymchwilwyr ar yr astudiaeth tomograffeg cydlynedd optegol a gyllidir gan raglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi NIHR-i4i (£1.3 miliwn).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017
Anrhydeddu cynllun mentora ieithoedd mewn ysgolion
A unique mentoring scheme, designed to encourage language learning amongst young people in Wales, has been awarded the prestigious Threlford Cup by the Chartered Institute of Linguists (CIOL). The Modern Foreign Languages (MFL) Mentoring Scheme , which is led by Cardiff University’s School of Modern Languages, is funded by Welsh Government as part of its Global Futures plan which aims to improve and promote the take up of modern foreign languages in schools. In partnership with Swansea, Bangor and Aberystwyth Universities, the project undertakes a nationwide approach to increasing inter-cultural understanding and promoting language learning at key stages.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
AS Cymru yn trafod ‘Brexit Prydain’ gyda myfyrwyr y Gyfraith
Bu Mr Hywel Williams, AS dros Etholaeth Arfon, yn ymweld ag Ysgol y Gyfraith Bangor yn ddiweddar fel rhan o Wythnos Senedd y DU i gyflwyno darlith gwadd, 'Rôl AS Cymru yn Brexit Prydain'.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
Dechrau da i Barc Gwyddoniaeth Menai
Mae tenantiaid cyntaf y Parc Gwyddoniaeth gwerth £20m ar Ynys Môn wedi cael eu henwi, gydag amrediad eang o fusnesau a phrosiectau sy'n amrywio o fusnesau newydd i Fusnesau Bach a Chanolig mawr, bob un ohonynt yn awyddus i arloesi a thyfu. Ar hyn o bryd mae 11 o gwmnïau’n barod i symud i mewn i Barc Gwyddoniaeth Menai ( M-SParc ), sef is-gwmni sydd o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor, pan fydd y Parc yn agor ei ddrysau yn gynnar yn 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
Different types of alcohol elicit different emotional responses
Nid yw'r datganiad i'r wasg gan BMJ OPEN ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
‘Can the UN trump Trump?’: Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig y Deyrnas Unedig (UNA-UK) yn rhoi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor
Yng nghyd-destun byd sy'n gynyddol hollti'n garfanau gelyniaethus, ydi'r Cenhedloedd Unedig yn fwy neu'n llai pwysig? Pa mor hanfodol yw amlochroldeb wrth wynebu materion cyfoes byd-eang? Mewn darlith gyhoeddus ddadlennol, gaiff ei thraddodi ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, bydd yr Arglwydd Wood, Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (y Deyrnas Unedig), yn trafod perthnasedd y Cenhedloedd Unedig ar adeg pan fo'r sefydliad yn cael ei ddilorni a'i gamddeall yn gynyddol. Teitl y ddarlith yw 'Can the UN trump Trump?', ac i ddilyn ceir sesiwn holi ac ateb. Cyflwynir y siaradwr gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
Bangor yn cynnal yr ail gystadleuaeth flynyddol ar ysgrifennu ffuglen ddigidol 'boblogaidd'
Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn cael ei chynnal am yr eildro trwy bartneriaeth â Phrifysgol Bangor a'r cyhoeddwr lleol Wonderbox. Mae'r Gystadleuaeth Ymestyn Ysgrifennu Ffuglen Ddigidol, a gynhelir gan Brifysgol Bangor a Wonderbox Publishing, yn cael ei hariannu gan Wobr Cyflymu Effaith yr ESRC ym Mangor. Gwahoddir ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r byd mewn dwy iaith - Cymraeg neu Saesneg i wonderboxpublishing.com
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2017
Gwyddonwyr Bangor yn arwyddo llythyr at ddynoliaeth
Mae gwyddonwyr o Fangor ymhlith 15,364 o wyddonwyr o 184 o wledydd ledled y byd sydd wedi arwyddo ‘ llythyr o rybudd ’ at ddynoliaeth ynglŷn â’r sefyllfa ddybryd sydd yn ein hwynebu.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2017
Prifysgol yn y Dosbarth Cyntaf am Gynaladwyedd
Gosodwyd Prifysgol Bangor ymhlith 30 prifysgol ym Mhrydain sydd wedi eu dynodi fel bod o safon ‘Gradd er Anrhydedd Dosbarth Cyntaf’ am eu gweithgareddau cynaladwyedd. Mae’r tabl diweddaraf yn gweld y Brifysgol yn codi naw lle ac yn symud o gategori ‘2:1’ at ‘Radd Dosbarth Cyntaf’. Llwyddodd y Brifysgol i gyflawni ei sgôr uchaf erioed, gyda chynnydd o bron i 8.5% ar y ffigwr blaenorol, a llwyddo hefyd i ennill sgôr o 100% yn achos pedwar categori o blith y 13 cyfan. Mae’r gynghrair prifysgolion yn cael ei llunio gan People & Planet , a hon yw’r unig gynghrair annibynnol wedi ei neilltuo ar gyfer cynaladwyedd ym mhrifysgolion cyhoeddus Prydain. Fe’i llunnir ar sail ystod eang o feini prawf amgylcheddol, cymdeithasol a chynaladwyedd cyllidol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Prifysgol Bangor yn agor y sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru
Mae'r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi cael ei agor ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear gan ddefnyddio cyllid gan y Brifysgol, tra bo cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter trwy raglen Sêr Cymru, sy'n helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru..
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Blue Planet II: can we really halt the coral reef catastrophe?
