Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2014
Beth ddigwyddodd i’r syniad o 'daith bwyd'?
Rhai blynyddoedd yn ôl cawsom ein cynghori i brynu cynnyrch ffres wedi'i dyfu yn y DU i osgoi'r 'daith bwyd' a gysylltir gyda mewnforio ffrwythau a llysiau mewn awyrennau oherwydd pryderon am sut yr oedd hyn yn cyfrannu at ryddhau allyriadau CO2. Ond mae'n ymddangos bod y pryderon hyn yn llawer rhy syml. Er mwyn gwneud gwir asesiad o 'ôl-troed' bwydydd mae'n rhaid archwilio pob agwedd ar y gweithgareddau cysylltiedig, o hau'r hadau i dyfu'r cynnyrch. Ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor i fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol bwyd a dyfir yn lleol a thramor, oedd yr asesiad trwyadl cyntaf erioed o gylch bywyd y gadwyn cynhyrchu cnydau yn ei chyfanrwydd yn cynnwys ffermio, cludiant, storio a choginio.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2014
Datblygu Meddalwedd ar gyfer y byd tanddwr i gyd-fynd â lansiad dyfais symudol Samsung Gear VR newydd
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Llyr ap Cenydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg , wedi bod yn gweithio ar broject cyfrinachol gyda Samsung ac Oculus i ddatblygu ap o'r enw " Ocean Rift " y disgwylir ei lansio ochr yn ochr â'r ddyfais symudol Samsung Gear VR newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2014
Prifysgol Bangor ar y rhestr fer yng Ngwobrau Ôl-radd Prospects 2014
Bangor University has been shortlisted for a Prospects Postgraduate Award, the only annual accolades solely dedicated to celebrating best practice and the most exciting developments in UK postgraduate education.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2014
Ymchwilydd rhyngwladol nodedig a chynghorwr iechyd cyhoeddus yn derbyn Cadair er Anrhydedd
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Cadair er Anrhydedd i'r Athro Mark Bellis, ymchwilydd rhyngwladol adnabyddus a chynghorwr ym maes iechyd cyhoeddus. Rhoddwyd y gadair i gydnabod ei gyraeddiadau mewn sawl maes o iechyd cyhoeddus, yn cynnwys atal trais, alcohol, cyffuriau ac iechyd rhywiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2014
Darlithoedd difyr ym Methesda
O zombies y Mabinogi i’r Gymraeg ar Facebook; o faes seicoleg plant i lên Cymry Llundain ac o sinema’r Eidal i ddyfnderoedd y Titanic, bydd rhai o darlithwyr mwyaf dawnus Prifysgol Bangor yn ymweld â Neuadd Ogwen, Bethesda, yn ystod y chwech wythnos nesaf i drafod ystod eang o bynciau.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014
Dechreuwch gwrs Meistr y mis Ionawr yma
Wnaethoch chi ddim llwyddo i gael eich cais i mewn ar gyfer mis Medi? Beth bynnag, mae Prifysgol Bangor yn cynnig i fyfyrwyr ddechrau yn Ionawr 2015 ar rai rhaglenni Meistr. Gwahoddir ceisiadau'n awr i ddechrau ar gyrsiau ôl-radd mewn Busnes a'r Gyfraith yn Ionawr 2015, gyda nifer o gyrsiau yng Nghanolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor hefyd yn cynnig dyddiad dechrau yn Ionawr.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014
Staff Prifysgol Bangor yn ennill Tystysgrifau am ddysgu’r Gymraeg
Mewn digwyddiad ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, dyfarnwyd tystysgrifau ar gyfer cyflawniadau mewn Cymraeg ail-iaith CBAC a chymwysterau Cymraeg yn y Gweithle i 33 o ôl-raddedigion ac aelodau staff y Brifysgol. Trefnwyd seremoni i ddathlu eu llwyddiant ar ddiwrnod cenedlaethol Shw’mae S’mae, yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2014
Fy Ffrind Dylan Thomas
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth mewn cydweithrediad â Pontio, yn falch o gyflwyno My Friend Dylan Thomas , gŵyl sy’n dathlu ymateb cerddorol i waith un o awduron amlycaf Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2014
Ymchwilwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynllunio sut i ddatrys dirgelwch datblygiad rhywogaethau newydd o bysgod mewn llyn crater yn Tanzania
'Dirgelwch y dirgelion' oedd disgrifiad Charles Darwin ohono: sut mae rhywogaethau newydd yn codi? Rydym yn deall llawer mwy erbyn hyn nag yn amser Darwin, wrth gwrs. Ond dim ond ers i wyddonwyr allu creu dilyniant DNA ar raddfa fawr yn rhad y gallwn obeithio deall sut mae'r broses yn gweithio ar y lefel fwyaf sylfaenol. Dyfarnwyd grant gwerth £250K gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i'r Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor i astudio pysgod o lyn bach a ffurfiwyd mewn crater folcanig yn Tanzania.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014
Gwobrwyo Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr am ei ymroddiad i gynrychioli ei gyd-fyfyrwyr yn ddiweddar Enillodd David Loveday, 34, o Rotherhithe, Llundain y teitl "Cynrychiolydd Cwrs" blwyddyn 1 neu 2 Ede & Ravenscroft ynghyd â gwobr ariannol gwerth £1,000. Mae David yn gyn-fyfyriwr Coleg St Dunstans, Llundain, ac ar hyn o bryd mae yn ei drydedd flwyddyn ar y cwrs gradd Polisi Cymdeithasol a Throseddeg gyda Chyfiawnder Troseddol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014
Angen pobl sydd wedi goroesi strôc fel cefnogwyr yn y gymuned
Mae prosiect ymchwil newydd a chyffrous, sy'n anelu at wella ansawdd bywyd pobl sydd wedi goroesi strôc, wedi cychwyn yng ngogledd Cymru. Bydd y project ‘Grym y Bobl/People Power’ yn dwyn ynghyd cleifion sydd wedi cael strôc yn ddiweddar a goroeswyr strôc i rannu profiadau a’u helpu i wella. Mae llawer o bobl sydd wedi cael strôc yn ei chael yn anodd mynd yn ôl at y math o weithgareddau teuluol a chymdeithasol oedd yn bwysig iddyn nhw cyn cael eu strôc. Mae mynd allan, ymweld â ffrindiau, neu ddod o hyd i hobïau newydd yn gallu bod yn anodd, ac yn aml mae pobl yn colli hyder i 'roi cynnig arni'.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014
Yr Arglwydd Brif Ustus yn agor Ffug Lys Barn newydd ym Mhrifysgol Bangor
A state-of-the-art Moot Court facility was officially opened at Bangor University by the Lord Chief Justice of England and Wales, Lord Thomas of Cwmgiedd, on Thursday 9th October, which is set to further underpin Bangor’s position as a leading example of a UK university Law School that places employability and student skills development at the core of its LLB Law Degree curriculum.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014
Gwobr bwysig yn cydnabod gwaith oes yr Athro John Witcombe o Brifysgol Bangor
Mae'r Athro John Witcombe, Cymrawd Cadeiriol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth , wedi cael ei ddewis yn Amaethwr Datblygu y Flwyddyn am 2014 gan y Tropical Agriculture Association . Mae'r wobr a dderbyniodd John, sef un bwysicaf y TAA, yn cydnabod ei gyfraniad oes i faes amaethyddiaeth ar gyfer datblygu, ac yn arbennig ei gyfraniad i fridio planhigion.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014
Thomas v Thomas: Brwydr y Beirdd
Pwy yw pencampwr barddonol Cymru, yn eich barn chi? Wrth i'r byd ddathlu canmlwyddiant geni Dylan eleni, pam mae bardd arall enwog Cymru, R.S. Thomas, yn aml yn cael ei anghofio? Bydd yr ysgolheigion a'r ddau efell Damian Walford Davies a Jason Walford Davies yn mynd benben i drafod y cwestiynau hyn. Bydd un yn dadlau dros Dylan Thomas a'r llall dros R.S. Thomas, yn y frwydr hon rhwng dau o gewri llenyddol yr ugeinfed ganrif ar Pethe , rhaglen S4C am y celfyddydau, yr wythnos hon (dydd Sul 26 Hydref 9pm).
