Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2019
Pob Can yn Cyfri ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor am wella cyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr 11,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau staff drwy ymuno â “ Pob Can yn Cyfri ”. Cyflwynodd y Brifysgol finiau ailgylchu ‘Pob Can yn Cyfri’ mewn wyth lleoliad, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ailgylchu caniau diod tra eu bod ‘ar fynd’.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2019
Penrhos: darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ar deulu Stanley o Gaergybi
Bydd teulu Stanley o Benrhos, Caergybi yn ganolbwynt darlith gyhoeddus ddiddorol ym Mhrifysgol Bangor gan yr hanesydd lleol amlwg, Dr Gareth Huws. Yn dwyn y teitl 'Penrhos: powerful women and the curious tale of a knight, a lord and an “honourable"’, cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 9 Hydref am 5.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2019
Prifysgol Bangor Bahrain yn Dathlu Graddio
Llongyfarchiadau i'r 87 o fyfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar o'r Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF) .
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2019
Gŵyl Hanes yn dod i Fangor
Bydd yr haneswyr blaenllaw David Starkey, Lucy Worsley, David Olusoga a Trevor Fishlock a welir yn rheolaidd ar y teledu yn ymuno ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor ac o ledled y DU i gymryd rhan yn yr Ŵyl Hanes gyntaf a gynhelir ym Mangor ar 25 a 26 Hydref 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019
Prifysgol Bangor yn cynnal y 37ain gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol flynyddol
Cynhaliodd Prifysgol Bangor y 37ain gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol (CGVC) flynyddol ar 12-13 Medi 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019
Bangor yn ennill Cymrodoriaeth Arweinydd y Dyfodol
Mae academydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth bwysig Arweinydd y Dyfodol g an Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), un o brif gyrff cyllido'r Deyrnas Unedig. Mae Dr Chris Staples yn ymuno â phrif ymchwilwyr ac arloeswyr o bob rhan o'r wlad i dderbyn cyfran o'r £78 miliwn a ddyfernir fel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bwriad y buddsoddiad yw rhoi hwb i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol, i gynnal eu gwaith ymchwil arloesol ac i ddatblygu annibyniaeth eu hymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019
Croesawu ein myfyrwyr
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019
Athro Prifysgol Bangor yn ymddangos ar The One Show
Mae'n sicr na fyddwch yn edrych ar grancod na'r arfordir yn yr un modd eto wedi gwylo'r Athro Simon Webster yn esbonio wrth Miranda Krestovnikoff sut mae’r benyw o rhywogaeth o grancod cyffredin rydyn ni'n eu darganfod ar lannau'r môr, yn denu gwryw ac yn cael rhywfaint o amddiffyniad i'r fargen! Mae’r ffilm saith munud i mewn i darllediad diweddar o raglan poblogaidd The One Show’ ar BBC One. Mae ar gael yma am 29 diwrnod.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019
Drysau Amgueddfa Hanes Natur Brambell ar agor
There will be an opportunity for the public to visit Brambell Natural History Museum as part of the Open Doors events on Saturday 28 September 2019. The Open Doors events gives the public the opportunity to have a look at some of Gwynedd and Conwy’s historical buildings, gardens and interesting and unusual locations all for free throughout September.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019
Are the Amazon fires a crime against humanity?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019
Cyfarwyddwr Newydd i Ganolfan Gelfyddydau Pontio Bangor
Mae Osian Gwynn wedi ei gyhoeddi'n Gyfarwyddwr newydd ar Celfyddydau Pontio , canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015. Yn frodor o Lanelli, cafodd Osian Gwynn ei addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Gyfun y Strade, cyn astudio gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio i gwmni Cyfathrebu Cambrensis yng Nghaerdydd, cyn astudio gradd Feistr mewn Perfformio Lleisiol yng ngholeg y Guildhall School of Music and Drama, yn Llundain. Gweithiodd fel canwr opera yn unigol ac fel rhan o’r corws i gwmnïau megis Opera Holland Park a Grange Park Opera a theithio ledled Prydain ac Ewrop fel rhan o gynyrchiadau teithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019
A yw rhaglenni natur yn ein twyllo i feddwl bod cyflwr ein planed yn iawn?