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John Turner o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18 . Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Cyhoeddi prosiectau sy'n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu’r Gymraeg
Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod £425,000 wedi'i ddyfarnu i 26 o brosiectau arloesol sy'n ceisio hybu'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Ymarfer ynddo’i hun ddim yn ddigon i ferched golli pwysau
Mae ymchwil newydd o Brifysgol Bangor wedi dangos nad yw ymarfer corff ynddo’i hun yn arwain at i ferched golli pwysau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Nofel gyntaf y darlithydd Alys Conran yn Ennill Llyfr y Flwyddyn 2017
Alys Conran oedd yr enillydd amlycaf yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni, gan gipio tair gwobr yn y seremoni wobrwyo. Enillodd un o’r prif wobrau, sef gwobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn, am ei nofel gyntaf, Pigeon, gan dderbyn tlws wedi ei gomisiynu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones, a gwobr ariannol o £4000. Enillodd y nofel honno Wobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Dewis y Bobl iddi hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017
Cyhoeddi project newydd i ddarparu fersiwn synthetig Cymraeg o’u llais eu hun i bobl sy’n colli eu lleferydd
Mae Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, wedi ennill grant o £20,000 i ddatblygu rhaglen fydd yn recordio lleisiau pobl sydd mewn perygl o golli’r gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu glefydau eraill, a chynhyrchu fersiwn synthetig sy’n swnio’n naturiol o lais pob unigolyn. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer siarad Saesneg mae’r gwasanaeth hwn ar gael, ond bydd hyn am y tro cyntaf yn caniatáu i gleifion barhau i allu siarad Cymraeg gyda’u llais eu hun, yn hytrach na llais synthetig cyffredinol sy’n swnio fel robot neu lais rhywun arall. Bydd yr UTI yn gweithio gydag awdurdodau iechyd a therapyddion lleferydd i gynnig y gwasanaeth drwy Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017
Why Holocaust jokes can only be told by a Jewish comedian
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017
Seiciatrydd o Wrecsam yn derbyn gwobr cyflawniad oes
Mae seiciatrydd a leolir yn Wrecsam wedi derbyn gwobr cyflawniad oes gan y Coleg Seiciatryddol Brenhinol, am ei waith di flino yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ddifreintiedig a'r rhai ar y cyrion.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017
Mae'r llen iâ yn toddi ac yn cael effaith fyd-eang ar lanw'r môr
Caiff ei dderbyn yn eang fod lefel y môr yn codi oherwydd bod y llenni iâ enfawr sy'n gorchuddio'r Ynys Las ac Antarctica yn toddi, ond mae papur sydd newydd ei gyhoeddi yn The Journal of Geophysical Research: Oceans, ( http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/2017JC013109/abstract ), gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â phrifysgolion Harvard ac Oregon State yn yr Unol Daleithiau, a phrifysgol McGill yng Nghanada, yn dangos y bydd hynny'n cael effaith lawer iawn mwy na dim ond achosi newid yn lefelau dŵr y môr. Gallai gael effaith bellgyrhaeddol ar hinsawdd y byd. Mae'r canlyniadau newydd yn dangos nad yw lefel y môr yn codi i’r un graddau ym mhob man ar draws y ddaear wrth i'r llenni iâ doddi. Mewn gwirionedd, mae'r newid yn lefel y môr wrth i'r llenni iâ doddi yn amrywio yn ôl ardal, yn enwedig yn agos at y llenni iâ sy'n encilio. Mae'r canlyniadau newydd, a gafwyd yn defnyddio model rhifiadol o'r llanw yn fyd-eang, yn dangos y bydd y newidiadau i'r llanw oherwydd cwymp y llen iâ a'r newidiadau yn lefel y môr sy'n gysylltiedig â hynny yn amrywiol iawn ac yn effeithio ar nifer o wahanol brosesau pwysig.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2017
Ymchwil o Fangor yn cael ei chyflwyno yn y brif gynhadledd ar ddelweddu data
Bu'r Athro Jonathan C. Roberts a Dr Panagiotis (Panos) Ritsos, o'r Ysgol Cyfrifiadureg, yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn yr IEEE Visualization (VIS2017) Conference, a gynhaliwyd yn Phoenix, Arizona, UDA y mis yma.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017
Arddangos gwaith PhD cyfrifiadureg mewn sioe gelf ym Mharis
Dyma ddigwyddiad anarferol ym maes cyfrifiadureg. Mae Zainab Ali Abood o Irac wedi cwblhau PhD ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar dan oruchwyliaeth Dr Franck Vidal a bydd ei gwaith ar Gelf Esgblygiadol yn cael ei arddangos mewn oriel gelf ym Mharis (Gallerie Louchard, http://www.galerielouchard.paris/ ).
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017
Want to become self-compassionate? Run a marathon
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, myfyrwraig PhD yn ys Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017
Perfformiad o Chongqing yn hybu cysylltiadau Cymru-Tsieina
Er mwyn meithrin cysylltiad Cymru â Chongqing yn ne-orllewin Tsieina, fe wnaeth Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ddod â Chwmni Perfformio Chongqing i Ganolfan Ucheldre yng Nghaergybi yn gynharach yr wythnos hon (1 Tachwedd), lle buont yn cyfareddu'r gynulleidfa gyda pherfformiad syfrdanol o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017
Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Thema’r dydd yw ‘Anifeiliaid mewn Mytholeg Cymreig’. Gan ddefnyddio sbesimenau o’r Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, cynhelir gweithdai ar ddarlunio o’r sbesimenau i greu gludweithiau, argraffiadau, testun, a darluniadau dychmygol hefo’r arlunydd Jŵls Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017