Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Chwefror 2012
Dylunio’r Car 1000 milltir yr awr
Bangor University are hosting a public lecture as part of the Learned Society of Wales’ Frontiers series at 6pm on 7 th March at the School of Electronic Engineering’s Main Lecture Theatre.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2012
Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cyngerdd Bryn Terfel – Tocynnau nawr ar werth
Mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi manylion cyngerdd arbennig gyda derbynnwyr ei ymddiriedolaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mai i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones. Daeth y cyhoeddiad ar y diwrnod pan dderbyniodd Bryn Terfel Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i Gerddoriaeth gan y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012
Seren Opera Rhyngwladol yn derbynanrhydedd gan Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi gwobrwyo’r seren opera rhyngwladol, Bryn Terfel CBE, gyda Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012
Bron iawn hanner yr oedolion sy’n dioddef o iselder wedi cael eu pwl cyntaf yn ystod eu harddegau
Mae astudiaeth newydd gan seicolegwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen yn dangos bod hanner yr oedolion sy'n dioddef o iselder clinigol wedi cael eu pwl cyntaf o iselder yn ystod eu harddegau. Yn wir, yr oedran mwyaf cyffredin i bobl ddioddef o iselder am y tro cyntaf yw rhwng 13-15 mlwydd oed.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012
Gwaith arloesol Prifysgol yn cael ei amlygu wrth lansio’r fersiwn ar-lein o Geiriadur yr Academi
The pioneering work of the Language Technologies Unit at Canolfan Bedwyr will be highlighted as the Welsh Language Board launches an online version of Geiriadur yr Academi , the Welsh Academy English-Welsh Dictionary.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012
A yw pobol yn cael eu geni’n brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr?
A yw pobol yn cael eu geni’n brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr? A yw pobl yn cael eu denu at yrfa mewn prynu oherwydd eu sgiliau neu eu tueddfryd? Pa nodwedd yw’r pwysicaf ar gyfer prynwr: deallusrwydd emosiynol neu IQ?
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012
Rhywbeth at ddant pawb yn ystod Ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor
Rhywbeth at ddant pawb yn ystod Ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor Gwyddoniaeth Wyllt, y byd microsgopig, graddfeydd amser daearegol, ddigwyddiadau ‘cyfle i gyffwrdd’ a darlithoedd - mae ‘na rywbeth i ddiddanu a diddori pawb yn ystod ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae digwyddiadau’r Ŵyl mewn lleoliadau amrywiol rhwng 7-18 Mawrth 2012 ac maent yn rhad ac am ddim i’w fynychu.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012
Sefydlu cysylltiadau gyda Japan mewn meddyginiaethau wedi’u personoli
Sefydlu cysylltiadau gyda Japan mewn meddyginiaethau wedi’u personoli Roedd yr Athro Dyfrig Hughes, cyd gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, ymhlith 7 o’r DU a wahoddwyd gan Lysgenhadaeth Prydain yn Tokyo i gymryd rhan mewn gweithdy ar feddyginiaethau wedi'u personoli. Trefnwyd y gweithdy gan adran Gwyddoniaeth ac Arloesi y Llysgenhadaeth gyda chefnogaeth Cronfa Partneriaeth Fyd-eang Llywodraeth y DU. Amcan y gweithdy oedd atgyfnerthu'r cydweithio rhwng y DU a Japan i sefydlu cysylltiadau cynaliadwy tymor hir mewn ymchwil a datblygu ym maes gwyddoniaeth ac arloesi.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2012
Ffilm Fud yn ennill yn yr Oscars
Ar ôl trafod yr enwebiadau Oscar am y ffilm The Artist yr wythnos ddiwethaf, yma mae Dr Jonathan Ervine o’r Ysgol Ieithoedd Modern yn rhannu ei farn am lwyddiannau nos Sul.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2012
Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr
Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr Mae gwybodaeth am gleifion yn dangos mai ymysg merched, pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl gyda chanserau llai cyffredin y ceir y nifer uchaf o ymweliadau cyn-gyfeirio
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2012
Bangor yn croesawu Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor gyfle unigryw i arddangos ei harbenigedd ymchwil a darpariaeth cyflogadwyedd i Lywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012
A fydd ffilm fud yn ennill Oscar?
Mae Dr Jonathan Ervine yn aelod staff academaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn arbenigwr ar ffilmiau Ffrangeg a sinema. Yma mae'n rhannu ei farn am y ffilm a enwebwyd am wobr Oscar, The Artist .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012
Academydd o Fangor i gadeirio seminar ymchwil gyda phapur ar gyrff hyll a gwael yn Lady Gaga a thu hwnt
Mattia Marino i gadeirio sesiwn yng nghyfarfod blynyddol yr American Comparative Literature Association Mawrth 2 h – Ebrill 1 yn Brown University, UDA.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012
Bangor yn fuddugol yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol
Bu myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru’n mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol a gynhaliwyd ym Mangor dros y penwythnos ( 17-19 Chwefror).