Mae ymchwil i raglenni byd natur diweddar y BBC a Netflix yn awgrymu, er bod y rhaglenni yn sôn fwyfwy am fygythiadau sy'n wynebu byd natur, nid ydynt yn aml yn dangos maint llawn y dinistr amgylcheddol a achosir gan bobl Mae consensws gwyddonol cryf bod natur yn cael ei heffeithio'n ddifrifol gan bobl, bod cyfradd difodiant rhywogaethau yn cyflymu, a bod hyn yn cael effeithiau difrifol. Mae rhaglenni byd natur wedi cael eu beirniadu o bryd i’w gilydd am beidio â dangos i ba raddau y mae'r amgylchedd yn dioddef. Mae astudiaeth newydd wedi canfod, er bod rhaglenni byd natur poblogaidd diweddar yn trafod mwy o'r bygythiadau sy'n wynebu'r rhyfeddodau natur a bortreadir, mae byd natur yn dal i gael ei ddangos yn bennaf fel rhywbeth dilychwyn heb ei gyffwrdd, a gall hyn arwain at ddifaterwch ymysg gwylwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019
Prifysgol Bangor yn arwain datblygiad i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg
Bydd Prifysgol Bangor yn arwain datblygiad i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ledled Cymru, diolch i gais llwyddiannus am arian gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Daeth tîm o aelodau staff o amrywiol adrannau yn y brifysgol ynghyd â chydweithwyr o sefydliadau partner i ddatblygu portffolio cyffrous o ddarpariaeth, a gaiff ei ddatblygu a'i lansio dros y 10 mis nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019
Trafod Cerddoriaeth mewn Gemau
Mae myfyriwr Prifysgol Bangor wedi troi ei ddiddordeb mewn gemau cyfrifiadurol i mewn i radd ôl-raddedig mewn naratif rhyngweithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019
Gwella Iechyd Meddwl efo Ymarfer Corff
Mae myfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor wedi bod yn edrych ar y berthynas rhwng iechyd meddwl ac ymarfer corff. Yn wreiddiol o Whitstable yng Nghaint, mae Rhi Willmot newydd gwblhau ymchwil i sut y mae ymarfer corff yn lleihau straen ac yn gwella ein lles.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019
Cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol' ar gyfer disgyblion ag Anableddau Deallusol ac Awtistiaeth i athrawon lleol
Ymunodd 125 o staff o Antur Waunfawr, Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar â staff academaidd o Ysgol Addysg a Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad hyfforddi yn cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol'.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019
Efo secwinau cynaliadwy ar gael, does dim rhaid i chwyldro gwyrdd fod yn ddi-liw!
Gyda secwinau'n dal yn hynod boblogaidd ym myd 'ffasiwn cyflym', mae un cwmni bychan yn gobeithio ychwanegu tipyn o liw a chynaliadwyedd yr un pryd drwy ddatblygu secwin bioddiraddadwy. Mae ffasiwn cyflym yn aml yn cael ei feirniadu am gynyddu maint y defnyddiau sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Ac mae'r bri mawr ar secwinau ond yn ychwanegu haen o blastig na ellir ei ailgylchu i'r gymysgedd honno. Mae un cwmni'n gobeithio newid hynny i gyd fodd bynnag. Sefydlodd Rachel Clowes The Sustainable Sequin Company flwyddyn yn ôl i ddarparu secwinau cynaliadwy i'r diwydiant ffasiwn. Ar hyn o bryd mae Rachel yn defnyddio plastig wedi'i ailgylchu i ddarparu secwinau parod a rhai wedi'u gwneud yn arbennig o wahanol siapiau a meintiau. Secwinau Rachel wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu yw'r cam cyntaf tuag at ei nod o ddatblygu secwin y gellir ei gompostio. Wrth ddefnyddio'r rhain ar ddefnydd bioddiraddadwy, gallai'r dilledyn cyfan bydru'n naturiol ar ôl ei anfon i safle tirlenwi. Mae Rachel wedi troi at arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gofyn iddynt ddefnyddio eu profiad sylweddol i wireddu ei nod.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2019
Drysau’n agored i Brif Adeilad Prifysgol Bangor
Bydd cyfle i’r cyhoedd gael trosolwg ar hanes Prif Adeilad Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 14 Medi 2019. Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2019
Beth sydd yn y gwaed?
Mae arbenigydd o’r Y sgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar S4C, Yn y Gwaed . Yn y gyfres, sy’n dechrau nos Iau, 12 Medi am 8.00, ac sy’n helpu llond llaw o bobl ifanc sydd ar goll yn eu gyrfa i geisio dod o hyd i’w galwedigaeth, mae'r Athro Tim Woodman yn un o’r arbenigwyr ar y rhaglen. Mae’n llunio proffil seicolegol o’r unigolion er mwyn asesu eu cryfderau seicolegol. Gyda’i phrofiad eang o ddilyn achau Cymreig ar draws y byd, yr hanesydd Eilir Ann Daniels fydd yn taflu golau newydd ar hanes teuluol yr unigolion draw yn Aberystwyth. Byddant yna’n awgrymu meysydd gwaith delfrydol i’r unigolyn hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2019
Preventable trauma in childhood costs North America and Europe $1.3 trillion a year
Datganiad rhyngwladol uniaith Saesneg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid oes cyfieithiad ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2019
WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil
Mae WISERD yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Bydd WISERD yn cael £6.3 miliwn fel ail-fuddsoddiad i barhad ei hymchwil ar gymdeithas sifil – y trydydd tro i gyllid sylweddol gael ei ddyfarnu yn hanes deng mlynedd WISERD.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019
‘Cyfle am sgwrs’ i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia
Mae “Cyfle am Sgwrs” yn rhoi cynnig i siarad ar y ffôn neu gwrdd â rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o ‘ World Alzheimer’s Month ’ ym mis Medi (23/09/2019).
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019
Sgwrs Bwysig Marzana Kamal ym Mhrifysgol Califfornia
Yn ddiweddar, traddododd Marzana Kamal, myfyriwr PhD mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, sgwrs am effaith ymfudo llafur rhyngwladol dynion ar eu gwragedd ym Mangladesh ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019
Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr
Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019