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014
Cyfle i ddysgu am hanes Cymdeithas myfyrwyr dylanwadol
Cyn aelod yn cyflwyno hanes gogoneddus Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Yn dilyn ail sefydlu’r Gymdeithas Ddrama yn 2012 a llwyddiant ei blwyddyn lawn gyntaf o berfformiadau a gweithdai, mae’r Gymdeithas wedi gwahodd un o’i chyn aelodau i roi sgwrs ar hanes difyr a dylanwadol y Gymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014
Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef
Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi â hwy. Wrth sôn am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd. Fe wnaeth y tîm ymchwil ddod â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd, rhieni a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion at ei gilydd i rannu eu profiadau o'r newid o wasanaethau plant i rai oedolion.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014
Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n trafod Darlith Goffa A.H. Dodd
Bydd yr Athro Aled Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor ddydd Mercher, 22 Hydref, 2014, am 6.00pm. Bydd yr Athro Jones yn trafod “Wales and the politics of Christian Mission in Colonial Bengal, 1890-1947” i’r Ddarlith Goffa A.H. Dodd flynyddol a gynhelir ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prif Adeilad y Brifysgol. Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2014
Cyflwyno Gwobr Addysgu Uchaf y DU i Darlithwyr Bangor
Mewn seremoni wobrwyo’n ddiweddar derbyniodd yr Athro James Intriligator a Peggy Murphy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor eu Cymrodoriaeth Dysgu Cenedlaethol am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2014
Academydd yn y gyfraith o Fangor yn annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
Fis Gorffennaf aeth Dr Alison Mawhinney, Darllenydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Bangor, i Genefa i annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar fater rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014
Gwobrwyo datblygu Economi Werdd
Mae pedwar cwmni lleol sydd wedi bod yn canolbwyntio ar gynaladwyedd eu busnesau wedi ennill gwobrwyon gan Brifysgol Bangor. Dewiswyd y pedwar cwmni buddugol o blith dros 300 o fusnesau, asiantaethau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru a fu’n cymryd rhan mewn project i ddatblygu economi werdd gynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014
Prifysgol Bangor i gynorthwyo i hyfforddi gwyddonwyr pridd y dyfodol
Mae Prifysgol Bangor i chwarae rhan allweddol mewn hyfforddi gwyddonwyr y dyfodol a fydd yn gwella'r ffordd rydym yn deall priddoedd. Mae'r rhain yn allweddol i ddatrys llawer o'r sialensiau byd-eang cyfoes, yn cynnwys diogelwch bwyd, dŵr ac ynni.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2014
Prifysgol Bangor wedi ei hachredu i ddyfarnu Cymrodoriaethau'r Academi Addysg Uwch
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi llwyddiant Fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus Prifysgol Bangor, sydd wedi cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch y mis hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2014
'Bocs offer i athrawon' i leihau trais ymysg plant a thrais yn erbyn plant mewn ysgolion meithrin yn Jamaica
Mae casgliad o strategaethau i athrawon i geisio rhwystro datblygiad cynnar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynyddu sgiliau cymdeithasol-emosiynol plant ifanc i gael ei brofi ymhellach mewn astudiaeth bedair blynedd yn Kingston, prifddinas Jamaica.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014
Ffisegydd o Fangor ymysg arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd fydd yn trafod effaith diflaniad rhew môr yn yr Arctig ar yr hinsawdd
Mae ffisegydd eigion o Brifysgol Bangor, yr Athro Tom Rippeth, yn un o 12 o wyddonwyr rhyngwladol sydd wedi cael eu gwahodd i siarad mewn gweithdy a drefnwyd gan Bwyllgor Rhyngwladol Gwyddoniaeth yr Arctig i drafod effaith diflaniad llwyr rhew môr yr Arctig yn yr haf yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014
Arbenigwyr yn dod ynghyd i drafod y cyfryngau a hawliau dynol
Wrth i gyfreithwyr ac ymgyrchwyr hawliau dynol gadw golwg ar feysydd brwydr yn y Dwyrain Canol, bydd cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yn mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n codi yn sgil gwrthdaro o'r fath ar draws y byd. Mae cynhadledd flynyddol Grŵp y Cyfryngau a Gwleidyddiaeth y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol ar y Cyfryngau, Perswâd a Hawliau Dynol yn cael ei chynnal ar Dachwedd 10 ac 11.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2014