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2012
Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith
Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn nodi pwysigrwydd y famiaith ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith . Gwyliwch eu fideo.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2012
Diwrnod Sinema Siapan
Bydd cyfle i ffans weld dwy ffilm unigryw ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror fel rhan o Ddiwrnod Sinema Siapan gyntaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2012
Edrych i mewn i ymennydd dawnsiwr
Daw dawns a seicoleg ynghyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Mewn darn cyffrous o ymchwil sy’n croesi ffiniau, bydd Dr. Emily Cross, seicolegydd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio gyda’r dawnsiwr cyfoes o fri rhyngwladol, Riley Watts, i astudio’r hyn sy’n digwydd yn ein hymenyddiau pan fyddwn yn gwylio symudiadau cymhleth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2012
Grwpiau trafod a gemau geiriau o fudd i bobl â dementia
Gall gweithgareddau mor syml â grwpiau trafod strwythuredig a gemau geiriau fod o les i gof a meddwl pobl sydd â chlefyd Alzheimer neu ddementia, yn ôl adolygiad systematig dan arweiniad yr Athro Bob Woods, Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Canfu’r adolygiad hefyd bod lles y bobl dan sylw yn cynyddu o ganlyniad.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2012
Helena Miguélez-Carballeira, ysgolhaig o Brifysgol Bangor, yn ennill grant i arwain rhwydwaith ymchwil ar gyfieithu yng Nghymru
Mae’r project ‘Translation in Non-State Cultures: Perspectives from Wales’ wedi ennill grant datblygu ymchwil gan yr AHRC. Mae Dr Helena Miguélez-Carballeira, darlithydd Sbaeneg a chyfarwyddwr y rhaglen astudiaethau cyfieithu ôl-radd yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor wedi ennill £12,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i arwain rhwydwaith ymchwil ar gyfieithu yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2012
Profiad gwaith yn magu gwreiddiau gyda Go Wales
Cafodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor gyfle i fod yn rhan o’r cynllun gwerthfawr GO Wales yn ddiweddar gan fynd ar brofiad gwaith i Erddi Botaneg Treborth.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2012
Penodiad i arwain thema newydd ymchwil iechyd i Pontio
Mae Dr John Parkinson wedi cael ei benodi i arwain thema ymchwil newydd i broject Pontio Prifysgol Bangor, a ddatblygwyd yn y cyfnod yn arwain at agor canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi yn 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2012
Arddangosfa Tynged yr Iaith
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Arddangosfa Tynged yr Iaith i nodi 50 mlynedd ers darlledu darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis. Mae’r arddangosfa, sydd yn cael ei chynnal yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol o Chwefror 13 2012 ymlaen.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2012
Creu talent ymchwil newydd
Mae'r chwilio wedi dechrau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr dawnus sy’n sefydlu eu gyrfaoedd yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2012
Gall dulliau’r gwasanaeth iechyd helpu'r heddlu fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gall dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo gwybodaeth newydd ar draws sefydliadau mawr a chymhleth yn y gwasanaeth iechyd gael eu cymhwyso i helpu heddluoedd fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r Athro Jo Rycroft-Malone a Dr Christopher Burton o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor yn gweithio efo Heddlu Gogledd Cymru a'r Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol ar ddatblygu dulliau plismona effeithiol er mwyn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2012
Charles Dickens: Dathliad Pen-blwydd
Bydd Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor yn dathlu pen-blwydd 200 Charles Dickens (1812-1870) ar ddydd Mawrth 7 Chwefror gan ddangos dwy ffilm fer sydd yn addasiadau o waith cynnar yr awdur.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2012
At arweinwyr ac arloeswyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru Crwsibl Cymru 2012
Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth bwysig i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Beth yw Crwsibl Cymru? Cyllidir Crwsibl Cymru gan y grŵp Gŵyl Ddewi o sefydliadau addysg uwch, a bydd yn dod â deg ar hugain o ymchwilwyr at ei gilydd i edrych sut y gallant gydweithio i fynd i’r afael â’r sialensiau ymchwil sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Cynhelir Crwsibl Cymru 2012 dros dri gweithdy dwys deuddydd yr un (preswyl), a fydd yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2012
Graddedigion Bangor yn lansio gwasanaeth DNA unigryw
Mae dau o raddedigion Bioleg Forol Prifysgol Bangor wedi lansio gwasanaeth storio DNA unigryw i berchnogion anifeiliaid anwes sy'n gallu ategu neu amnewid microsglodion.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012
Brwydr Bangor yn erbyn Canser Ofarïaidd
Mae dydd Sadwrn 4 Chwefror wedi’i ddynodi’n Ddiwrnod Canser y Byd. Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr yn Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin ym Mhrifysgol Bangor, Dr Ramsay McFarlane a’r Athro Nick Stuart, yn defnyddio’r technolegau diweddaraf i ganfod dangosyddion newydd o ganser mewn samplau cleifion â thiwmor ofaraïidd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012
Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd – ymchwil i wlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor
Mae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn astudio sut y gall gwlyptiroedd Cymru reoli llifogydd, dŵr yfed a hyd yn oed newid ein hinsawdd. Dan arweinyddiaeth Yr Athro Chris Freeman mae ymchwil gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd yn cael ei gwneud yn Labordy Wolfson yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012
Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos
Mae'n Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos ac mae'r gwirfoddolwyr yn rhannu te a chwtsh! Bwriad yr Wythnos ydy hyrwyddo’r gwasanaeth gwrando gwerthfawr sydd ar gael am ddim ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos i atgoffa myfyrwyr sut gall Nawdd Nos helpu.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012