Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2012
Nid Yw Economi Werdd Erioed Wedi Edrych Cystal
Bydd Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd Prifysgol Bangor yn cefnogi busnesau lleol sydd eisiau elwa o’r economi werdd yn eu digwyddiad yng Ngwesty’r Cei Deganwy ddydd Iau Hydref 4 . Bydd Peter Jones OBE, arbenigwr ar effeithlonrwydd adnoddau a chyn-gyfarwyddwr gwasanaethau gwastraff BIFFA yn datgelu mwy am gyfleoedd a sialensiau twf gwyrdd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012
Darlithydd o Fangor yn cael ei enwebu am wobr genedlaethol ‘Athro’r Gyfraith y Flwyddyn’
Mae uwch darlithydd o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei enwebu am wobr genedlaethol gan ei fyfyrwyr. Rhoddwyd enw Mr Aled Griffiths, Dirprwy Pennaeth Ysgol y Gyfraith, ymlaen ar gyfer gwobr flynyddol ‘Athro’r Gyfraith y Flwyddyn’ Oxford University Press.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2012
Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru Dydd Llun 1af – Dydd Sul 7fed Hydref, 2012
Yr Hydref hwn gwelwn feirdd rhyngwladol blaengar yn mentro i ogledd Cymru ac yn eu sgil daw ystod eang o ieithoedd, o'r iaith Roeg i’r Galiseg, i gynnal dialog â’r Gymraeg a’r Saesneg. Bydd rhaglen anghyffredin, a drefnwyd gan Dr Zoe Skoulding o Brifysgol Bangor ar y cyd â Thŷ Cyfieithu Cymru, yn ymestyn y tu hwnt i Fangor i gwmpasu Machynlleth, Aberystwyth, a’r Wyddgrug. Bydd yn mynd â barddoniaeth ar daith gynhyrfus, gyda’r digwyddiadau y tro hwn yn cael eu cynnal nid yn unig mewn siopau llyfrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatrau, ond hefyd ar bier Bangor ac yn siopau’r stryd fawr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2012
Grant nodedig ar gyfer ymchwil i Hanes Ewrop i hanesydd o Fangor
Yn ddiweddar, bu i’r Dr Katharine Olson, darlithydd mewn hanes canoloesol a modern cynnar ym Mangor, dderbyn Grant nodedig Bernadotte E. Schmitt am Ymchwil i Hanes Ewrop gan yr ‘American Historical Association’.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2012
Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg
Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2012
Myfyrwyr Bangor yn fuddugoliaethus ar University Challenge
Fe wnaeth myfyrwyr Prifysgol Bangor herio a churo tîm o fyfyrwyr o brifysgol hynaf yr Alban, Prifysgol St Andrews, yng ngornest University Challenge ar BBC 2 Wales neithiwr (Medi 24)
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2012
Apwyntiad yr Athro Robert Rogers
Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad yr Athro Robert Rogers o Brifysgol Rhydychen a fydd yn ymuno â'r gyfadran yn ystod 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2012
Conwydden brin yn hadu am y tro cyntaf yng Nghymru
Mae conwydden brin o Awstralia sydd yn tyfu yng Ngardd Fotaneg Treborth, ym Mhrifysgol Bangor, wedi hadu efallai am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond yr eildro yn y Deyrnas Unedig. Can coeden yn unig o’r pinwydd Wollemi (Wollemia nobilis) sydd yn tyfu yn ei lleoliad cynhenid mewn canion yn Awstralia. Dim ond yn 1994 y daethpwyd o hyd i’r gonwydden.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2012
Gallai gwell dealltwriaeth o esblygiad gwenwyn nadroedd fod yn gymorth i ddarganfod cyffuriau
Datganiad i'r Wasg gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (Natural Environment Research Council) yw hwn, sy'n cyfeirio at waith ymchwil a wneir ym Mangor. UK-led scientists have made a discovery about snake venom that could lead to the development of new drugs to treat a range of life-threatening conditions like cancer, diabetes and high blood pressure. Most venom contains a huge variety of lethal molecules called toxins, which have evolved from harmless compounds that used to do different jobs elsewhere in the body. These toxins target normal biological processes in snakes’ prey such as blood clotting or nerve cell signalling, stopping them from working properly.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2012
Cyfarfod Meicrobioleg Cymru a'r Gorllewin
Dr Martina Lahmann yn wraig wadd ym Mhrifysgol Abertawe
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2012
Trafod effeithiau toddi rhew’r môr Arctig ar yr hinsawdd
Wrth i’r rhew ym Môr yr Arctig yn cyrraedd y lefel isaf a gofnodwyd dros dri degawd, bydd eigionegwyr ffisegol o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, Dr Tom Rippeth a Ben Lincoln yn ymuno â gwyddonwyr y pegynau o Brifysgol Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain, i drafod goblygiadau diflaniad rhew’r môr ar raglen ‘ Science Cafe ’ Radio Wales nos Fawrth 18.9.12 am 7.00 pm.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2012