Gweinidog yn ymweld ag ysgolion sydd wedi cydweithio efo Prifysgol Bangor
Bu'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis AC, yn ymweld â thair ysgol gynradd sydd wedi cydweithio â Phrifysgol Brifysgol ar brojectau amrywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf heddiw (9 Hydref 2014).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2014
Arbenigwr ym maes iechyd meddwl ym Mangor yn helpu i lansio'r European Mental Health Integration Index
Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hydref. I nodi'r achlysur mae'r Mental Health Integration Index (MHII) yn edrych am y tro cyntaf ar y sialensiau sy'n gysylltiedig ag integreiddio Ewropeaid gyda salwch meddwl i gymdeithas a chyflogaeth yn y 28 o wledydd sy'n perthyn i'r Undeb Ewropeaidd, a hefyd Norwy a'r Swistir. Comisiynwyd yr ymchwil gan Janssen ac fe'i gwnaed gan yr Economics Intelligence Unit.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2014
Prifysgol Bangor yn ddathlu Diwrnod S’mae – Diwrnod i Ddathlu’r Gymraeg
Dydd Mercher, 15 Hydref, yw ‘ Diwrnod S’mae ’, diwrnod cenedlaethol i ddathlu a codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r iaith Gymraeg. Mi fydd Prifysgol Bangor yn cefnogi a hyrwyddo’r diwrnod mewn partneriaeth â Menter Iaith Bangor ynghyd a sefydliadau a mudiadau eraill ym Mangor drwy gynnig cyfres o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn gwneud y Gymraeg yn fwy gweladwy a chyhoeddus. Gyda'r nod o ddangos bod yr iaith yn perthyn i bawb ac y gallwn i gyd ei defnyddio.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014
Ysgol y Gyfraith yn croesawu’r Arglwydd Brif Ustus
Fe fydd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, Prif Arglwydd Ustus Lloegr a Chymru, yn traddodi Darlith Flynyddol Public Law mewn cydweithrediad a’r cylchgrawn Public Law (cyhoeddiad Thomson Reuters). Teitl y Ddarlith yw “ The Future of Public Inquiries” . Mae’r Ddarlith, sydd yn cael ei noddi gan Thomson Reuteurs, o bwys cenedlaethol, yn enwedig o ystyried dadleuon diweddar yn amgylchynu Ymchwiliad Chilcot (Irac) ac Ymchwiliad Leveson (rheoliad y wasg), ymysg eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014
Project a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi hwb sylweddol i’r Economi Werdd
Mae dros 300 o fusnesau, asiantaethau a mentrau cymdeithasol wedi cael budd o broject i ddatblygu economi werdd gynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014
Prifysgol Bangor ymysg y gorau mewn Arolwg o Fywyd Myfyrwyr
Fel y mae Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu darpar fyfyrwyr i Ddiwrnodau Agored yn y Brifysgol y mis hwn (dydd Sadwrn, 11 a 25 Hydref), mae staff yn y Brifysgol wedi croesawu’r faith bod y Brifysgol wedi’i chynnwys mewn arolwg arall eto o brifysgolion gorau Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014
Teyrnged i Mair Morris
Teyrnged i Mair Morris...datgan ein cydymdeimlad
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014
Sioe agoriadol Pontio ddim yn cael ei llwyfannu yn y flwyddyn newydd
Yn dilyn y cyhoeddiadau diweddar ynglŷn â'r oedi i agoriad Pontio, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd hi'n bosibl llwyfannu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Chwalfa yn y flwyddyn newydd fel y gobeithiwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014
Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd, yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 2 Hydref 2014).
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014
Interniaeth yn Jaguar Land Rover yn gwireddu breuddwyd Peter
Mae myfyriwr mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol wedi treulio ei ail haf ar gynllun nawdd o fri yn Jaguar Land Rover yn Coventry.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014
Haciwr Moesegol ar y Rhyngrwyd yn ennill gwobr o £1,000
Yn ddiweddar, enillodd myfyriwr o Brifysgol Bangor wobr o £1,000 mewn penwythnos ‘hacathon’ yn Rwsia. Gwahoddwyd Jamie Woodruff, 21, myfyriwr yn yr Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol, i’r digwyddiad a gynhaliwyd gan Startup Weekend ym Mosgo, i hacio’n fyw o flaen rhyw 1,000 o bobl. Roedd hefyd yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, a rhoddodd sgwrs ar seiber-ddiogelwch. Mae’r Startup Weekend yn 56 awr o hacathon lle bu rhaglenwyr, cynllunwyr ac entrepreneuriaid yn hacio gwefannau syfrdanol, cymwysiadau rhyfeddol a gwasanaethau anhygoel er mwyn creu busnesau a oedd yn gweithredu’n llawn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014
Lansiad Coleg Bangor Tsieina
Bu mwy na 260 o fyfyrwyr yn dathlu agoriad Coleg Bangor Tsieina yn eu mamwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2014