BBC yn ffilmio yn yr Ysgol Seicoleg
Ar ddydd Gwener 14 Medi, bu’r BBC yn ffilmio yn Uned Ddelweddu’r Ysgol Seicoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2012
Cydnabyddiaeth genedlaethol i NWORTH, Uned Dreialon Glinigol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am gynnal treialon astudiaethau clinigol o’r ansawdd uchaf. Mae Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd (a Gofal Cymdeithasol) Gogledd Cymru (NWORTH) , sef yr uned dreialon yn y Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol (IMSCaR) yng Ngholeg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad (CoHaBS) wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC)fel uned dreialon glinigol wedi ei chofrestru’n llawn am ragoriaeth ymchwil wrth gynnal treialon clinigol aml ganolfan ac astudiaethau eraill sydd wedi eu cynllunio'n dda.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012
Rhifyn newydd newyddlen yr Ysgol arlein NAWR
Mae rhifyn diweddaraf newyddlen yr Ysgol ar gael arlein nawr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012
Rhifyn newydd o ‘Busnes ym Mangor’ arlein NAWR
Mae rhifyn diweddaraf newyddlen yr Ysgol, ‘Busnes ym Mangor’, ar gael arlein nawr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012
Rhifyn newydd o ‘Cyfraith a Threfn’ arlein NAWR
Mae rhifyn diweddaraf newyddlen yr Ysgol, ‘Cyfraith a Threfn’, ar gael arlein nawr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012
Myfyriwr PhD i fod yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain
Mae Niamh Reilly wedi cael ei dewis yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor (MATP).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012
Myfyrwyr yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus. Mae aelodau o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor yn brysur yn paratoi ar gyfer sioe 'Student Goat’, sef sioe gomedi addasiad ar y pryd yn arddull ‘Whose Line is it Anyway’ a ‘Mock the Week’, a fydd yn cael ei berfformio gyda’r digrifwr chwedlonol Phill Jupitus.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012
Ysgol Busnes Bangor yw’r gorau ym Mhrydain am ymchwil Bancio
Ysgol Busnes Bangor yw’r sefydliad gorau ym Mhrydain – ac un o 30 goreuon y byd – am ymchwil Bancio, yn ôl arolwg diweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2012
Myfyrwyr o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan yn nhrydedd Ysgol Haf flynyddol Visceral Mind ym Mhrifysgol Bangor.
Fe wnaeth dros 140 o ymgeiswyr cymwys iawn wneud cais am y 40 lle a oedd ar gael yn Ysgol Haf Visceral Mind , a gynhaliwyd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mangor. Mae’r ysgol haf, sydd yn awr yn ei thrydedd flwyddyn, wedi bod yn boblogaidd ymysg ymchwilwyr ifanc uchelgeisiol sy’n awyddus i rannu arbenigedd fyd-enwog Seicoleg Bangor ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol. Nod bennaf y cwrs, a gefnogir gan y James S. McDonnell Foundation, yw gwneud iawn am y diffyg gwybodaeth niwro-anatomegol ymysg niwrowyddonwyr ifanc. Y prif reswm am y diffyg hwn yw nad oes llawer o feinwe ymennydd dynol ar gael y tu allan i’r Unol Daleithiau i roi’r hyfforddiant hwn i fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2012
Prifysgol Bangor yn lansio Sefydliad Confucius unigryw
Mae’r Sefydliad Confucius cyntaf yn unlle yn y byd i ganolbwyntio ar y Gyfraith i’w agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor. Lensir Sefydliad Confucius gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yng ngŵydd Mr SHEN Yang, Gweinidog-Cwnselydd Llysgenhadaeth Tsieina.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2012
Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwraig o Fangor
Medal Cwmni’r Brethynwyr (Efydd): Mae Un o Chwe Medal i’w Dyfarnu Erioed yn mynd at Elina Hamilton, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012
Theori Cerddoriaeth Ganoloesol mewn Cyd-destun, Gorffennaf 2012
Yr Ail Weithdy ar Theori Cerddoriaeth Ganoloesol i’w gynnal ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012
A all planhigion gymryd lle cyfansoddion sy'n deillio o olew?
Mae Prifysgol Bangor yn ymateb i’r cynnydd parhaus ym mhris olew a’r modd y dihysbyddir cyflenwadau tanwyddau ffosil yn fyd-eang, drwy gynnal ymchwil arloesol i ddefnydd cyfansoddion defnyddiol sydd i’w cael mewn planhigion cyffredin. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn rhoi’r genhedlaeth nesaf o fio-gynhyrchion a thanwydd, ac efallai hyd yn oed leihau ein dibyniaeth ar olew.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2012